Chwiliwch am arfer effeithiol

College staff works with school pupil to look at next step choices

Rhoi’r grym i fyfyrwyr archwilio llwybrau addysg gwahanol

Trwy weithio’n agos gydag ysgolion, mae Coleg Gŵyr yn rhoi’r grym i ddisgyblion 14-16 oed archwilio’r holl lwybrau addysg sydd ar gael iddynt. Mae rhaglen ‘kick start’ yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio amrywiaeth o sectorau cyn penderfynu ar astudiaethau pellach, hyfforddiant neu waith. Mae cysylltiadau’r coleg ag ysgolion yn caniatáu iddynt chwalu’r rhwystrau rhag addysg bellach a medrau lefel uwch. Darllen mwy >

dysgu

Helpu dysgwyr â’u medrau Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth gyda darpariaeth ychwanegol

Ar gais dysgwyr, mae Dysgu Cymraeg Morgannwg wedi ymestyn eu hamrywiaeth o gyrsiau Cymraeg i helpu datblygu medrau y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae’r rhain yn cynnwys grwpiau darllen/trafod mewn amrywiaeth o feysydd, a gynhelir yn ystod misoedd yr haf gyda chymorth tiwtoriaid profiadol. Darllen mwy >

Cwricwlwm hyblyg sy’n ymateb i anghenion dysgwyr unigol

Mae’r cwricwlwm yn Ysgol Uwchradd Fitzalan wedi’i deilwra yn unol â photensial, cynnydd a gallu pob dysgwr. Mae natur hyblyg y cwricwlwm yn golygu y gall staff ymateb i anghenion dysgwyr trwy gydol y flwyddyn. Darllen mwy >

Gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo buddsoddi mewn medrau a mynediad at addysg ôl-16

Mae Coleg Penfro wedi datblygu partneriaethau sy’n cefnogi datblygiad medrau yn Sir Benfro, yn gwella mynediad dysgwyr at addysg ôl-16 ac yn ymgysylltu â grwpiau sy’n anodd eu cyrraedd. Darllen mwy >

Strategaethau ar gyfer cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg gan ddysgwyr ar bob lefel

Mae menter Seren Iaith Grŵp Llandrillo Menai yn herio agweddau dysgwyr tuag at ddefnyddio’r iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn gymdeithasol ac yn academaidd. Darllen mwy >