Chwiliwch am arfer effeithiol

group of children

Creu sylfeini cadarn i gefnogi twf dysgwyr

Mae Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Yr Esgob wedi helpu disgyblion i wella’u gwaith, cymryd cyfrifoldeb am eu dysgu, a chodi safonau trwy ddysgu annibynnol, hunanasesu rheolaidd a gosod amcanion dysgu clir. Darllen mwy >

cwm

Amgylchedd cynhwysol ac anogol i bob plentyn

Mae Ysgol Gynradd Cwm Glas wedi canolbwyntio ar ddatblygu perthnasoedd cadarn, anogol a llawn ymddiriedaeth gyda rhieni i gefnogi anghenion dysgu a lles eu plant. Mae arweinwyr yn cydweithio â theuluoedd ac yn eu cefnogi, gan gynnal digwyddiadau hyfforddiant anogaeth a sesiynau dysgu teuluol. O ganlyniad i’r dull cynhwysol ac anogol, mae’r holl ddisgyblion wedi gwneud cynnydd. Darllen mwy >

children play

Darpariaeth effeithiol i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol

Mae Ysgol Heulfan wedi ailasesu darpariaeth i gynorthwyo anghenion dysgu ei disgyblion. Trwy gynlluniau datblygu unigol a sefydlu meysydd datblygu allweddol, mae disgyblion wedi canolbwyntio ar fedrau meddwl, cyfathrebu, TGCh a rhif mewn tasgau dyddiol. Mae dysgu ar y cyd wedi datblygu medrau personol a chymdeithasol disgyblion. Mae prosiectau ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned hefyd wedi gwella medrau bywyd go iawn disgyblion. Darllen mwy >

four children

Sicrhau cymorth effeithiol i ddysgwyr sy’n agored i niwed

Mae Ysgol Gynradd Penllwyn wedi defnyddio ystod o strategaethau sydd wedi’u llunio’n benodol i fodloni anghenion nodweddiadol dysgwyr sydd dan anfantais. Mae’r ysgol wedi lleihau’r rhwystrau rhag dysgu a gwella deilliannau i bob plentyn trwy lunio system olrhain sy’n asesu lles, presenoldeb, gallu academaidd disgwyliedig, ymddygiad a chyfranogiad dysgwyr mewn gweithgareddau allgyrsiol er mwyn monitro eu hanghenion. Darllen mwy >

Lansdowne CS Main.jpg

Gwella ymgysylltu â theuluoedd i ddatblygu lles disgyblion yng nghymuned yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Lansdowne wedi cynyddu ei hymgysylltiad â rhieni yn llwyddiannus trwy weithdai, grwpiau, polisi drws agored a hyd yn oed siop goffi. Mae hyn wedi helpu datblygu perthnasoedd effeithiol gyda theuluoedd disgyblion ac mae’n darparu cyfleoedd ymyrraeth gynnar pan fydd materion yn codi. Darllen mwy >

Oak Field main.jpg

Gwella deilliannau disgyblion trwy ddarpariaeth anogaeth hynod effeithiol

Mae’r ystafell anogaeth, emosiynol, lles a medrau yn Ysgol Gynradd Oak Field yn sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i fod yn barod i ddysgu. Darllen mwy >

Datblygu dinasyddion Cymreig cyflawn a pharchus

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn gymuned ysgol gefnogol a chroesawgar. Adlewyrchir hyn yng nghwricwlwm a gweithgareddau ehangach yr ysgol. Darllen mwy >

Sicrhau’r ddarpariaeth orau ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol

Cyflawnir gweledigaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf am gynhwysiant academaidd a chymdeithasol i bawb trwy ddeall anghenion pob dysgwr yn llawn, ac ymateb iddynt yn hyblyg. Darllen mwy >

young boy

Dull cydweithredol o gefnogi ymddygiad cadarnhaol

Bu Ysgol y Gogarth yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor i fabwysiadu a datblygu dull o gefnogi ymddygiad sy’n seiliedig ar athrawon, dadansoddwyr ymddygiad a gweithwyr proffesiynol eraill yn gweithio gyda’i gilydd yn agos. Y nod yw addysgu disgyblion ynglŷn â’r medrau sydd eu hangen i gyrraedd eu llawn botensial a lleihau rhwystrau rhag dysgu. Darllen mwy >

Dull ataliol o gefnogi lles

Mae Ysgol Rougemont wedi mabwysiadu dull ysgol gyfan o gefnogi gwydnwch a lles. Mae’r mentrau wedi galluogi disgyblion i ffynnu yn eu datblygiad academaidd, cymdeithasol ac emosiynol. Darllen mwy >

Pages