Creu diwylliant o gyfrifoldeb ar y cyd i wella addysgu

Argraffu’r dudalen hon
Group of people in a discussion

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Solfach wedi gwneud cynnydd da iawn ers ei harolygiad craidd ym mis Ionawr 2015. Bellach, mae gan arweinwyr ac athrawon ddisgwyliadau uchel am ansawdd yr addysgu ym mhob dosbarth. Mae camau gweithredu a chyfarfodydd yr ysgol yn canolbwyntio’n dda ar wella safonau ac mae pob un o’r staff bellach yn cymryd cyfrifoldeb am wella addysgu ar draws yr ysgol, nid yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain yn unig.


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Solfach ym mhentref Solfach yn Sir Benfro.  Mae tua 70 o ddisgyblion amser llawn yn mynychu’r ysgol, ac mae chwe disgybl arall yn mynychu’r dosbarth meithrin.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn wyn Prydeinig ac mae 4% o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.

Mae tua 4% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 20% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. 

Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er mis Ebrill 2005.  Adeg yr arolygiad, roedd gan yr ysgol bedwar dosbarth oedran cymysg.  Roedd athrawon amser llawn yn addysgu tri o’r dosbarthiadau hyn.  Roedd y pennaeth ac athrawes ran-amser yn rhannu cyfrifoldeb am y dosbarth arall.  Roedd gan y pennaeth ymrwymiad addysgu o bedwar diwrnod yr wythnos.  Mae’r ysgol bellach wedi’i threfnu’n dri dosbarth oedran cymysg.  Mae athrawon parhaol amser llawn, y mae dau ohonynt wedi ymuno â’r ysgol ers yr arolygiad, yn addysgu pob dosbarth erbyn hyn.  Nid oes gan y pennaeth gyfrifoldeb am addysgu dosbarth mwyach.  Er mis Medi 2017, mae’r pennaeth wedi cael ei benodi’n bennaeth gweithredol dros dro ysgol leol arall yn ogystal â bod yn bennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Solfach. 

Bydd Ysgol Gynradd Gymunedol Solfach yn cau ar 31 Awst 2018.  Ar 1 Medi 2018, bydd yr ysgol yn dod yn rhan o ysgol newydd yr Eglwys yng Nghymru i ddisgyblion rhwng 3 ac 16 oed.  Bydd dwy ysgol leol arall, sef Ysgol Dewi Sant ac Ysgol Bro Dewi, yn rhan o’r ysgol pob oed hefyd.  Bydd yr ysgol newydd yn gweithredu ar y tri safle presennol. 

Strategaeth a chamau gweithredu

Ar ôl yr arolygiad craidd, cynigiodd y pennaeth ymddiswyddo.  Fodd bynnag, cynigiodd y corff llywodraethol a’r awdurdod lleol eu cefnogaeth lawn, ac arhosodd y pennaeth yn ei swydd.  O’r cychwyn, roedd y pennaeth a’r staff yn onest iawn â llywodraethwyr, rhieni a disgyblion am y gwelliannau roedd eu hangen a’u penderfyniad i weddnewid yr ysgol.  Y penderfyniad hwn a pharodrwydd y pennaeth i wrando ar gyngor yw conglfaen taith yr ysgol i wella. 

Cymerodd y pennaeth amser i fyfyrio ar ganlyniadau’r arolygiad a sylweddolodd fod angen iddi wneud ei disgwyliadau uchel yn fwy eglur, dirprwyo’n ehangach a dwyn athrawon i gyfrif yn well er mwyn meithrin tîm mwy proffesiynol a chryfach.  Yn y gorffennol, roedd llawer o brosesau’r ysgol yn eithaf anffurfiol ac nid oedd arweinwyr bob amser yn gwirio’n ddigon da fod staff yn cyflawni pwyntiau gweithredu cytûn.  Roedd hyn yn golygu nad oedd cytundebau a luniwyd am strategaethau i wella cynllunio ac ansawdd yr addysgu yn digwydd yn gyson ym mhob dosbarth. 

Gyda chyngor ei hymgynghorydd her, a chymorth gan Estyn yn ystod ymweliad y cynllun gweithredu ôl-arolygiad, ysgrifennodd y pennaeth gynllun gweithredu clir ynglŷn â sut byddai hi a’i staff yn mynd i’r afael â’r argymhellion.  Dirprwyodd y cynllun gyfrifoldebau priodol ymhlith y staff addysgu.  Roedd yr amserlen fisol a oedd yn rhedeg ochr yn ochr â’r cynllun yn cynnwys gwybodaeth berthnasol am raddfeydd amser ar gyfer gweithgareddau, fel hyfforddiant, monitro, ffocws cyfarfodydd a therfynau amser ar gyfer adroddiadau ar gynnydd.  Rhoddodd yr amserlen hon  raddfeydd amser diffiniedig i staff ar gyfer camau gweithredu a llinellau atebolrwydd clir ar gyfer eu meysydd cyfrifoldeb a rhai eu cydweithwyr.  Ar ôl trafod, llofnododd pob un o’r staff y cynllun gweithredu a’r amserlen, a diwygiodd y pennaeth swydd-ddisgrifiadau i adlewyrchu’r cyfrifoldebau newydd a lefel uwch ei disgwyliadau o ran athrawon yn cyflawni rôl ehangach nag yn eu hystafell ddosbarth eu hunain yn unig.  Lluniodd y pennaeth lyfryn am rôl y cydlynydd pwnc hefyd, gan wneud ei disgwyliadau am y rôl yn eglur a rhoi arweiniad defnyddiol i athrawon.  Trwy rannu cyfrifoldeb yn fwy, cafwyd cydweithio cryfach rhwng athrawon a ffocws craffach o lawer ar addysgeg a dysgu.  Erbyn hyn, mae pob cyfarfod yn dilyn fformat safonol ac yn canolbwyntio’n dda ar fusnes craidd yr ysgol i wella dysgu ac addysgu.  Mae pob un o’r athrawon yn cymryd rhan mewn deialog agored a gonest am beth sy’n gweithio’n dda a beth y mae angen iddo ddigwydd nesaf.  Mae’r corff llywodraethol yn cymryd rhan lawn mewn arfarnu pob agwedd ar waith yr ysgol. 

Rhoddodd yr awdurdod lleol a’r consortiwm rhanbarthol gymorth da i’r ysgol i helpu athrawon i wella eu harfer.  Ariannodd yr awdurdod lleol ddau athro o ysgolion eraill am bum niwrnod yr un i weithio ochr yn ochr ag athrawon y cyfnod sylfaen i wella eu dealltwriaeth o egwyddorion y cyfnod.  Arweiniodd y cymorth hwn at welliannau yn arfer athrawon a datblygodd y ddarpariaeth barhaus a’r ddarpariaeth wedi ei chyfoethogi ar gyfer disgyblion.  Roedd athrawon ymgynghorol rhanbarthol a lleol yn darparu cymorth gwerthfawr hefyd.  Er enghraifft, roedd yr athrawes ymgynghorol ar gyfer rhifedd yn helpu athrawon i gynllunio ar gyfer rhifedd ystyrlon ar draws y cwricwlwm.  Roedd yn darparu sesiynau cyfnos hefyd i athrawon ddysgu am strategaethau a methodolegau effeithiol ar gyfer addysgu mathemateg.  Mae hyn wedi arwain at gysondeb gwell yn y ffordd y mae athrawon yn cynllunio ac addysgu mathemateg a pharhad a dilyniant gwell i ddisgyblion.  Llwyddodd ystod eang y cyfleoedd datblygu i wella hyder athrawon wrth gyflwyno gwersi sy’n benodol i bwnc a chynllunio ar gyfer llythrennedd, rhifedd a TGCh ar draws y cwricwlwm.  Mae wedi rhoi hyder hefyd i athrawon weithio gyda’i gilydd i gynllunio profiadau dysgu cyffrous a chreadigol ar gyfer disgyblion.  Er enghraifft, mae athrawon yn cynllunio ar y cyd â’r grŵp actio amatur a’r gwasanaeth tân lleol i gyflwyno diwrnod yr Ail Ryfel Byd pan ymddangosodd ‘bom heb ffrwydro’ ar gae’r ysgol.  Mae profiadau fel y rhain yn ennyn diddordeb disgyblion yn llawn yn eu dysgu ac yn annog athrawon i fwynhau eu haddysgu a chael hwyl hefyd.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r ysgol wedi rhoi mwy o bwyslais ar wella addysgu trwy rannu arferion addysgu o fewn yr ysgol a’r tu allan.  Bellach, caiff athrawon ddau gyfle bob blwyddyn i arsylwi ei gilydd ar thema gytûn.  Mae un o’r athrawon yn addysgu’r wers tra bydd y ddau arall yn arsylwi a gwneud nodiadau ar ansawdd y dysgu a’r safonau.  Mae’r athrawon yn defnyddio’r ffurflenni arsylwi gwersi a ddarperir gan y consortiwm rhanbarthol i lywio eu trafodaethau ar ôl y gwersi.  Fodd bynnag, gallai defnyddio’r ffurflenni hyn ar gyfer arsylwadau cymheiriaid rwystro trafodaeth fuddiol ac mae perygl i’r ymarfer ymwneud yn fwy â thicio blychau i longyfarch cydweithwyr yn hytrach na thrafod effaith yr addysgu ar ddysgu disgyblion. Hefyd, nid yw ticio’r holl flychau gofynnol yn golygu o reidrwydd bod y wers yn dda neu fod yr addysgu’n cael digon o effaith ar ddysgu disgyblion.  Mae athrawon yn teimlo bod y ffurflenni wedi darparu man cychwyn defnyddiol ar gyfer arsylwi cymheiriaid.  Mae’r pennaeth, mewn partneriaeth â’r ymgynghorydd her, yn arsylwi un wers yn ffurfiol bob blwyddyn.  Mae nodiadau a wneir ochr yn ochr â’r ffurflen arsylwi gwers yn dangos bod yr arsylwadau hyn yn rhoi adborth clir i athrawon ar gryfderau mewn addysgu a’r camau nesaf y mae angen iddynt eu cymryd i wella.  Mae deilliannau o arsylwadau gwersi yn bwydo’n briodol i dargedau rheoli perfformiad unigol. 

Mae’r athrawes a gymhwysodd yn ddiweddar sydd yn yr ysgol yn derbyn lefel dda o gymorth gan fentor yr ysgol a chydweithwyr eraill.  Yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn addysgu, cafodd gyfle i fynychu llawer o ddigwyddiadau datblygiad proffesiynol yn ogystal â derbyn 10% o amser digyswllt.  Roedd hyn yn golygu ei bod yn cael cyfleoedd priodol i fyfyrio ar ei harfer ac arsylwi addysgu yn ei hysgol ei hun ac mewn ysgolion eraill. 

Mae’r ddau athro profiadol wedi cymryd rhan mewn triawdau, gan weithio gydag athrawon o ddwy ysgol arall.  Bu un triawd yn archwilio ffyrdd o ddatblygu medrau Cymraeg trwy weithgareddau trawsgwricwlaidd a bu’r llall yn ystyried sut i ddatblygu rhifedd ar draws y cwricwlwm.  Roedd i’r triawdau hyn fformat sesiwn gynllunio ar y cyd ar gyfer y tri athro dan sylw lle gwnaethant gytuno ar ffocws y gwersi.  Wedyn, cynlluniodd athrawon eu gwersi eu hunain ar sail y thema a daeth yr athrawon o’r ysgolion eraill i arsylwi.  Fe wnaethant ailadrodd y fformat hwn ym mhob un o’r tair ysgol.  Gan fod athrawon wedi cymryd rhan yn y triawdau, cawsant amser i fyfyrio ar eu harfer a rhannu syniadau gyda gweithwyr proffesiynol eraill, a dysgu oddi wrthynt. 

Penodwyd pennaeth yr ysgol uwchradd leol, sef Ysgol Dewi Sant, i arwain yr ysgol pob oed newydd.  Mae wedi dyfeisio rhaglen ar gyfer yr athrawon yn y tair ysgol a fydd yn ffurfio’r ysgol newydd.  Mae’r rhaglen hon yn darparu cyfleoedd da i athrawon ym mhob un o’r tair ysgol gymryd rhan mewn prosiect ymchwil deg awr naill ai drwy weithio’n annibynnol neu gydag athrawon eraill yn unrhyw un o’r ysgolion.  Ymgynghorodd pennaeth Ysgol Dewi Sant â’r penaethiaid yn Ysgol Gynradd Gymunedol Solfach ac Ysgol Bro Dewi am y rhaglen a’r deilliannau a fwriedir.  Mae’r naill a’r llall wedi cytuno cyflwyno’r rhaglen i’w staff a chysylltu’r prosiect ymchwil annibynnol â thargedau rheoli perfformiad unigol.  Bydd rhaid i staff ddangos tystiolaeth o’r deg awr y maent wedi gweithio ar eu prosiect.  Nod y rhaglen yw cynnwys yr holl athrawon mewn ymchwil weithredu.  Nid y canlyniad yw’r ffactor sy’n ei yrru; mae’n ymwneud yn fwy ag athrawon yn cael profiad o gynnal ymchwiliad a chael cyfleoedd i weithio ar draws ysgolion a sectorau. 

Mae blaenoriaethau datblygu Ysgol Gynradd Gymunedol Solfach yn parhau i ganolbwyntio ar wella addysgeg athrawon.  Mae targedau ar gyfer y flwyddyn academaidd hon yn cynnwys anelu am ragoriaeth mewn addysgu ym mhob dosbarth a pharatoi staff ar gyfer y cwricwlwm newydd trwy ddatblygu arfer yn unol â’r egwyddorion addysgegol. 

Deilliannau

Mae’r ysgol wedi gwneud cynnydd da iawn ers ei harolygiad craidd.  Mae gan arweinwyr ac athrawon ddisgwyliadau uchel o ansawdd yr addysgu.  Mae cyfarfodydd yn canolbwyntio’n dda ar wella ansawdd ac mae pob un o’r staff yn cymryd cyfrifoldeb am wella addysgu ar draws yr ysgol, nid yn unig yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain.  Mae hyder athrawon yn eu harfer eu hunain a’u parodrwydd i roi cynnig ar syniadau newydd a rhannu eu harfer wedi tyfu’n sylweddol.  Mae’r ysgol yn fwy allblyg erbyn hyn, ac mae’n barod i weithredu yn unol â chyngor ac arfer a welwyd mewn ysgolion eraill.  Mae’r awdurdod lleol yn cydnabod bod rhai agweddau ar arferion yr ysgol yn hynod effeithiol ac mae wedi gofyn i’r ysgol rannu ei dull ag ysgolion eraill.

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

  • Ymgorffori arsylwi cymheiriaid
  • Archwilio a thrafod y 12 egwyddor addysgegol sy’n ategu’r cwricwlwm newydd
  • Rhoi cyfle i athrawon gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil annibynnol
  • Gweithio’n agos gyda’r ysgolion eraill a fydd yn ffurfio’r ysgol newydd i sicrhau parhad a chysondeb o ran addysgeg ac arfer