Arfer Effeithiol |

Cynllunio a gwrando ar anghenion disgyblion yn gwella safonau

Share this page

Nifer y disgyblion
1300
Ystod oedran
11-18
Dyddiad arolygiad
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Ysgol Esgob Llandaf wedi cyflwyno cyfres o strategaethau llwyddiannus, sydd wedi arwain at welliannau sylweddol yn y ddarpariaeth, gyda deilliannau uchel iawn ar draws pob cyfnod allweddol o ganlyniad.  Mae cyfres gadan o fesurau sicrhau ansawdd, ynghyd â chylch hunanarfarnu hyblyg, wedi helpu i sicrhau lefelau uchel iawn o atebolrwydd deallus, y mae pawb yn ei ddeall yn glir.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Er mwyn helpu i wella’r ysgol yn gyflym, cyflwynodd yr ysgol amrywiaeth o fesurau sicrhau ansawdd i helpu staff ar bob lefel i ddeall eu rôl yn glir ac effeithio’n gadarnhaol ar y ddarpariaeth er mwyn dylanwadu ar ddeilliannau myfyrwyr.

  1. Presenoldeb gweladwy arweinwyr yr ysgol

    Yn 2014, ymunodd pennaeth newydd â’r ysgol.  Lansiodd ymrwymiad i staff, rhieni a myfyrwyr, sef y byddai arweinwyr yr ysgol yn weladwy iawn, ac mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar helpu i lunio diwylliant yr ysgol.  Mae rhan o’r arweinyddiaeth weladwy hon yn ymwneud â rhoi cyfleoedd i randdeiliaid ymgysylltu’n agored.  O’r cyfarfod cyntaf â theuluoedd, fe wnaeth y pennaeth annog rhieni a staff i lenwi holiadur syml yn amlygu tri pheth roedd yr ysgol yn eu gwneud yn dda, dau beth yr oedd angen mynd i’r afael â nhw ar unwaith ac un gair o gyngor i’r pennaeth newydd.  Fe wnaeth yr adborth alluogi nifer o enillion cyflym, lle gellir datrys mân broblemau yn gymharol hawdd.

    Cyflwynodd yr ysgol adeg fisol pan allai teuluoedd ddod i gyfarfod â’r pennaeth, heb apwyntiad, i drafod unrhyw bryderon oedd ganddynt.  Er y daeth niferoedd sylweddol o rieni i fynegi pryder am agweddau penodol ar addysgu ar y cychwyn, mae gan yr ymweliadau hyn fwy o gysylltiad â llwybrau gyrfa a dewisiadau opsiwn erbyn hyn.  Mae’r fenter hon yn galluogi teuluoedd i fynd yn syth at y pennaeth.  Cymaint yw llwyddiant y model fel bod trefniant tebyg wedi’i fabwysiadu yn y chweched dosbarth ac, yn fwy diweddar, yng nghanolfan adnoddau arbenigol yr ysgol i fyfyrwyr ag awtistiaeth.  Agwedd arwyddocaol ar welededd yr arweinwyr fu cyflwyno teithiau dysgu dyddiol.  Mae’r rhain wedi’u hamserlennu ar gyfer pob cyfnod, pob dydd, pan fydd aelod o dîm arwain yr ysgol yn ymweld â phob dosbarth.  Nid yw’r teithiau hyn yn cael eu defnyddio i fesur ansawdd yr addysgu.  Fodd bynnag, prif ddiben y daith yw sicrhau bod yr hinsawdd dysgu fel y’i dymunir ac i weld pobl yn gwneud pethau’n dda.  Mae’r cyfleoedd hyn yn hybu diwylliant lle y mae trafodaethau am ddysgu yn datblygu’n norm, yn hytrach na rheoli gwrthdaro neu broblemau ymddygiad.  Nodwedd arall arweinyddiaeth weladwy fu symud i awyrgylch lle mae arweinwyr yn mynd ati i drafod materion gyda rhanddeiliaid, yn hytrach na chyfathrebu trwy e-bost neu lythyr yn unig.  Bu croeso mawr i’r dull personol hwn ac mae’n sicrhau bod diddordeb mewn aelodau’r gymuned ymhlith yr ymddygiadau amlycaf, ac mae arweinwyr yn ceisio bod yn esiampl o hyn i eraill.

  2. Cylch hunanarfarnu

    Yn ganolog i welliant parhaus y mae cynllun gweithredu 3 blynedd sy’n canolbwyntio’n glir ar y blaenoriaethau a nodwyd gan yr ysgol.  Gan ddefnyddio’r acronym TEAM, mae’r cynllun yn canolbwyntio ar ddatblygu’r meysydd canlynol:

  3. Addysgu ar gyfer dysgu

  4. Ethos ac amgylchedd

  5. Cyflawniad a safonau

  6. Y cyfleoedd mwyaf i staff

    Mae gan bob blaenoriaeth strategol gyfres o feini prawf llwyddiant i alluogi’r ysgol i nodi cynnydd.  Wrth sefydlu’r cynllun, datblygodd yr ysgol grŵp gwella dan gadeiryddiaeth y pennaeth, ac mae’n cynnwys amrywiaeth o staff, gan gynnwys staff cymorth, athrawon ac arweinwyr ar bob lefel.  Wedi’u rhannu’u un o bedwar grŵp, cafodd timau’r her o nodi’r camau yr oedd eu hangen i fodloni’r meini prawf llwyddiant.  Byddai’r grwpiau hyn yn cyfarfod yn rheolaidd dros gyfnod o hanner tymor cyn cyflwyno’u canfyddiadau i dîm arwain yr ysgol.  Ar ôl cwblhau’r broses hon, gweithiodd y pennaeth gyda grŵp bach o fyfyrwyr a oedd yn gallu ychwanegu’u barn am y ffordd orau y gallai’r ysgol gyflawni ei nodau strategol.  Yn olaf, fe wnaeth grŵp dethol o lywodraethwyr ategu at y gwaith, trwy graffu a mynegi eu barn eu hunain.  O ganlyniad, mae cyfeiriad 3 blynedd yr ysgol yn cael ei osod a’i rannu ymhlith cymuned yr ysgol.

    Bwriedir i’r cylch hunanarfarnu fod yn broses barhaus o welliant parhaus.  Mae’r cylch, sy’n para’r flwyddyn ysgol gyfan, yn dechrau gyda myfyrdodau ar berfformiad mewn arholiadau ac asesiadau athrawon.  Fel cam cyntaf, mae holl arweinwyr y cwricwlwm yn arfarnu perfformiad y flwyddyn gynt.  Yn ystod hanner cyntaf tymor yr hydref, mae’r perfformiad hwn yn gysylltiedig â chyfnod allweddol 3, gyda chyfnodau allweddol 4 a 5 yn cael eu harfarnu yn ystod ail hanner y tymor (oherwydd diffyg data arholiadau wedi’i ddilysu).  Yn ogystal â hyn, gofynnir i holl arweinwyr y cwricwlwm nodi tueddiadau o ddata lefel eitem a gafwyd oddi wrth fyrddau arholi.  Mae hyn yn ceisio amlygu unrhyw wendidau penodol y mae angen mynd i’r afael â nhw.  Ar yr un pryd, bydd arweinwyr yn ystyried sut mae’r meysydd i’w datblygu yn cysylltu â chamau a ddymunir i ysgogi gwelliannau.  Trwy weithio’n agos o fewn eu timau eu hunain a chyda’u rheolwyr llinell, caiff cynlluniau gwella adrannol 3 blynedd eu sefydlu a’u haddasu i ganolbwyntio ar flaenoriaethau sy’n deillio o weithgareddau hunanarfarnu.  Yn ystod tymor yr haf, mae arweinwyr canol ac arweinwyr ysgol gyfan yn defnyddio’r dystiolaeth o graffu ar waith ac arsylwadau gwersi i wneud asesiadau cywir am effeithiolrwydd addysgu, asesu a safonau, fel y’u nodir mewn gweithgareddau craffu ar waith.  Mae proses hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwelliant gan arweinwyr canol yn cyfrannu at y broses ysgol gyfan.  Yn ystod tymor yr hydref, mae’r adran ar safonau’n cael ei chwblhau ar ôl derbyn yr holl adroddiadau ar y cwricwlwm ac, yn nhymor yr haf, mae’r pwyslais ar ddarpariaeth ac addysgu.  I gefnogi staff ar bob lefel yn y broses, mae’r ysgol yn creu “WAGOLLs” (What A Good One Looks Like) yn seiliedig ar adran ffug, fel bod gan yr holl arweinwyr feini prawf llwyddiant clir iawn.  Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer sicrhau cysondeb ar draws adrannau ac mae wedi helpu i fagu hyder yng ngallu arweinwyr i arfarnu gwaith eu timau yn effeithiol.

  7. Rheoli perfformiad

    Mae disgwyliadau clir iawn ar gyfer rheoli perfformiad yn sicrhau bod targedau unigol yn perthyn yn agos i uchelgeisiau’r ysgol.  Mae’r holl dargedau rheoli perfformiad unigol cytunedig wedi’u cysylltu ag un o dri maes clir:

  8. Safonau: Byddai hyn yn gysylltiedig â’r gwerth mae athro wedi’i ychwanegu at ei ddosbarthiadau arholiad, gan ddefnyddio offer meincnodi a gydnabyddir yn genedlaethol, fel FFT. Byddai hyn yn ddangosydd syml iawn i fesur yn ei erbyn. Byddai dosbarth yn cyflawni gwerth ychwanegol cadarnhaol (cyfartalog fesul cynnig) neu beidio.

  9. Addysgu: Byddai hyn yn gysylltiedig â maes addysgu cytunedig, er enghraifft technegau holi. I rywun sydd â chyfrifoldeb addysgu a dysgu, byddai’n debygol o fod yn gysylltiedig ag agwedd ar addysgu y mae hunanarfarnu adrannol wedi’i nodi’n ddiffyg. Fel deiliad cyfrifoldeb addysgu a dysgu, byddai disgwyl bod camau gweithredu wedi cael effaith gadarnhaol ar waith aelodau’r tîm yr oeddent yn gyfrifol amdanynt.

  10. Personol: Gallai hyn fod yn gysylltiedig â maes diddordeb neu gyfle posibl i ddatblygu gyrfa.

Bu’r broses yn syml a chlir i’r holl staff ei deall.  Gellir mesur amcanion perfformiad yn hawdd a chaiff staff gyfle i helpu llywio’u hyfforddiant eu hunain trwy feysydd a nodwyd i’w gwella.  Fel arweinwyr ysgol gyfan, byddai cysylltiad agos rhwng yr amcanion fel y gall amcan safonol i bennaeth cynorthwyol fod yn gysylltiedig â pherfformiad gwerth ychwanegol tîm y mae’n gysylltiedig ag ef.  Felly, mae’r model yn cynnig dull cysylltiedig.  O ganlyniad, mae gan staff syniad clir iawn o’r modd y caiff eu gwaith ei asesu ac, yn bwysicach na hynny, datblygwyd “diwylliant dim bai, dim methu”.

  1. Rheolaeth llinell

    Mae cynllun strategol clir a manwl yn helpu i sicrhau cysondeb mewn meysydd pwysig o waith arweinwyr yr ysgol.  Mae’r holl arweinwyr yn yr ysgol yn cael adran ychwanegol yn eu llawlyfrau staff sy’n rhoi arweiniad ar fod yn rheolwyr llinell ar eraill.  Mae’r adran hon yn cynnwys camau gweithredu y dylai arweinwyr ymgymryd â nhw yn ddyddiol, yn wythnosol a bob hanner tymor, yn ogystal â rhoi gwybodaeth o reolaeth llinell i’r tîm arwain am y camau cyffredin y mae angen eu hystyried bob hanner tymor.

    Mae dirprwy bennaeth yr ysgol yn gyfrifol am gyflawniad.  I gefnogi hyn, mae’n cyfarfod â phob arweinydd y cwricwlwm unwaith bob hanner tymor i sicrhau ansawdd cywirdeb mewn rhagfynegiadau proffesiynol.  Un o’i rolau wrth sicrhau ansawdd safonau yw monitro pa fyfyrwyr sy’n perfformio islaw disgwyliadau ond, yn bwysicach na hynny, gwirio’r camau mae arweinwyr yn eu cymryd i sicrhau nad oes effaith negyddol ar berfformiad terfynol.  Mae hyn wedi arwain at ddata lled gywir am fyfyrwyr a dull cyson wrth sicrhau ansawdd gwaith staff.  Effaith y dull hwn fu sicrhau ansawdd adrannau yn llawer mwy trylwyr.  Mae wedi llwyddo i roi disgwyliadau clir i arweinwyr ar bob lefel ac, yn y pen draw, graddau uchel o gysondeb ar draws pob adran.

  2. Wrth geisio sefydlu diwylliant o welliant parhaus yn yr ysgol, rhoddodd yr ysgol y gorau i roi barnau ffurfiol ar wersi wrth eu harsylwi.  Y prif sbardun wrth wraidd hyn oedd ceisio datblygu meddylfryd bod gan yr holl staff y gallu a’r potensial i wella, hyd yn oed os nad oedd angen iddynt wneud.  Fodd bynnag, o ymgysylltu â staff, roedd hi’n glir bod rhoi barnau ffurfiol ar wersi yn peri mwy o bryder i staff am ddiben arsylwadau.  Er bod fframwaith yr ysgol yn galluogi staff i nodi “Sut beth yw rhagorol?”, mae peidio â rhoi barn gyffredinol ar wers wedi helpu i staff werthfawrogi manteision arsylwi arfer yn llawn.  O ganlyniad, mae athrawon erbyn hyn yn fwy o hyderus o lawer i arsylwi gwersi a chael eu harsylwi, gan gymryd risgiau mewn dysgu a gwybod na fyddai camgymeriad yn cael ei ystyried yn rhywbeth negyddol.

    Cafodd defnyddio adolygiadau ffurfiol o bynciau ac adrannau ei drin mewn modd tebyg.  Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o ysgolion, roedd adolygiadau pwnc unigol yn rhan bob dydd o fywyd yr ysgol.  Fodd bynnag, o 2014 ymlaen, fe wnaeth y ffocws ar gyflwyno addysgu o ansawdd uchel, â chysylltiad agos â fframwaith yr ysgol ar gyfer addysgu, symud tuag at adolygiadau thematig trawsadrannol.  Roedd hyn yn debycach i arolygiad bach, gyda maes yn cael sylw bob tymor.  Trwy gydol y flwyddyn, byddai pob aelod staff yn cyfrannu at un o’r adolygiadau thematig i sicrhau bod y staff addysgu ar bob lefel wedi’u cynnwys.  Fodd bynnag, er y byddai adroddiadau’n cael eu hysgrifennu mewn fformat tebyg i arolygiad Estyn, ni roddwyd barnau ffurfiol.  Yn hytrach, byddai adroddiadau’n nodi argymhellion ar gyfer gwella ar lefel ysgol gyfan, adran ac ystafell ddosbarth unigol.  Ar yr un pryd, byddai’r adroddiadau hyn yn amlygu arfer hynod effeithiol, a fyddai’n cael ei rhannu ar draws yr ysgol gyfan fel esiampl o ragoriaeth i eraill.  O ganlyniad, fe wnaeth y broses hon annog llawer mwy o rannu ymhlith staff a lleihau’r pryder ynghylch adolygiadau ac arsylwadau o arferion dyddiol athrawon.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Dros y pedair blynedd diwethaf, bu gwelliannau cyflym yn ansawdd y ddarpariaeth yn yr ysgol.  Mae’r systemau sicrhau ansawdd yn yr ysgol wedi sicrhau bod perfformiad staff yn hynod effeithiol, sy’n effeithio’n gadarnhaol ar ddarpariaeth a safonau.  O ganlyniad, mae cyflawniadau yn yr ysgol yn uchel iawn yn gyson yn erbyn bron pob dangosydd.  Fodd bynnag, effaith bennaf y gwaith fu’r diwylliant sydd wedi gwreiddio yn yr ysgol.  Mae gan arweinwyr a staff ar bob lefel ddealltwriaeth glir iawn o’r egwyddorion a’r arferion sy’n digwydd yn yr ysgol er mwyn cynorthwyo pob unigolyn i fod y gorau y gall fod.  Mae’r ymrwymiad hwn i ddatblygiad y staff wedi arwain at drawsnewid yr ysgol yn gyflym.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae Ysgol Esgob Llandaf yn Ganolfan Broffesiynol Consortiwm Canolbarth y De ac mae wedi datblygu nifer o raglenni datblygu staff ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yn y rhanbarth, yn canolbwyntio ar arwain newid a thrawsnewid ysgolion.

Mae’r ysgol wedi gweithio’n agos â darparwyr eraill er mwyn helpu i wella ysgolion.  Mae hyn wedi cynnwys gweithio gydag ysgol uwchradd arall yn yr awdurdod lleol am 18 mis.  Roedd y bartneriaeth hon yn cynnwys rhannu arferion a strategaethau arwain er mwyn helpu i sicrhau ‘newid’.  Yn ogystal, aeth nifer o aelodau staff ar secondiad i’r ysgol bartner er mwyn helpu i gyflwyno arferion gwella parhaus; mae dau ohonynt wedi sicrhau rolau parhaol yn yr ysgol.  O ganlyniad i’r bartneriaeth, mae’r ysgol bartner ac Ysgol Esgob Llandaf wedi sicrhau gwelliannau parhaus mewn darpariaeth, safonau ac arweinyddiaeth.

Mae’r dulliau hyn wedi helpu i gyfrannu at system hunangynhaliol, wedi’i harwain gan yr ysgol.  Mae’r ysgol yn cynnal hyfforddiant ac ymweliadau ar gyfer cydweithwyr o ysgolion eraill yn rheolaidd.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Gwella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y strategaethau a’r camau gweithredu yr oedd ysgolion uwchradd yn eu defnyddio er mwyn gwella presenoldeb disgyblion. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Arweinwyr ac athrawon yn gosod esiampl dda

Mae arweinwyr ac athrawon yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yn ymroddedig i ddatblygu ansawdd addysgu trwy hyfforddiant, gan osod esiampl dda, a helpu disgyblion i gyflawni eu potensial llawn. ...Read more