Chwiliwch am arfer effeithiol

pupils to developing life skills

Defnyddio rhaglen gyfoethogi i wella medrau

Creodd staff yn Ysgol Uwchradd Gatholig Esgob Hedley raglen gyfoethogi o’r enw ‘Opening Minds’. Mae’r rhaglen yn helpu disgyblion i ddatblygu medrau bywyd pwysig ac mae’n ategu cyflwyno’r cwricwlwm newydd. Caiff disgyblion eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau nad ydynt wedi’u gwneud o’r blaen. Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu disgyblion i herio eu meddylfryd a datblygu dealltwriaeth well o amrywiaeth a pharchu pobl eraill. Mae’r rhaglen wedi galluogi dysgwyr i fod yn berchen ar eu datblygiad ac wedi gwella lles ac agweddau at ddysgu. Darllen mwy >

Pupils working on desk

Rhoi’r grym i ddisgyblion ddysgu

Mae Ysgol Y Foryd yn cefnogi cynnydd a datblygiad disgyblion fel dysgwyr annibynnol trwy ddefnyddio strategaethau asesu ar gyfer dysgu. Mae staff yn addysgu’r disgyblion i wynebu heriau ac yn defnyddio camgymeriadau fel cyfleoedd dysgu. Rhoddir adborth adeiladol iddynt er mwyn eu helpu i ddeall yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella eu gwaith. Mae disgyblion yn cyfrannu at gynllunio gwersi gyda syniadau am yr hyn yr hoffent ei ddysgu, a sut gallant gyflawni hyn. Maent yn annibynnol yn eu dysgu a gallant nodi’r hyn y mae angen iddynt ei wneud er mwyn gwella eu gwaith. Darllen mwy >

Teacher in classroom

Elwa ar frwdfrydedd disgyblion

Bu staff yn Ysgol Gynradd Trinant yn cydweithio â disgyblion ar yr hyn yr hoffent ei ddysgu. Gyda’i gilydd, fe wnaethant gyd-lunio eu taith ddysgu eu hunain. Sicrhaodd y broses hon nad oedd dysgu’n dod yn rhagweladwy a sefydlog. Defnyddiodd yr ysgol grantiau i ariannu profiadau go iawn, yn amrywio o ymchwiliadau safle trosedd i adolygu perfformiadau theatr yn feirniadol. Llwyddodd y gweithgareddau hyn i ennyn diddordeb disgyblion a helpu i ddatblygu diwylliant o ymholi, arloesedd ac archwilio. Llwyddir i elwa ar frwdfrydedd disgyblion ac mae hyn yn eu cymell i lwyddo. Darllen mwy >

Teacher helps pupil with task

Gwneud dysgu yn brofiad byw

Mae staff yn Ysgol Gynradd Ewloe Green yn gwneud i ddysgu ddod yn fyw wrth ddarparu ar gyfer pob math o ddysgwyr drwy ddulliau ymarferol. Mae hyn wedi rhoi hwb i hyder disgyblion ac wedi ennyn diddordeb y rhai sydd wedi bod yn amharod i gyfranogi yn flaenorol. Mae’r ysgol yn canolbwyntio ar chwe maes dysgu trwy gydol y flwyddyn, sy’n cysylltu â’r cwricwlwm newydd yng Nghymru. Mae gwneud dysgu yn brofiad byw wedi rhoi’r cyfle i ddisgyblion leisio’u barnau ar y modd y maent yn dysgu. Darllen mwy >

Pupils working together in classroom

Datblygu gwerthoedd personol cryf yn yr ysgol

Caiff disgyblion yn Ysgol Gynradd Coed Efa eu hannog i gymryd rhan mewn grwpiau cyfranogiad disgyblion, sydd wedi eu helpu i ddatblygu gwerthoedd personol cryf. Trwy ymgymryd ag ystod eang o gyfrifoldebau, mae disgyblion wedi gwella eu medrau arwain. Mae’r cynllun wedi cael effaith gadarnhaol ar safonau ymddygiad a lles, ac mae wedi gwella addysgu a dysgu. Mae disgyblion yn parhau i ddangos cymhelliant a diddordeb gan eu bod yn cael dweud eu dweud ynglŷn â beth maent yn ei ddysgu, a sut. Darllen mwy >

Pupils working together in classroom

Creu strategaethau i ddatblygu annibyniaeth disgyblion

Mae staff yn Ysgol Gynradd Coed Efa wedi cymryd rhan mewn ymchwil i greu strategaethau yn seiliedig ar agweddau disgyblion at ddysgu. Crëwyd strategaethau i ddatblygu hyder, annibyniaeth a gallu disgyblion i oresgyn heriau yn eu dysgu. Mae’r ysgol yn hyrwyddo diwylliant o ymholi a darganfod trwy ddatblygu cymeriadau â storïau perthnasol. Mae’r cymeriadau hyn yn rhoi cyfle i ddisgyblion ddatblygu eu medrau dysgu’n annibynnol, a myfyrio ar sut gallant ddefnyddio nodweddion dysgu’r cymeriadau yn eu gwersi. Darllen mwy >

Teacher helps child in classroom

Olrhain cynnydd i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol disgyblion

Mae gan Ysgol Esgob Morgan ddull sy’n canolbwyntio ar y disgybl o ran anghenion dysgu ychwanegol. Mae staff yn olrhain cynnydd disgyblion i nodi dysgwyr sydd angen cymorth ychwanegol. Mae pecyn ymyrraeth yn galluogi staff i weld pa ddisgyblion y mae angen eu hychwanegu at, neu’u tynnu oddi ar, y rhaglen ymyrraeth. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod pob un o’r staff yn cael eu grymuso i gynorthwyo disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae safonau wedi cynyddu, a gwnaeth mwyafrif y disgyblion gynnydd mewn sillafu, darllen a mathemateg. Darllen mwy >

Children taking part in play

Ysgol yn cynnig dull hyblyg o ddysgu

Wrth astudio arwr rhyfel lleol, cafodd disgyblion eu hannog i ddefnyddio eu syniadau eu hunain i lunio eu gwersi hanes. Wrth i’r prosiect dyfu, dylanwadodd ar y dosbarth mewn cyfeiriad newydd. Enillodd disgyblion ymdeimlad o gyflawniad personol trwy wybod bod eu syniadau’n cyfrannu at newidiadau yn yr hyn yr oeddent yn ei astudio. Rhoddwyd dull agored o gynllunio’r dosbarth i ddisgyblion, a alluogodd iddynt gynhyrchu eu drama eu hunain ar sail eu canfyddiadau ymchwil. Darllen mwy >

school playground

Datblygu cwricwlwm sy’n gwella medrau disgyblion a’u brwdfrydedd tuag at ddysgu

Mae Ysgol Beca wedi rhoi’r gorau i wersi traddodiadol ac wedi defnyddio cyfnodau dysgu thematig yn y prynhawniau i ddatblygu medrau rhifedd a llythrennedd trwy wyddoniaeth a TGCh. Mae addysgu’n digwydd mewn grwpiau bychain yn hytrach nag ar ffurf dysgu dosbarth cyfan. O ganlyniad i gynllunio da, mae disgyblion wedi datblygu i lefelau uchel iawn, maent yn ymfalchïo yn eu gwaith ac yn cymryd perchenogaeth arno. Darllen mwy >

children in forest

Cynllun cwricwlwm creadigol mwy hyblyg i ennyn diddordeb disgyblion

Mae Ysgol Gynradd Penbre wedi newid sut mae’n mynd ati i addysgu trwy wneud i gynllunio’r cwricwlwm fod yn fwy hyblyg fel ei fod yn addas i ddiddordebau’r disgyblion. Crëwyd chwe pharth dysgu, gydag adnoddau sy’n cefnogi a herio datblygiad medrau disgyblion. Mae’r parthau hyn wedi hybu dysgu annibynnol trwy gwricwlwm creadigol sy’n cael ei arwain gan y disgyblion. Mae disgyblion wedi gwneud cynnydd cryf, gan weithio’n fedrus a gwneud penderfyniadau pwysig am eu dysgu. Darllen mwy >

Pages