Chwiliwch am arfer effeithiol

pupils group

Sesiynau cymorth yn helpu ymddygiad a dysgu

Mae Ysgol Uwchradd Tywyn yn gweithio’n agos gyda Hafan, gan roi cyfle i’w disgyblion gymryd rhan mewn amrywiaeth o gyrsiau arbenigol a phenodol yn ymwneud â lles. Gall disgyblion ddewis cael sesiynau cymorth i’w helpu i wella ymddygiadau. O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion wedi datblygu agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu. Darllen mwy >

focus group

Strategaethau effeithiol yn cefnogi lles cymdeithasol ac emosiynol disgyblion

Mae deallusrwydd emosiynol yn flaenoriaeth i staff yn Ysgol Baratoadol Redhill. Mae’r ysgol wedi rhoi strategaethau ar waith i gefnogi lles cymdeithasol ac emosiynol disgyblion trwy holiaduron i ddisgyblion a hunangofrestru, sesiynau medrau, a grwpiau ffocws dan arweiniad disgyblion i drafod unrhyw bryderon yn agored. Darllen mwy >

group

Ymddygiadau llwyddiannus trwy raglen wobrau

Mae rhaglen wobrau a fu ar brawf yn yr Unol Daleithiau wedi cael ei rhoi ar waith yn ysgol arbennig annibynnol Aran Hall. Mae’r rhaglen wedi helpu mwyafrif y disgyblion i reoli’u hymddygiad eu hunain yn llwyddiannus. O ganlyniad, mae disgyblion bellach yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd ac yn trin eraill gydag urddas a pharch. Mae disgyblion wedi dysgu sut i ddefnyddio’r gymuned yn ddiogel, a mynd i’r coleg ac i leoliadau profiad gwaith. Yn sgil hyn, mae disgyblion wedi ennill achrediad perthnasol ar gyfer eu gwaith. Darllen mwy >

Maendy - main.jpg

Gwella cyrhaeddiad trwy fonitro cynnydd disgyblion

Mae Ysgol Gynradd Y Maendy wedi cynnal safonau uchel trwy sefydlu grŵp dynodedig fel rhan o system gorfforedig ar gyfer monitro cynnydd disgyblion unigol. Darllen mwy >