Chwiliwch am arfer effeithiol

Boys use ICT tablet in class

Ysgol yn helpu disgyblion i ddatblygu medrau TG yn annibynnol

Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd St Julian wedi dod yn fwy annibynnol yn eu defnydd o TG, diolch i fframwaith cymhwysedd digidol yr ysgol. Mae disgyblion yn defnyddio TG yn fwy pwrpasol ac yn cymhwyso’u medrau digidol yn well yn y dosbarth. Mae’r diwylliant ar gyfer dysgu digidol yn cynyddu ac mae disgyblion yn defnyddio TG yn fwy effeithiol o fewn yr ysgol a thu hwnt. Darllen mwy >

school playground

Datblygu cwricwlwm sy’n gwella medrau disgyblion a’u brwdfrydedd tuag at ddysgu

Mae Ysgol Beca wedi rhoi’r gorau i wersi traddodiadol ac wedi defnyddio cyfnodau dysgu thematig yn y prynhawniau i ddatblygu medrau rhifedd a llythrennedd trwy wyddoniaeth a TGCh. Mae addysgu’n digwydd mewn grwpiau bychain yn hytrach nag ar ffurf dysgu dosbarth cyfan. O ganlyniad i gynllunio da, mae disgyblion wedi datblygu i lefelau uchel iawn, maent yn ymfalchïo yn eu gwaith ac yn cymryd perchenogaeth arno. Darllen mwy >

children jumping mountain

Olrhain cynnydd disgyblion i wella safonau lles a chyrhaeddiad

Mae staff hynod fedrus ac ymroddedig yn Ysgol Bro Gwydir yn cyflwyno amrywiaeth o gynlluniau ac ymyriadau sydd wedi cael effaith arwyddocaol ar safonau lles a chyrhaeddiad disgyblion. Mae disgyblion wedi elwa o glwb magu hyder, clwb antur fawr, grwpiau ffocws i ddisgyblion, a mwy. Mae system sy’n olrhain cyflawniad a datblygiad emosiynol wedi gwella lles a deilliannau disgyblion yn llwyddiannus iawn. Mae hyn yn sicrhau bod athrawon yn gallu canolbwyntio ar feysydd i’w datblygu y mae ar eu disgyblion eu hangen. Darllen mwy >

tavern

Datblygu cwricwlwm seiliedig ar fedrau mewn ysgol gynradd

Fe wnaeth Ysgol Gynradd Tafarnsbeit ymchwilio i weithgareddau dysgu diddorol a’u datblygu er mwyn gwella’u medrau trawsgwricwlaidd mewn cyd-destunau ystyrlon i gyflawni galwadau statudol y cwricwlwm newydd. Darllen mwy >

teacher and children

Athrawon yn cydweithio â’i gilydd i sicrhau bod strategaethau’n datblygu medrau craidd disgyblion

Mae gan Ysgol Abercaseg safonau cyson uchel o ganlyniad i weithgareddau hunanarfarnu parhaus. Mae’r ysgol wedi datblygu strategaethau cryf i gynorthwyo ei dysgwyr, ac mae athrawon wedi cydweithio â’i gilydd er mwyn gwneud yn siŵr fod llesiant a lles dysgwyr yn flaenoriaeth. Mae hyn wedi arwain at safonau uchel, datblygu medrau craidd dysgwyr ac, yn benodol, rhifedd. Darllen mwy >

Datblygu medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm

Addasodd staff yn Ysgol Gynradd Cwmfelinfach ddarpariaeth y cwricwlwm yn frwd er mwyn canolbwyntio’n gliriach ar ddatblygu medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm. Mae hyn wedi cynnwys trosglwyddo medrau o sesiynau TGCh i waith trawsgwricwlaidd, gan gynyddu ymwneud disgyblion â’u cymuned leol, a gweithio ar y cyd ag ysgol gyfagos. Mae’r astudiaeth achos hon yn cynrychioli datblygiad cwricwlwm yr ysgol yn gysylltiedig â’i chynnydd o ran hunanarfarnu a chynllunio a pharatoi. Darllen mwy >

Dysgu trwy chwarae mewn cyd-destun bywyd go iawn

Mae creu ‘pentref’ yn Ysgol Gynradd Tregatwg yn annog plant yn y cyfnod sylfaen i ddatblygu llawer o fedrau trwy ddarparu profiadau mewn cyd-destun bywyd go iawn. Darllen mwy >

Ysgol y Wern

Darparu profiadau wedi’u cyfoethogi i ddatblygu medrau

Mae prosiect uchelgeisiol ac arloesol ar y tywydd yn un ffordd y mae Ysgol y Wern wedi datblygu a chynllunio dysgu trawsgwricwlaidd sy’n herio medrau TGCh, rhifedd a llythrennedd disgyblion. Darllen mwy >

Mynydd CS Main.jpg

Creu cwricwlwm arloesol gan ddefnyddio’r celfyddydau mynegiannol

Mae Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig wedi rhoi’r celfyddydau mynegiannol wrth wraidd datblygu cwricwlwm arloesol. Trwy ennyn diddordeb a dal dychymyg disgyblion, mae wedi cael effaith gadarnhaol ar eu mwynhad o ddysgu ac wedi gwella perthnasoedd athrawon/disgyblion yn ogystal â deilliannau. Darllen mwy >

Gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo buddsoddi mewn medrau a mynediad at addysg ôl-16

Mae Coleg Penfro wedi datblygu partneriaethau sy’n cefnogi datblygiad medrau yn Sir Benfro, yn gwella mynediad dysgwyr at addysg ôl-16 ac yn ymgysylltu â grwpiau sy’n anodd eu cyrraedd. Darllen mwy >

Pages