Chwiliwch am arfer effeithiol

Parent helps child learn

Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda rhieni a theuluoedd

Penododd Ysgol Gynradd Gymunedol Glenboi Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd i hyrwyddo ymglymiad teuluol, sydd wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar agweddau disgyblion at ddysgu a lles. Mae’r Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yn cynorthwyo rhieni mewn angen ac wedi sefydlu Cyngor Rhieni effeithiol. Mae hyder rhieni i gefnogi dysgu eu plant gartref wedi gwella. Mae cysylltu â theuluoedd wedi rhoi dull llwyddiannus i’r ysgol o gyfleu gwybodaeth bwysig am flaenoriaethau’r ysgol gyda rhieni. Darllen mwy >

Pupils working on desk

Rhoi’r grym i ddisgyblion ddysgu

Mae Ysgol Y Foryd yn cefnogi cynnydd a datblygiad disgyblion fel dysgwyr annibynnol trwy ddefnyddio strategaethau asesu ar gyfer dysgu. Mae staff yn addysgu’r disgyblion i wynebu heriau ac yn defnyddio camgymeriadau fel cyfleoedd dysgu. Rhoddir adborth adeiladol iddynt er mwyn eu helpu i ddeall yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella eu gwaith. Mae disgyblion yn cyfrannu at gynllunio gwersi gyda syniadau am yr hyn yr hoffent ei ddysgu, a sut gallant gyflawni hyn. Maent yn annibynnol yn eu dysgu a gallant nodi’r hyn y mae angen iddynt ei wneud er mwyn gwella eu gwaith. Darllen mwy >

Teacher in classroom

Elwa ar frwdfrydedd disgyblion

Bu staff yn Ysgol Gynradd Trinant yn cydweithio â disgyblion ar yr hyn yr hoffent ei ddysgu. Gyda’i gilydd, fe wnaethant gyd-lunio eu taith ddysgu eu hunain. Sicrhaodd y broses hon nad oedd dysgu’n dod yn rhagweladwy a sefydlog. Defnyddiodd yr ysgol grantiau i ariannu profiadau go iawn, yn amrywio o ymchwiliadau safle trosedd i adolygu perfformiadau theatr yn feirniadol. Llwyddodd y gweithgareddau hyn i ennyn diddordeb disgyblion a helpu i ddatblygu diwylliant o ymholi, arloesedd ac archwilio. Llwyddir i elwa ar frwdfrydedd disgyblion ac mae hyn yn eu cymell i lwyddo. Darllen mwy >

Teacher helps pupil with task

Gwneud dysgu yn brofiad byw

Mae staff yn Ysgol Gynradd Ewloe Green yn gwneud i ddysgu ddod yn fyw wrth ddarparu ar gyfer pob math o ddysgwyr drwy ddulliau ymarferol. Mae hyn wedi rhoi hwb i hyder disgyblion ac wedi ennyn diddordeb y rhai sydd wedi bod yn amharod i gyfranogi yn flaenorol. Mae’r ysgol yn canolbwyntio ar chwe maes dysgu trwy gydol y flwyddyn, sy’n cysylltu â’r cwricwlwm newydd yng Nghymru. Mae gwneud dysgu yn brofiad byw wedi rhoi’r cyfle i ddisgyblion leisio’u barnau ar y modd y maent yn dysgu. Darllen mwy >

Teacher supports pupil in classroom

Creu rhwydwaith cymorth disgyblion

Mae sicrhau lefel y gofal, y cymorth a’r arweiniad yn nodwedd gref yn Ysgol Bae Baglan. Mae’r ysgol yn sylweddoli nad yw pob disgybl yn gweithio yn yr un ffordd ac mae wedi creu rhwydwaith cymorth disgyblion. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau cymorth wedi’u teilwra, dysgu hyblyg a chymorth astudio targedig. Eir i’r afael yn llwyddiannus ag anghenion unigol disgyblion, ac yn hynod sensitif. Mae hyn yn eu helpu i ymgymryd yn gadarnhaol â’u dysgu, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gwneud cynnydd cryf. Darllen mwy >

Pupils using leadership skills

Datblygu medrau arwain

Caiff disgyblion yn Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig Sant Joseph eu hannog i ymgymryd ag ystod eang o gyfrifoldebau i wella eu medrau arwain. Mae Senedd yr Ysgol yn cynnwys plant o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 6. Caiff hyn effaith ar annibyniaeth disgyblion, eu medrau cydweithio a’u hagweddau at ddysgu. Trwy ddatblygu camau gweithredu a fydd yn effeithio ar yr ysgol, mae disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac yn datblygu i fod yn unigolion hyderus. Mae’r ymdeimlad hwn o berchnogaeth yn sicrhau eu bod wedi eu cymell ac yn eu helpu i wella eu medrau datrys problemau. Darllen mwy >

Father helps child with reading

Datblygu arferion darllen da

Fe wnaeth Ysgol Gynradd Alltwen wella safonau darllen disgyblion trwy redeg caffi wythnosol ar gyfer darllen ar y rhyngrwyd. Fe wnaeth hyn alluogi’r ysgol i weithio gyda rhieni i gynyddu cyfleoedd i ddarllen ac i wella arferion darllen. Roedd bron bob un o’r disgyblion a gymerodd ran yn y cynllun wedi gwneud cynnydd a chodi’u hoedran darllen. Mae mwyafrif y disgyblion yn darllen mwy gartref. Hefyd, fe wnaeth y cynllun ganiatáu i’r ysgol ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda rhieni. Darllen mwy >

Children playing in playground

Diwylliant yr ysgol yn canolbwyntio ar hawliau plant

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw wedi gwreiddio hawliau plant yn ei diwylliant, gan wella lles disgyblion. Mae ymdeimlad o berchnogaeth o’u hysgol gan y disgyblion, ac maent yn cyfrannu at ei gwelliant. Mae ymddygiad disgyblion yn rhagorol ac mae lefel yr ymrwymiad i ddysgu wedi gwella hefyd. Mae hawliau plant wedi dod yn rhan wirioneddol ac ystyrlon o fywyd dyddiol pob disgybl, ac mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn presenoldeb. Darllen mwy >

Children gather around computer

Ysgol yn datblygu llais y disgybl

Mae llais y disgybl yn ganolog i bob agwedd ar fywyd yr ysgol yn Ysgol Dolbadarn. Nod yr ysgol yw i bob disgybl gymryd perchenogaeth ar yr hyn y maent yn ei ddysgu a mynegi eu barn am weithgareddau allgyrsiol. O ganlyniad i hyn, mae disgyblion yn datblygu’u gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u medrau yn llwyddiannus. Trwy roi cyfle i ddisgyblion ddweud eu dweud yn rheolaidd am gynnwys eu gwersi, mae tystiolaeth yn dangos bod gan ddisgyblion fwy o ddiddordeb a brwdfrydedd ynghylch eu haddysg, a mwy o berchenogaeth arni. Darllen mwy >

Girl in classroom

System olrhain yn helpu disgyblion i gyflawni targedau

Mae disgyblion yng Ngholeg Sant Ioan yn gwneud cynnydd amlwg trwy gydol y flwyddyn, diolch i system olrhain wedi’i mireinio. Nod y system olrhain yw cynorthwyo a herio disgyblion i gyflawni o’u gorau. Gosodir targedau bob tymor, sy’n helpu i annog dysgu a hunanfyfyrio annibynnol. Mae tiwtoriaid dosbarth yn trafod y targedau gyda’r disgyblion ac yn llunio targedau SMART i wella ar gyfer y tymor nesaf. Mae hyn yn eu galluogi i gymryd perchnogaeth o’u dysgu a’u cynnydd. Darllen mwy >

Pages