Chwiliwch am arfer effeithiol

rainbow

Dathlu amrywiaeth er mwyn cefnogi disgyblion gwybodus, cyfrifol a goddefgar

Mae Ysgol Gynradd Clytha yn annog disgyblion i wneud penderfyniadau, bod yn chwilfrydig a meddwl yn annibynnol trwy herio stereoteipiau yn agweddau, dewisiadau, disgwyliadau a chyflawniadau disgyblion. Mae’r ysgol wedi datblygu cysylltiadau hynod effeithiol gydag amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Stonewall Cymru, Athletwyr Paralympaidd a Chymru dros Heddwch i gefnogi datblygiad personol disgyblion. Mae’r ysgol yn defnyddio ymwelwyr o’r gymuned a thu hwnt i gael pob disgybl i fyfyrio ar eu gwerthoedd. Mae hyn wedi rhoi’r grym i ddisgyblion ddatblygu fel dinasyddion gwybodus, cyfrifol a goddefgar yn llwyddiannus iawn. Darllen mwy >

three girls

Gwella lles disgyblion a’u hagweddau at ddysgu trwy gyfoethogi’r cwricwlwm

A hithau wedi’i hysbrydoli a’i hymrymuso gan y cwricwlwm newydd, mae Ysgol Gynradd Maes yr Haul wedi cyflwyno clybiau amser cinio ac ar ôl ysgol i ehangu’r amrywiaeth o gyfleoedd i ddisgyblion, gan eu hannog nhw i roi cynnig ar weithgareddau newydd i wella lles. Mae’r rhain yn cynnwys dysgu am dyfu planhigion yn y clwb garddio a datblygu medrau meddwl yn y clwb codio. O ganlyniad, mae safonau disgyblion wedi gwella ac mae hyder ac arbenigedd staff wedi datblygu. Darllen mwy >

Ymateb graddedig hynod effeithiol sy’n hyrwyddo cynhwysiant yn llwyddiannus

Mae Ysgol Coedcae wedi gwneud defnydd effeithiol o fedrau staff i sicrhau bod cymorth targedig i ddysgwyr agored i niwed. Mae ffocws cadarnach ar gynwysoldeb wedi galluogi mwy o ddisgyblion i gynnal eu lle yn yr ysgol heb angen symud wedi’i reoli i ddarparwr arall. Mae sesiynau mentora unigol yn y bore, sesiynau grŵp storïau cymdeithasol a grwpiau darllen carlam pwrpasol, ynghyd â chlybiau anogaeth peth cyntaf yn y bore, yn rhan o strategaeth i feithrin ymddiriedaeth rhwng disgyblion agored i niwed a’r oedolion sy’n weithwyr allweddol iddynt. Darllen mwy >

Defnyddio hunanarfarnu i herio ac annog disgyblion mwy abl a thalentog

Mae Ysgol y Preseli wedi ailosod ffocws ei dehongliad o ddisgyblion mwy abl ac mae wedi diweddaru’i harferion i sicrhau ei bod yn ystyried anghenion unigol disgyblion. Defnyddir cynlluniau gwella ac mae arweinydd â chyfrifoldeb am ddisgyblion mwy abl a thalentog yn arwain sesiynau hyfforddi staff er mwyn sicrhau ymagwedd gyson ar draws yr ysgol. Mae systemau mentora yn cynnig her ychwanegol i’r disgyblion hyn a darperir cyfleoedd i astudio TGAU ychwanegol. Darllen mwy >

child and woman

Datblygu medrau cymdeithasol ac emosiynol plant trwy gysylltiadau â’r gymuned

Mae plant ym Meithrinfa Ddydd Banana Moon yn ymweld â chartref gofal preswyl lleol sydd o fudd i’r naill a’r llall. Gall y plant ddatblygu eu medrau cymdeithasol ac emosiynol ac mae preswylwyr yn awyddus i ryngweithio â nhw. Darllen mwy >

LLanfaes School Main.jpg

Creu ymwybyddiaeth o ddementia trwy ryngweithio â disgyblion ac estyn allan i’r gymuned

Er 2014, mae Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfaes wedi cydweithio â chartref gofal cyfagos i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia ymhlith ei disgyblion. Mae nod yr ysgol i greu cenhedlaeth sy’n deall dementia wedi cael ei gydnabod gan sefydliadau elusennol a Llywodraeth Cymru. Darllen mwy >

Datblygu dinasyddion Cymreig cyflawn a pharchus

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn gymuned ysgol gefnogol a chroesawgar. Adlewyrchir hyn yng nghwricwlwm a gweithgareddau ehangach yr ysgol. Darllen mwy >

Dull ataliol o gefnogi lles

Mae Ysgol Rougemont wedi mabwysiadu dull ysgol gyfan o gefnogi gwydnwch a lles. Mae’r mentrau wedi galluogi disgyblion i ffynnu yn eu datblygiad academaidd, cymdeithasol ac emosiynol. Darllen mwy >