Chwiliwch am arfer effeithiol

Datblygu medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm

Addasodd staff yn Ysgol Gynradd Cwmfelinfach ddarpariaeth y cwricwlwm yn frwd er mwyn canolbwyntio’n gliriach ar ddatblygu medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm. Mae hyn wedi cynnwys trosglwyddo medrau o sesiynau TGCh i waith trawsgwricwlaidd, gan gynyddu ymwneud disgyblion â’u cymuned leol, a gweithio ar y cyd ag ysgol gyfagos. Mae’r astudiaeth achos hon yn cynrychioli datblygiad cwricwlwm yr ysgol yn gysylltiedig â’i chynnydd o ran hunanarfarnu a chynllunio a pharatoi. Darllen mwy >

children and piano

Arsylwi athrawon ac adolygiad o feysydd dysgu a phrofiadau yn ysgogi cwricwlwm cyfoethog

Fe wnaeth trawsnewid y cwricwlwm yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth gymryd dros ddwy flynedd. Gydag arweinyddiaeth angerddol, hunanarfarnu cryf a chynllunio gofalus, mae’r ysgol bellach yn cyflwyno profiadau cwricwlaidd cyfoethog i’w ddisgyblion. Mae’r astudiaeth achos hon yn portreadu datblygiad cwricwlwm yr ysgol o safbwynt hunanarfarnu, cynllunio a pharatoi, gwireddu newid ac arfarnu newid. Darllen mwy >

Sesiynau trafod yn amlygu cyfleoedd am ddiwygio pellgyrhaeddol

Cynhaliodd pennaeth Ysgol y Faenol gyfres o sesiynau trafod i staff, gan eu galluogi i amlygu cyfleoedd pellgyrhaeddol i wreiddio pedwar diben diwygio’r cwricwlwm. Mae mentrau sy’n deillio o’r rhain yn cynnwys prosiectau llefaredd, prosiectau dysgu cydweithredol a chryfhau llais y disgybl. Mae’r astudiaeth achos hon yn cynrychioli datblygiad cwricwlwm yr ysgol yn gysylltiedig â’i chynnydd o ran hunanarfarnu a chynllunio a pharatoi. Darllen mwy >

Arloesi drwy waith tîm

Mae Ysgol Gynradd Sirol Bryn Deva yn datblygu arfer dda drwy brosiectau arfer myfyriol mewnol, yn gosod lles disgyblion yn brif flaenoriaeth, ac yn dewis themâu’r cwricwlwm yn ôl anghenion a diddordebau disgyblion. Darparodd prosiect adeiladu llong ar Afon Dyfrdwy ffordd greadigol o wella llythrennedd bechgyn. Mae’r astudiaeth achos hon yn cynrychioli datblygiad cwricwlwm yr ysgol yn gysylltiedig â’i chynnydd o ran hunanarfarnu, cynllunio a pharatoi, a gwireddu newid. Darllen mwy >

Cynllunio’r cwricwlwm i sicrhau profiadau creadigol i ddisgyblion

Wrth adolygu’r cwricwlwm, penderfynodd Ysgol y Dderi addasu ei chynllunio er mwyn datblygu medrau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm. Mae staff a disgyblion yn cyfrannu ar y cyd ac maent yn hyblyg i newid. Mae ymwelwyr â’r ysgol wedi ysbrydoli a chyfoethogi cyfleoedd dysgu. Mae’r astudiaeth achos hon yn cynrychioli datblygiad cwricwlwm yr ysgol yn gysylltiedig â’i chynnydd o ran hunanarfarnu, cynllunio a pharatoi, a gwireddu newid. Darllen mwy >

Cwricwlwm seiliedig ar fedrau, gyda mwy o gyd-destunau lleol

Mae Ysgol Gynradd Kitchener wedi addasu ei gwricwlwm i ganolbwyntio’n fwy ar yr hyn mae disgyblion eisiau ei ddysgu, gan ddefnyddio cyd-destunau mwy lleol ar gyfer dysgu. Rhoddwyd amserlen hyblyg ar brawf, i alluogi archwilio meysydd yn fanylach a chynnig mwy o her. Mae sesiynau rheolaidd gyda rhieni hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth. Mae’r astudiaeth achos hon yn cynrychioli datblygiad cwricwlwm yr ysgol yn gysylltiedig â’i chynnydd o ran hunanarfarnu, a chynllunio a pharatoi. Darllen mwy >

Gweithgareddau creadigol ac ysgogol trwy ddiwrnodau trochi disgyblion

Datblygodd uwch arweinwyr gynllun ar gyfer dysgu proffesiynol, gan alluogi staff i ymgymryd ag ymchwil ryngwladol i’r cwricwlwm. Bellach, mae’r holl staff yn gallu monitro, arfarnu ac adolygu newidiadau i’r cwricwlwm a chymryd rhan weithgar mewn cynllunio ar y cyd ar gyfer newid. Fel rhan o’r newidiadau hyn, mae diwrnodau trochi disgyblion yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau creadigol ac ysgogol, ac yn ystod pontio, mae pob disgyblion yn creu mapiau meddwl o’u diddordebau a meysydd ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Mae’r astudiaeth achos hon yn cynrychioli datblygiad cwricwlwm yr ysgol yn gysylltiedig â’i chynnydd o ran hunanarfarnu, a chynllunio a pharatoi. Darllen mwy >

Creadigrwydd wrth gofnodi asesiadau disgyblion

Yn Ysgol Gynradd Radnor Valley, mae creadigrwydd athrawon o ran y cwricwlwm yn ymestyn i’r ffordd y caiff asesiadau disgyblion eu recordio. Mae disgyblion yn dewis eu meini prawf llwyddiant heriol ar gyfer pob gweithgaredd ac mae athrawon yn arfarnu lle y mae disgyblion ar “gynllun hedfan” eu taith wella. Mae’r astudiaeth achos hon yn cynrychioli datblygiad cwricwlwm yr ysgol yn gysylltiedig â’i chynnydd o ran hunanarfarnu, a chynllunio a pharatoi. Darllen mwy >

child and rocket

Esblygu arferion y cyfnod sylfaen yng nghyfnod allweddol 2 yn cynhyrchu cwricwlwm arloesol

Mae dysgu ac addysgu yng nghyfnod allweddol 2 yn adeiladu ar arferion y cyfnod sylfaen yn Ysgol Heulfan. Mae plant yn ffynnu trwy ddarganfod yn annibynnol a thrwy bynciau cyffrous, a hynny wedi’i ategu gan gefnogaeth athrawon a nodau cyffredinol ar draws yr ysgol. Mae’r astudiaeth achos hon yn portreadu datblygiad cwricwlwm yr ysgol o safbwynt ei chynnydd wrth hunanarfarnu, cynllunio a pharatoi, a gwireddu newid. Darllen mwy >

penguins

Llais y disgybl yn arwain y ffordd o ran arfarnu cwricwlwm llwyddiannus

Mae gwaredu ofn bod yn anghywir yn ganolog i ysbrydoli dysgu ac addysgu creadigol yn Ysgol Cynwyd Sant. Yn sgil ffocws cryf ar lais y disgybl, mae’r ysgol gynradd wedi annog staff i arbrofi â ffyrdd gwahanol o gynnig profiadau dysgu gan ddefnyddio cyd-destunau bywyd go iawn. Mae’r astudiaeth achos yn portreadu datblygiad cwricwlwm yr ysgol o safbwynt ei chynnydd wrth hunanarfarnu, cynllunio a pharatoi, a gwireddu newid. Darllen mwy >

Pages