Chwiliwch am arfer effeithiol

Teacher working on pupils' creative skills

Annog medrau creadigol a chorfforol ymhlith plant

Mae ymarferwyr yng Nghylch Chwarae Dwyieithog Aber-porth yn darparu gweithgareddau hwyliog ac ysgogol sy’n adeiladu ar ddiddordebau a chwestiynau plant. Cyflwynwyd ardal berfformio i ddatblygu iaith a hyder plant wrth siarad â phlant a phobl eraill neu wrth ganu a defnyddio offerynnau cerdd. Mae’r ardal greadigol hefyd yn rhoi cipolwg gwell i ymarferwyr ar ddatblygiad a chynnydd medrau echddygol manwl y plant. Maent yn defnyddio gemau cyffrous i ddatblygu medrau corfforol penodol fel ymwybyddiaeth ofodol ac addasu cyflymdra a chyfeiriad. Darllen mwy >

Teacher using puppets with students

Defnyddio pypedau i hyrwyddo dealltwriaeth emosiynol plant

Mae staff yng Nghylch Meithrin Hermon yn defnyddio pypedau i helpu plant i ddeall eu hemosiynau. Mae’r pypedau yn galluogi’r plant i ddatblygu eu medrau personol a chymdeithasol trwy feddwl am y modd y mae eu gweithredoedd yn effeithio ar deimladau’r plant eraill. Mae defnyddio pypedau wedi helpu creu ethos teuluol cynnes a chroesawgar. Mae bron pob un o’r plant yn dod yn ymwybodol o wahanol deimladau ac emosiynau. Caiff ymddygiad plant ei reoli mewn ffordd gadarnhaol ac adeiladol. Darllen mwy >

Teacher teaching welsh to class

Datblygu medrau Cymraeg ar gyfer dysgu yn y blynyddoedd cynnar

Mae ymarferwyr yng Nghylch Chwarae Dwyieithog Aber-porth yn defnyddio gweithgareddau arferol i gyflwyno’r Gymraeg ac ymadroddion Cymraeg. Mae hyn yn helpu plant i ddatblygu eu dealltwriaeth a’u hatebion yn raddol. Mae ymarferwyr yn defnyddio caneuon Cymraeg ac yn darllen storïau i’r plant yn Gymraeg. Mae’r staff yn fodelau iaith da, ac yn datblygu dealltwriaeth y plant o’r Gymraeg yn eithriadol o dda. Mae’r rhan fwyaf o’r plant yn gwneud cynnydd rhagorol o ran deall a defnyddio’r Gymraeg bob dydd. Darllen mwy >

Teacher training

Gwella datblygiad proffesiynol

Mae arweinwyr ym Meithrinfa Ddydd Little Stars yn defnyddio matrics medrau i nodi anghenion hyfforddi unigol a grŵp. Mae hyn yn sicrhau dull cyson ar draws y feithrinfa. Mae aelodau newydd o’r tîm yn datblygu’n gyflym ac mae pob un o’r ymarferwyr yn ymdrechu i wella perfformiad pobl eraill. Mae staff yn llawn cymhelliant i wella eu medrau, ac fe gaiff hyn effaith gadarnhaol iawn ar ddeilliannau plant. Mae staff yn hyderus fod eu llais yn cael ei glywed, ac mae hyn yn eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu. Darllen mwy >