Chwiliwch am arfer effeithiol

focus group

Strategaethau effeithiol yn cefnogi lles cymdeithasol ac emosiynol disgyblion

Mae deallusrwydd emosiynol yn flaenoriaeth i staff yn Ysgol Baratoadol Redhill. Mae’r ysgol wedi rhoi strategaethau ar waith i gefnogi lles cymdeithasol ac emosiynol disgyblion trwy holiaduron i ddisgyblion a hunangofrestru, sesiynau medrau, a grwpiau ffocws dan arweiniad disgyblion i drafod unrhyw bryderon yn agored. Darllen mwy >

Ymateb graddedig hynod effeithiol sy’n hyrwyddo cynhwysiant yn llwyddiannus

Mae Ysgol Coedcae wedi gwneud defnydd effeithiol o fedrau staff i sicrhau bod cymorth targedig i ddysgwyr agored i niwed. Mae ffocws cadarnach ar gynwysoldeb wedi galluogi mwy o ddisgyblion i gynnal eu lle yn yr ysgol heb angen symud wedi’i reoli i ddarparwr arall. Mae sesiynau mentora unigol yn y bore, sesiynau grŵp storïau cymdeithasol a grwpiau darllen carlam pwrpasol, ynghyd â chlybiau anogaeth peth cyntaf yn y bore, yn rhan o strategaeth i feithrin ymddiriedaeth rhwng disgyblion agored i niwed a’r oedolion sy’n weithwyr allweddol iddynt. Darllen mwy >

Annog dysgwyr i gyflawni mwy na’r hyn y maent yn ei ddisgwyl ohonyn nhw’u hunain

Mae staff yn Ysgol Oakleigh House wedi annog dysgwyr i fod yn fwy gwydn wrth wynebu heriau, i ddysgu o’u camgymeriadau a dod yn fwy annibynnol ym mhob agwedd ar eu dysgu. Darllen mwy >