Chwiliwch am arfer effeithiol

Boys use ICT tablet in class

Ysgol yn helpu disgyblion i ddatblygu medrau TG yn annibynnol

Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd St Julian wedi dod yn fwy annibynnol yn eu defnydd o TG, diolch i fframwaith cymhwysedd digidol yr ysgol. Mae disgyblion yn defnyddio TG yn fwy pwrpasol ac yn cymhwyso’u medrau digidol yn well yn y dosbarth. Mae’r diwylliant ar gyfer dysgu digidol yn cynyddu ac mae disgyblion yn defnyddio TG yn fwy effeithiol o fewn yr ysgol a thu hwnt. Darllen mwy >

Datblygu medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm

Addasodd staff yn Ysgol Gynradd Cwmfelinfach ddarpariaeth y cwricwlwm yn frwd er mwyn canolbwyntio’n gliriach ar ddatblygu medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm. Mae hyn wedi cynnwys trosglwyddo medrau o sesiynau TGCh i waith trawsgwricwlaidd, gan gynyddu ymwneud disgyblion â’u cymuned leol, a gweithio ar y cyd ag ysgol gyfagos. Mae’r astudiaeth achos hon yn cynrychioli datblygiad cwricwlwm yr ysgol yn gysylltiedig â’i chynnydd o ran hunanarfarnu a chynllunio a pharatoi. Darllen mwy >

Ysgol y Wern

Darparu profiadau wedi’u cyfoethogi i ddatblygu medrau

Mae prosiect uchelgeisiol ac arloesol ar y tywydd yn un ffordd y mae Ysgol y Wern wedi datblygu a chynllunio dysgu trawsgwricwlaidd sy’n herio medrau TGCh, rhifedd a llythrennedd disgyblion. Darllen mwy >

Darran Park main.jpg

Rhoi dysgu digidol wrth wraidd y cwricwlwm

Yn Ysgol Gynradd Darran Park, caiff dysgwyr gyfleoedd rheolaidd i ddatblygu medrau digidol, o gydweithio ag ysgolion eraill i ddysgu am yr Ail Ryfel Byd, i ddefnyddio pecynnau meddalwedd arloesol i greu storïau wedi’u hysbrydoli gan Roald Dahl. Darllen mwy >