Chwiliwch am arfer effeithiol

Teacher helps pupil in classroom

Ymagwedd systematig at ddysgu

Mae staff yn Ysgol Llwyn yr Eos wedi creu ymagwedd gydlynus a systematig at ddysgu. Mae cwricwlwm pwrpasol wedi’i deilwra i’w hanghenion penodol ar gael i’r holl ddisgyblion. Caiff y cyfuniad o strategaethau addysgu effaith hynod gadarnhaol ar gyflawniad a lles disgyblion. Defnyddir offer diagnostig i olrhain a monitro cynnydd, lles ac ymddygiad disgyblion. Mae’r broses fonitro yn dangos bod rhan fwyaf y disgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, yn gwneud cynnydd da a chynnydd da iawn yn aml. Darllen mwy >

Pupils working on desk

Rhoi’r grym i ddisgyblion ddysgu

Mae Ysgol Y Foryd yn cefnogi cynnydd a datblygiad disgyblion fel dysgwyr annibynnol trwy ddefnyddio strategaethau asesu ar gyfer dysgu. Mae staff yn addysgu’r disgyblion i wynebu heriau ac yn defnyddio camgymeriadau fel cyfleoedd dysgu. Rhoddir adborth adeiladol iddynt er mwyn eu helpu i ddeall yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella eu gwaith. Mae disgyblion yn cyfrannu at gynllunio gwersi gyda syniadau am yr hyn yr hoffent ei ddysgu, a sut gallant gyflawni hyn. Maent yn annibynnol yn eu dysgu a gallant nodi’r hyn y mae angen iddynt ei wneud er mwyn gwella eu gwaith. Darllen mwy >

Teacher helps pupil with task

Gwneud dysgu yn brofiad byw

Mae staff yn Ysgol Gynradd Ewloe Green yn gwneud i ddysgu ddod yn fyw wrth ddarparu ar gyfer pob math o ddysgwyr drwy ddulliau ymarferol. Mae hyn wedi rhoi hwb i hyder disgyblion ac wedi ennyn diddordeb y rhai sydd wedi bod yn amharod i gyfranogi yn flaenorol. Mae’r ysgol yn canolbwyntio ar chwe maes dysgu trwy gydol y flwyddyn, sy’n cysylltu â’r cwricwlwm newydd yng Nghymru. Mae gwneud dysgu yn brofiad byw wedi rhoi’r cyfle i ddisgyblion leisio’u barnau ar y modd y maent yn dysgu. Darllen mwy >

Father helps child with reading

Datblygu arferion darllen da

Fe wnaeth Ysgol Gynradd Alltwen wella safonau darllen disgyblion trwy redeg caffi wythnosol ar gyfer darllen ar y rhyngrwyd. Fe wnaeth hyn alluogi’r ysgol i weithio gyda rhieni i gynyddu cyfleoedd i ddarllen ac i wella arferion darllen. Roedd bron bob un o’r disgyblion a gymerodd ran yn y cynllun wedi gwneud cynnydd a chodi’u hoedran darllen. Mae mwyafrif y disgyblion yn darllen mwy gartref. Hefyd, fe wnaeth y cynllun ganiatáu i’r ysgol ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda rhieni. Darllen mwy >

Parents help children learn at home

Cefnogi ymgysylltiad rhieni trwy weithdai

Mae ymgysylltiad rhieni wedi gwella yn Ysgol Gynradd St Julian, diolch i weithdai a digwyddiadau teuluol. Maent yn rhoi’r cyfle i rieni gefnogi dysgu a lles, gartref ac yn yr ysgol. Mae’r gweithdai yn cynnwys rhieni yn gweithio gyda’u plentyn i weld beth sy’n cael ei addysgu yn yr ysgol fel eu bod yn gallu parhau â’u dysgu gartref. Mae hyder rhieni wrth helpu’u plant i ddysgu wedi gwella, ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar les disgyblion. Darllen mwy >

Boys use ICT tablet in class

Ysgol yn helpu disgyblion i ddatblygu medrau TG yn annibynnol

Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd St Julian wedi dod yn fwy annibynnol yn eu defnydd o TG, diolch i fframwaith cymhwysedd digidol yr ysgol. Mae disgyblion yn defnyddio TG yn fwy pwrpasol ac yn cymhwyso’u medrau digidol yn well yn y dosbarth. Mae’r diwylliant ar gyfer dysgu digidol yn cynyddu ac mae disgyblion yn defnyddio TG yn fwy effeithiol o fewn yr ysgol a thu hwnt. Darllen mwy >

Pupils working together in classroom

Datblygu gwerthoedd personol cryf yn yr ysgol

Caiff disgyblion yn Ysgol Gynradd Coed Efa eu hannog i gymryd rhan mewn grwpiau cyfranogiad disgyblion, sydd wedi eu helpu i ddatblygu gwerthoedd personol cryf. Trwy ymgymryd ag ystod eang o gyfrifoldebau, mae disgyblion wedi gwella eu medrau arwain. Mae’r cynllun wedi cael effaith gadarnhaol ar safonau ymddygiad a lles, ac mae wedi gwella addysgu a dysgu. Mae disgyblion yn parhau i ddangos cymhelliant a diddordeb gan eu bod yn cael dweud eu dweud ynglŷn â beth maent yn ei ddysgu, a sut. Darllen mwy >

Pupils working together in classroom

Creu strategaethau i ddatblygu annibyniaeth disgyblion

Mae staff yn Ysgol Gynradd Coed Efa wedi cymryd rhan mewn ymchwil i greu strategaethau yn seiliedig ar agweddau disgyblion at ddysgu. Crëwyd strategaethau i ddatblygu hyder, annibyniaeth a gallu disgyblion i oresgyn heriau yn eu dysgu. Mae’r ysgol yn hyrwyddo diwylliant o ymholi a darganfod trwy ddatblygu cymeriadau â storïau perthnasol. Mae’r cymeriadau hyn yn rhoi cyfle i ddisgyblion ddatblygu eu medrau dysgu’n annibynnol, a myfyrio ar sut gallant ddefnyddio nodweddion dysgu’r cymeriadau yn eu gwersi. Darllen mwy >

Teacher helps child in classroom

Olrhain cynnydd i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol disgyblion

Mae gan Ysgol Esgob Morgan ddull sy’n canolbwyntio ar y disgybl o ran anghenion dysgu ychwanegol. Mae staff yn olrhain cynnydd disgyblion i nodi dysgwyr sydd angen cymorth ychwanegol. Mae pecyn ymyrraeth yn galluogi staff i weld pa ddisgyblion y mae angen eu hychwanegu at, neu’u tynnu oddi ar, y rhaglen ymyrraeth. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod pob un o’r staff yn cael eu grymuso i gynorthwyo disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae safonau wedi cynyddu, a gwnaeth mwyafrif y disgyblion gynnydd mewn sillafu, darllen a mathemateg. Darllen mwy >

Children taking part in play

Ysgol yn cynnig dull hyblyg o ddysgu

Wrth astudio arwr rhyfel lleol, cafodd disgyblion eu hannog i ddefnyddio eu syniadau eu hunain i lunio eu gwersi hanes. Wrth i’r prosiect dyfu, dylanwadodd ar y dosbarth mewn cyfeiriad newydd. Enillodd disgyblion ymdeimlad o gyflawniad personol trwy wybod bod eu syniadau’n cyfrannu at newidiadau yn yr hyn yr oeddent yn ei astudio. Rhoddwyd dull agored o gynllunio’r dosbarth i ddisgyblion, a alluogodd iddynt gynhyrchu eu drama eu hunain ar sail eu canfyddiadau ymchwil. Darllen mwy >

Pages