Chwiliwch am arfer effeithiol

Father helps child with reading

Datblygu arferion darllen da

Fe wnaeth Ysgol Gynradd Alltwen wella safonau darllen disgyblion trwy redeg caffi wythnosol ar gyfer darllen ar y rhyngrwyd. Fe wnaeth hyn alluogi’r ysgol i weithio gyda rhieni i gynyddu cyfleoedd i ddarllen ac i wella arferion darllen. Roedd bron bob un o’r disgyblion a gymerodd ran yn y cynllun wedi gwneud cynnydd a chodi’u hoedran darllen. Mae mwyafrif y disgyblion yn darllen mwy gartref. Hefyd, fe wnaeth y cynllun ganiatáu i’r ysgol ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda rhieni. Darllen mwy >

Boys use ICT tablet in class

Ysgol yn helpu disgyblion i ddatblygu medrau TG yn annibynnol

Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd St Julian wedi dod yn fwy annibynnol yn eu defnydd o TG, diolch i fframwaith cymhwysedd digidol yr ysgol. Mae disgyblion yn defnyddio TG yn fwy pwrpasol ac yn cymhwyso’u medrau digidol yn well yn y dosbarth. Mae’r diwylliant ar gyfer dysgu digidol yn cynyddu ac mae disgyblion yn defnyddio TG yn fwy effeithiol o fewn yr ysgol a thu hwnt. Darllen mwy >

oracy

Datblygu medrau llefaredd disgyblion yn gyflym

Trwy gysylltiadau agos â rhieni, therapyddion ac ymarferwyr sydd wedi cael lefel uchel o hyfforddiant, mae Ysgol Gynradd Heulfan wedi helpu i wella llefaredd disgyblion gan ddefnyddio ystod o dechnegau cyfathrebu, o ganu ac arwyddo, i siarad a gwrando, gan ddefnyddio geirfa ddwyieithog. Nododd adborth ac adroddiadau gynnydd cyflym drwy’r ysgol gyfan. Darllen mwy >

Maendy - main.jpg

Gwella cyrhaeddiad trwy fonitro cynnydd disgyblion

Mae Ysgol Gynradd Y Maendy wedi cynnal safonau uchel trwy sefydlu grŵp dynodedig fel rhan o system gorfforedig ar gyfer monitro cynnydd disgyblion unigol. Darllen mwy >

LLanfaes School Main.jpg

Creu ymwybyddiaeth o ddementia trwy ryngweithio â disgyblion ac estyn allan i’r gymuned

Er 2014, mae Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfaes wedi cydweithio â chartref gofal cyfagos i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia ymhlith ei disgyblion. Mae nod yr ysgol i greu cenhedlaeth sy’n deall dementia wedi cael ei gydnabod gan sefydliadau elusennol a Llywodraeth Cymru. Darllen mwy >

Fideo: Safonau mewn llythrennedd a rhifeddn - Dysgu gweithredol a thrwy brofiad

Mae Pennod 1 y ffilm hon ar ddysgu gweithredol a thrwy brofiad yn edrych ar safonau mewn llythrennedd a rhifedd yn y cyfnod sylfaen. I ddysgu rhagor am yr arfer dda a nodwyd gennym, darllenwch yr adroddiad llawn. Darllen mwy >

Strategaethau creadigol sy’n annog meddwl a chyrhaeddiad uchel

Mae Ysgol Gymraeg Casnewydd yn datblygu medrau meddwl disgyblion drwy athroniaeth ac yn annog creadigrwydd drwy weithgareddau drama byrfyfyr. Darllen mwy >

Annog dysgwyr i gyflawni mwy na’r hyn y maent yn ei ddisgwyl ohonyn nhw’u hunain

Mae staff yn Ysgol Oakleigh House wedi annog dysgwyr i fod yn fwy gwydn wrth wynebu heriau, i ddysgu o’u camgymeriadau a dod yn fwy annibynnol ym mhob agwedd ar eu dysgu. Darllen mwy >

Kitchener Primary

Manteisio ar bob cyfle i gynyddu llythrennedd

Mae staff yn Ysgol Gynradd Kitchener wedi gwella llythrennedd disgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol trwy ddefnyddio amrywiaeth eang o strategaethau a dulliau addysgu. Darllen mwy >

Partnership with parents

Partneriaeth gyda rhieni

Mae Ysgol y Foryd, Conwy, yn defnyddio nifer o strategaethau i gynnwys rhieni ym mywyd yr ysgol er mwyn codi safonau, darparu ymyrraeth gynnar a mynd i’r afael â difreintedd. Mae’r ysgol yn cydweithio’n agos â theuluoedd, ac mae hunan-barch a chyrhaeddiad disgyblion wedi gwella. Darllen mwy >

Pages