Chwiliwch am arfer effeithiol

Father helps child with reading

Datblygu arferion darllen da

Fe wnaeth Ysgol Gynradd Alltwen wella safonau darllen disgyblion trwy redeg caffi wythnosol ar gyfer darllen ar y rhyngrwyd. Fe wnaeth hyn alluogi’r ysgol i weithio gyda rhieni i gynyddu cyfleoedd i ddarllen ac i wella arferion darllen. Roedd bron bob un o’r disgyblion a gymerodd ran yn y cynllun wedi gwneud cynnydd a chodi’u hoedran darllen. Mae mwyafrif y disgyblion yn darllen mwy gartref. Hefyd, fe wnaeth y cynllun ganiatáu i’r ysgol ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda rhieni. Darllen mwy >

Parents help children learn at home

Cefnogi ymgysylltiad rhieni trwy weithdai

Mae ymgysylltiad rhieni wedi gwella yn Ysgol Gynradd St Julian, diolch i weithdai a digwyddiadau teuluol. Maent yn rhoi’r cyfle i rieni gefnogi dysgu a lles, gartref ac yn yr ysgol. Mae’r gweithdai yn cynnwys rhieni yn gweithio gyda’u plentyn i weld beth sy’n cael ei addysgu yn yr ysgol fel eu bod yn gallu parhau â’u dysgu gartref. Mae hyder rhieni wrth helpu’u plant i ddysgu wedi gwella, ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar les disgyblion. Darllen mwy >

Lansdowne CS Main.jpg

Gwella ymgysylltu â theuluoedd i ddatblygu lles disgyblion yng nghymuned yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Lansdowne wedi cynyddu ei hymgysylltiad â rhieni yn llwyddiannus trwy weithdai, grwpiau, polisi drws agored a hyd yn oed siop goffi. Mae hyn wedi helpu datblygu perthnasoedd effeithiol gyda theuluoedd disgyblion ac mae’n darparu cyfleoedd ymyrraeth gynnar pan fydd materion yn codi. Darllen mwy >