Chwiliwch am arfer effeithiol

Pupils working together in classroom

Creu strategaethau i ddatblygu annibyniaeth disgyblion

Mae staff yn Ysgol Gynradd Coed Efa wedi cymryd rhan mewn ymchwil i greu strategaethau yn seiliedig ar agweddau disgyblion at ddysgu. Crëwyd strategaethau i ddatblygu hyder, annibyniaeth a gallu disgyblion i oresgyn heriau yn eu dysgu. Mae’r ysgol yn hyrwyddo diwylliant o ymholi a darganfod trwy ddatblygu cymeriadau â storïau perthnasol. Mae’r cymeriadau hyn yn rhoi cyfle i ddisgyblion ddatblygu eu medrau dysgu’n annibynnol, a myfyrio ar sut gallant ddefnyddio nodweddion dysgu’r cymeriadau yn eu gwersi. Darllen mwy >

Teacher helps child in classroom

Olrhain cynnydd i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol disgyblion

Mae gan Ysgol Esgob Morgan ddull sy’n canolbwyntio ar y disgybl o ran anghenion dysgu ychwanegol. Mae staff yn olrhain cynnydd disgyblion i nodi dysgwyr sydd angen cymorth ychwanegol. Mae pecyn ymyrraeth yn galluogi staff i weld pa ddisgyblion y mae angen eu hychwanegu at, neu’u tynnu oddi ar, y rhaglen ymyrraeth. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod pob un o’r staff yn cael eu grymuso i gynorthwyo disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae safonau wedi cynyddu, a gwnaeth mwyafrif y disgyblion gynnydd mewn sillafu, darllen a mathemateg. Darllen mwy >

Industry expert helps college students prepare for their next step

Paratoi myfyrwyr ar gyfer eu cam nesaf ar ôl y coleg

Gall myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr gael cymorth gan arbenigwyr i’w paratoi at eu cam nesaf ar ôl y coleg. Mae dysgwyr sy’n ystyried mynd ymlaen i addysg uwch yn gallu defnyddio gweithdai, anerchiadau a chyfweliadau ffug gydag arbenigwyr diwydiant wrth ysgrifennu’u ceisiadau prifysgol. Mae dysgwyr sy’n dymuno mynd ymlaen i waith ar ôl cwblhau eu hastudiaethau yn cael tiwtorialau a chymorth arbenigol i’w helpu i fynd ymlaen i’w dewis lwybr gyrfaol. Darllen mwy >

Pupils uses laptop and shows good behaviour

Lleihau ymddygiad heriol trwy strategaeth rheoli cadarnhaol

Mae Ysgol Tŷ Bronllys wedi datblygu ymagwedd ataliol at reoli ymddygiad, gan ganolbwyntio ar y rhesymau dros ddigwyddiad a chyflwyno strategaeth rheoli ymddygiad yn gadarnhaol. Roedd hyfforddiant ar reoli ymddygiad wedi’i integreiddio i gyfnodau sefydlu’r holl staff, ac wedyn rhoddwyd cyfle i ddilyn cymhwyster wedi’i achredu. Rhoddir cynllun cymorth ymddygiad cadarnhaol unigol i ddisgyblion, sy’n rhoi arweiniad ar sut gall staff fodloni eu hanghenion cymorth. Mae hyn wedi cynyddu presenoldeb, cyflawniad academaidd ac wedi gwella lles i’r holl ddisgyblion. Darllen mwy >

Pupils playing together while Teacher observes

Ysgol yn datblygu profiad dysgu arloesol i ddisgyblion

Mae Ysgol Gynradd Cogan wedi gwella safonau a lles drwy’r ysgol gyfan. Mae ei diwylliant dysgu wedi rhoi’r hyder i staff rannu dulliau sy’n arwain at gyfleoedd dysgu gwell i ddisgyblion. Mae menter ‘bydis’ yn galluogi disgyblion i rannu eu gwaith a thrafod eu mwynhad wrth ddysgu. Mae hefyd yn darparu ffynhonnell effeithiol o fonitro anffurfiol i athrawon. Darllen mwy >