Arfer Effeithiol |

Cyflawni safonau uchel trwy les disgyblion

Share this page

Nifer y disgyblion
187
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Gynradd Craigfelen yn ysgol ofalgar lle y mae pob plentyn yn hapus ac yn llawn cymhelliant.  Cânt eu herio ac maent yn cyflawni safonau uchel trwy gwricwlwm cyffrous, wedi’i gyfoethogi, sy’n paratoi disgyblion at y dyfodol.  Mae cyfleoedd dysgu ar gael yn gyfartal i holl aelodau cymuned yr ysgol ac maent yn mwynhau tyfu a dysgu gyda’i gilydd.  Caiff gweledigaeth yr ysgol ei chrynhoi’n dda gan arwyddair dysgu newydd y disgyblion:

‘Pawb yn dysgu gyda’i gilydd ac yn cael hwyl’ neu ‘Learning together and having fun, there’s room here for everyone!’. 

Mae gan yr ysgol 7 o werthoedd craidd a ddewiswyd gan y cyngor ysgol yn 2013-2014.  Dyfalbarhad, hyder, penderfyniad, brwdfrydedd, ymrwymiad, cymwynasgarwch a goddefgarwch yw’r rhain.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus yr ysgol i’r holl staff yn cwmpasu amrywiaeth fawr o feysydd sy’n gysylltiedig â blaenoriaethau’r ysgol.  Caiff staff eu hannog i ddatblygu’u meysydd arbenigedd eu hunain, er enghraifft mewn medrau entrepreneuraidd, mathemateg, dysgu yn yr awyr agored, lles ac ymgysylltiad teuluol.  Mae’r broses rheoli perfformiad wedi esblygu dros y blynyddoedd diwethaf ar gyfer staff addysgu a staff cyswllt.  Mae arsylwadau cymheiriaid a phartneriaethau wedi bod yn arbennig o llwyddiannus.  

Mae athrawon yn gweithio mewn triawdau ym mhob cyfnod, gyda chyfleoedd i ganolbwyntio ar feysydd y cwricwlwm a strategaethau dysgu ac addysgu.  Mae staff cyswllt yn gweithio mewn parau ac wedi canolbwyntio ar ddatblygu medrau holi ac adborth ysgrifenedig a llafar.  Mae’r defnydd ar arsylwadau cymheiriaid a gweithio cydweithredol yn dangos ymrwymiad yr ysgol i sichrau bod gan staff adnoddau ac amser o ansawdd da i ddefnyddio egwyddorion addysgegol cyffredin i wella profiadau dysgu a deilliannau disgyblion.  Mae sesiynau hyfforddiant yn cael eu cynllunio bob tymor ac maent yn canolbwyntio ar gynnydd yr ysgol o ran ei blaenoriaethau.  Mae llywodraethwyr bellach yn canolbwyntio ar agweddau penodol ar gynllun datblygu’r ysgol ac ymweliadau bob tymor, ac mae cyfarfodydd yn rhoi cyfleoedd i lywio cyfeiriad yr ysgol at y dyfodol.  

Caiff teuluoedd eu hannog i gymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol, yn enwedig trwy’r prosiectau entrepreneuraidd, sy’n cynnig dulliau cyffrous a chreadigol o weithio gyda theuluoedd er mwyn sicrhau bod medrau’n cael eu datblygu trwy weithio gyda’u plant.  Mae cynorthwyydd cymorth bugeiliol yr ysgol bellach yn fedrus iawn am greu cysylltiadau hanfodol â theuluoedd mwy agored i niwed, ac mae ei chysylltiad hi yn aml wedi cael gwared ar rwystrau, gan greu ymddiriedaeth a pherthynas agored gyda theuluoedd er mwyn gwella’u profiadau bywyd.  Mae diwylliant agored yr ysgol ar gyfer rhannu unrhyw broblemau neu bryderon, yn ogystal ag amlygu arfer dda, ac ymrwymiad i wrando ar farn pawb, yn allweddol i lwyddiant y datblygiad hwn.

Wrth ddefnyddio darparwyr allanol, mae arweinwyr yn mynd ati i chwilio am gyfleoedd o ansawdd da i ddysgu’n broffesiynol, gan ddangos ymrwymiad i ddefnyddio amser o ansawdd da i drosglwyddo’r dysgu hwn i’r holl staff, gan felly ymrymuso’r staff a aeth i’r hyfforddiant allanol.  Er enghraifft, cyflwynodd athro newydd gymhwyso strategaethau ymwybyddiaeth o ymlyniad yn ystod diwrnod hyfforddiant i’r holl staff, ac mae’r cynorthwyydd bugeiliol yn rhannu strategaethau’n rheolaidd gyda chynorthwywyr addysgu eraill sy’n gweithio gyda phlant agored i niwed.

Pa effaith gafodd y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r effaith ar gyrhaeddiad a chyflawniad disgyblion wedi bod yn arwyddocaol i lawer o grwpiau disgyblion, gan gynnwys lleihau’r bwlch cyflawniad rhwng disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyfoedion.  Mae canlyniadau mathemateg yr ysgol ar gyfer cyfnod allweddol 2 wedi ei rhoi yn y 25% uchaf o ysgolion tebyg am y 5 mlynedd diwethaf.  Mae dadansoddiad o bresenoldeb dysgwyr mwy agored i niwed, sydd wedi cymryd rhan ym mhrosiect yr ysgol ar y ‘Tîm o Amgylch y Teulu’, wedi dangos cynnydd o 75% ar gyfer y disgyblion dan sylw.  Mae deilliannau ar gyfer y plant hyn yn dangos bod pob un ohonynt wedi cyflawni’r deilliannau disgwyliedig a bod llawer ohonynt wedi rhagori ar ddeilliannau a ragwelwyd.  Mae gweledigaeth yr ysgol wedi gwella lefelau ymgysylltiad rhieni yn arbennig o lwyddiannus.  Chwe blynedd yn ôl, ychydig bach iawn ohonynt oedd yn mynychu gweithdai a bach iawn o waith cartref a gwblhawyd.  O ganlyniad i’r ysgol yn ymgynghori â rhieni a dealltwriaeth fanylach o’r gymuned leol, mae ‘cofnodion dysgu’ bellach yn cael eu mwynhau gartref, ac edrychir ymlaen yn fawr at weithgareddau teuluol.  Mae presenoldeb mewn ‘digwyddiadau mynegi’ tymhorol, pan ddaw rhieni i’r ysgol i rannu a dathlu profiadau dysgu eu plant, ar ei uchaf erioed, gyda phresenoldeb o 85% ar gyfartaledd ar gyfer pob grŵp oedran.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae arweinwyr yr ysgol yn cymryd rhan yn rhagweithiol mewn datblygu medrau arwain staff, llywodraethwyr a disgyblion.  Mae’r dirprwy bennaeth wedi bod ar secondiad i gefnogi ysgol leol, a dewiswyd y dirprwy bennaeth dros dro presennol i roi cyflwyniadau ar feysydd fel gosod targedau a llefaredd yn nigwyddiadau hyfforddi consortiwm rhanbarthol ERW.  Mae arweinydd dros dro y cyfnod sylfaen yn yr ysgol hefyd wedi datblygu dulliau arloesol o ddatblygu proffil y cyfnod sylfaen ac olrhain cynnydd disgyblion.  Yn ogystal, mae hi wedi datblygu trefniadau pontio hynod effeithiol gyda’r lleoliad Dechrau’n Deg.

Mae’r ysgol wedi datblygu systemau arweinyddiaeth wasgaredig effeithiol, gan sicrhau bod yr holl staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cyfrannu at wella dulliau dysgu ac addysgu.  Mae’r ddolen yn dangos fideo ar ddatblygiad staff, a rannwyd yng nghynhadledd yr OECD / Llywodraeth Cymru ar Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu. 

Mae’r amrywiaeth helaeth o grwpiau llais y disgybl yn yr ysgol wedi sicrhau bod disgyblion o bob gallu wedi cael cyfleoedd i ‘dyfu’ fel arweinwyr.  Gallai hunanhyder a hunan-barch llawer o’r disgyblion fod yn isel.  Mae’r ysgol yn credu ei bod yn hollbwysig i ddatblygiad cenhedlaeth nesaf fod ei disgyblion yn cael ‘cyfle i serennu’.  Mae’r ddolen yn dangos fideo a grëwyd gan y disgyblion, ac a rannwyd yng nghynhadledd yr OECD / Llywodraeth Cymru ar Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Gwaith ymgysylltu: Diweddariad ar y sector cynradd Tymor yr haf 2021

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o alwadau ffôn neu ymweliadau ymgysylltu a wnaed â 410 o ysgolion cynradd rhwng 22 Chwefror ac 14 Mai 2021. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Ehangu medrau entrepreneuraidd disgyblion a gwella safonau

Mae Ysgol Gynradd Craigfelen wedi datblygu diwylliant o gydweithredu ac archwilio ar gyfer ei disgyblion trwy lwyddiant mentrau fel caffi ac undeb credyd lleol. ...Read more