Arfer Effeithiol |

Creu strategaethau i ddatblygu annibyniaeth disgyblion

Share this page

Nifer y disgyblion
488
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Coed Efa yng Nghwmbrân yn awdurdod lleol Torfaen.  Er mis Medi 2016, mae’r ysgol ac Ysgol Gynradd Gymunedol Heol Blenheim wedi ffurfio Ffederasiwn Ysgol Gynradd Gymunedol Heol Blenheim ac Ysgol Gynradd Coed Efa.  Mae’r ddwy ysgol yn rhannu’r un pennaeth gweithredol a chorff llywodraethol. 

Mae 488 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 79 o ddisgyblion meithrin sy’n mynychu’r ysgol yn rhan-amser.  Mae 16 o ddosbarthiadau, gan gynnwys tri dosbarth oedran cymysg ac un dosbarth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae tua 20% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sy’n debyg i gyfartaledd Cymru.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan ryw 12% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae hyn yn is na chyfartaledd Cymru.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig ac ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref.

Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er 2009.  Daeth yn bennaeth gweithredol y ddwy ysgol yn y ffederasiwn ym mis Medi 2016.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol yn amgylchedd gofalgar lle mae staff yn annog disgyblion i ddatblygu gwerthoedd personol cryf, fel goddefgarwch, tegwch a pharch.  Mae lles pob un o’r disgyblion yn ganolog i ethos yr ysgol, ac mae hyn yn sicrhau bod yr ysgol yn gymuned hapus lle gall disgyblion ffynnu a dysgu’n dda.

Er mwyn datblygu hyder, annibyniaeth a gwydnwch disgyblion ymhellach, i oresgyn heriau yn eu dysgu a meithrin diwylliant o ymholi a darganfod, dyfeisiodd yr ysgol nifer o strategaethau sy’n gysylltiedig â Meddylfryd Twf ac agweddau dysgwyr at ddysgu.  Ymchwiliwyd i strategaethau ar sail y canfyddiadau a’r ymchwil a gynhaliwyd gan aelodau staff a oedd yn rhan o brosiect Cylchoedd Ymchwil Weithredu (ARC) Prifysgol De Cymru.

Roedd strategaethau yn cynnwys creu, datblygu a gweithredu cymeriadau metawybyddiaeth sy’n unigryw i’r ffederasiwn, strategaeth ‘Pwll Dysgu’ James Nottingham a defnyddio Tîm Arweinyddiaeth Disgyblion yr ysgol i fonitro agweddau disgyblion at ddysgu trwy’r rhaglen ditectifs dysgu.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Datblygodd disgyblion a staff chwech o gymeriadau metawybyddiaeth a storïau perthnasol, er enghraifft, ‘Self-believing Sam’.  Cyflwynir pob cymeriad bob hanner tymor trwy wasanaeth ysgol gyfan.  Yma, caiff y stori ei rhannu a chaiff y disgyblion gyfle i fyfyrio ar sut maent yn mynd i ddefnyddio nodweddion dysgu’r cymeriadau yn eu gwersi.  Atgyfnerthir y negeseuon allweddol yn y dosbarth, lle caiff disgyblion eu gwobrwyo am eu hagweddau cadarnhaol at ddysgu trwy dystysgrifau unigryw, dathliadau trwy gyfryngau cymdeithasol a gwobrau eraill.

Mae’r Tîm Arweinyddiaeth Disgyblion yn cynnal arsylwadau gwersi sy’n canolbwyntio ar ymddygiadau dysgu dysgwyr a’u hagweddau at ddysgu.  Yma, maent yn rhoi adborth i ddisgyblion a staff, gan gynnwys ffyrdd ymlaen, sy’n effeithio ar addysgu a dysgu.  Mae’r Tîm Arweinyddiaeth Disgyblion hefyd yn rhoi adborth i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth (UDA) a’r corff llywodraethol sy’n bwydo’n uniongyrchol i broses hunanarfarnu’r ysgol.

Defnyddir y Pwll Dysgu hefyd fel offeryn i hyrwyddo her, ymholi a darganfod yn yr ystafell ddosbarth.  Yn y cyfnod sylfaen, mae dysgwyr yn defnyddio adnodd ffisegol i ddatblygu gwydnwch a phenderfyniad disgyblion tuag at heriau.  Yng nghyfnod allweddol 2, adeiladir ar y strategaeth i hyrwyddo arfer fyfyriol lle mae disgyblion yn dysgu’n barhaus oddi wrth eu camgymeriadau trwy ymholi a darganfod. 

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae lles disgyblion a’u hagweddau at ddysgu yn gryf iawn.  Mae bron pob un o’r disgyblion yn ymddwyn mewn modd eithriadol o dda mewn gwersi ac amser egwyl.

Mae bron pob un o’r disgyblion wedi eu cymell yn dda iawn ac yn ymgysylltu’n hynod effeithiol â’u dysgu.  Maent yn datblygu medrau dysgu’n annibynnol yn dda yn y cyfnod sylfaen ac yn defnyddio’r rhain yn bwrpasol wrth iddynt symud ymlaen trwy’r ysgol.  Maent yn cydweithio’n dda mewn parau a grwpiau bach, ac o ganlyniad, mae eu hyder wrth siarad â phobl eraill yn datblygu’n dda iawn.  Mae’r rhyngweithio a’r cydweithio cadarnhaol ymhlith disgyblion yn gryfder yn yr ysgol.

Mae bron pob un o’r disgyblion yn ddysgwyr gwydn.  Maent yn hyderus i fentro ac yn ymgymryd â heriau newydd, ac maent yn deall eu bod yn aml yn dysgu o wneud camgymeriadau.  Ar draws yr ysgol, mae disgyblion yn defnyddio ystod dda o strategaethau i’w helpu pan fyddant yn wynebu heriau yn eu gwaith.  Mae hyn yn eu galluogi i ymgymryd â gweithgareddau dysgu newydd yn hyderus.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Ceir cryn dipyn o gydweithio rhwng ysgolion o fewn y clwstwr, y grŵp gwella ysgolion ac ar draws y consortia.  Rhannwyd hyn ar ffurf y rhaglen Ysgolion Rhwydwaith Arweiniol (LNS), trwy Brifysgol De Cymru, partneriaeth ARC a thrwy nifer o bartneriaethau pwrpasol.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Arfer Effeithiol |

Datblygu gwerthoedd personol cryf yn yr ysgol

Caiff disgyblion yn Ysgol Gynradd Coed Efa eu hannog i gymryd rhan mewn grwpiau cyfranogiad disgyblion, sydd wedi eu helpu i ddatblygu gwerthoedd personol cryf. ...Read more
Adroddiad thematig |

Lythrennedd a'r Cyfnod Sylfaen - Medi 2011

pdf, 563.07 KB Added 01/09/2011

Mae’r Cyfnod Sylfaen yn cael effaith gadarnhaol ar les plant pump i chwech oed. ...Read more