Arfer Effeithiol |

Cyngor ysgol yn datblygu lles disgyblion ac yn gosod cyfeiriad strategol

Share this page

Nifer y disgyblion
63
Ystod oedran
4-11
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Beca yn ysgol gynradd wledig cyfrwng Cymraeg ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.  Rhennir yr ysgol i 3 dosbarth oed cymysg.  Addysgir y cyfnod sylfaen mewn un dosbarth ac addysgir cyfnod allweddol 2 fel un adran ond gyda 2 athro cymwysedig mewn ardal dysgu cynllun agored.  Tua 3% o’r disgyblion sydd yn derbyn prydiau ysgol am ddim ac mae’r ysgol wedi adnabod tua 17% o’r disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.  Mae mwyafrif o’r disgyblion yn dod o gartrefi lle Cymraeg yw iaith yr aelwyd.  Cymraeg yw iaith bob dydd yr ysgol a chyfrwng yr addysgu a dysgu.  Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd ers Ionawr 2009. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Wrth gynnal arolwg barn staff a disgyblion trwy holiaduron a chyfarfodydd anffurfiol, adnabuwyd fod y disgyblion yn cael eu cynnwys yn llwyddiannus wrth wneud penderfyniadau yn yr ysgol ond yn aml iawn roedd y penderfyniadau hynny’n ymwneud â gwaith elusennol.  Er i farn y disgyblion gael ei gasglu yn rheolaidd, nid oeddynt yn derbyn y cyfle i gynllunio’r ffordd ymlaen na datrys heriau, oni bai eu bod yn aelodau’r cyngor ysgol.  O ganlyniad dim ond ychydig o ddisgyblion oedd yn cael cyfle i lywio ffordd ymlaen i’r ysgol.  Roedd hyn yn fater y bu i’r ysgol benderfynu ei wella.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Gan fod Ysgol Beca yn gymharol fach o ran nifer y disgyblion, penderfynwyd sefydlu cynghorau o bwrpas yn yr ysgol a sicrhau bod yr aelodaeth yn cynnwys trawstoriad mor eang â phosib o ddisgyblion.  Cytunodd y staff i uno’r cyngor ysgol a’r cyngor eco gan llawer o waith y ddau gyngor yn gorgyffwrdd.  Yn ogystal, sefydlwyd dau gyngor newydd sef ‘Criw Twm Tanllyd’ i weithio ar flaenoriaethau’r siarter iaith a ‘dewiniaid digidol’ er mwyn camu tuag at ddyheadau'r fframwaith digidol.  Penderfynwyd peidio â datblygu mwy o gynghorau er mwyn cadw cydbwysedd llwyth gwaith.  Ar ddechrau’r flwyddyn, sefydlodd y cynghorau holiaduron gyda TGCh er mwyn adnabod cryfderau a gwendidau'r ardaloedd roedden nhw’n gweithio arnynt.  Yn dilyn casglu barn, lluniodd y cynghorau gynllun gweithredu syml i arwain eu gwaith.  Cafodd blaenoriaethau’r cynghorau eu cynnwys yng nghynllun datblygu’r ysgol.  Trafodwyd cynlluniau’r cynghorau mewn cyfarfodydd llywodraethol a rhennir eu gweledigaeth gyda’r rhieni.  Yn ystod y flwyddyn, roedd y cynghorau yn cwrdd yn gyson i werthuso datblygiadau eu gwaith ac i gynllunio’r ffordd ymlaen.  Er mwyn cynnwys barn cymaint o ddisgyblion ag sy’n bosib, defnyddwyd codau ‘QR’ ym mhob dosbarth er mwyn i’r disgyblion rannu eu syniadau.  Mae’r rhain yn caniatáu i’r disgyblion roi syniadau yn syth i gyfrif HWB yr athrawon, er enghraifft yn nodi’r hyn maent eisiau dysgu yn ystod y thema.  Mae QR penodol eraill o amgylch yr ysgol hefyd, sy’n caniatáu i’r disgyblion ddanfon eu sylwadau yn syth at y pennaeth.  Mae’r syniadau hyn yn cael eu cynnwys mewn cyfarfodydd llywodraethol, staff a chyngor eco.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae dull gweithio’r cynghorau yn datblygu'r ymdeimlad o berchnogaeth a balchder y disgyblion am eu hysgol.  Maent yn sylweddoli bod eu syniadau yn cael effaith a bod y staff yn gwrando o ddifrif ar eu sylwadau.  Mae’r staff yn amlygu i’r disgyblion yr enghreifftiau o sut mae eu sylwadau wedi arwain y dysgu a’r gweithgareddau, fel bod yn sicrhau ymrwymiad llwyr i’r gwaith.  O ganlyniad, mae ymroddiad a brwdfrydedd y disgyblion i waith a bywyd yr ysgol yn rhagorol.  

Mae’r gweithgarwch yma wedi datblygu’r disgyblion fel ddinasyddion cydwybodol, gan eu bod yn ystyried holl gymuned yr ysgol yn ogystal a’u dyheadau personol.  Maent yn cynllunio gweithgareddau gan ystyried yr effaith ar holl gymuned yr ysgol.  Ymhlith eu llwyddiannau yn ystod y flwyddyn, maent wedi datblygu ardaloedd dysgu yn yr ysgol i roi cyfle i ddysgwyr fyfyrio, datblygu’n gorfforol, creu hafan ddiogel i blant anabl gyrraedd yr ysgol a sicrhau bod y safle yn ddeniadol ac yn ysgogi balchder ymhlith holl ddefnyddwyr y safle.   Maent wedi llwyddo i sicrhau bod safle’r ysgol ar agor i’r cyhoedd tu allan i oriau ysgol.  Mae criw ‘Twm Tanllyd’ wedi llwyddo i sicrhau bod amgylchedd Ysgol Beca yn gwbl Gymreig ei naws, gan sicrhau ymrwymiad yr holl randdeiliaid i’r iaith Gymraeg, gan ennill cydnabyddiaeth efydd y siarter iaith.  Mae’r criw digidol wedi llwyddo i godi safonau sgiliau TGCh disgyblion yn yr ysgol trwy rannu eu harfer dda a sicrhau bod dealltwriaeth gadarn gyda’r disgyblion a’u rheini am e-ddiogelwch. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn rhannu ei harferion gyda’r llywodraethwyr a rhieni trwy gylchlythyron a chyfarfodydd penodol.  Bydd yr ysgol yn mynd ati i gofrestru’r arfer dda yma ar wefan ERW trwy lwyfan Dolen.

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Arfer Effeithiol |

Datblygu cwricwlwm sy’n gwella medrau disgyblion a’u brwdfrydedd tuag at ddysgu

Mae Ysgol Beca wedi rhoi’r gorau i wersi traddodiadol ac wedi defnyddio cyfnodau dysgu thematig yn y prynhawniau i ddatblygu medrau rhifedd a llythrennedd trwy wyddoniaeth a TGCh. ...Read more