Chwiliwch am arfer effeithiol

Parents help children learn at home

Cefnogi ymgysylltiad rhieni trwy weithdai

Mae ymgysylltiad rhieni wedi gwella yn Ysgol Gynradd St Julian, diolch i weithdai a digwyddiadau teuluol. Maent yn rhoi’r cyfle i rieni gefnogi dysgu a lles, gartref ac yn yr ysgol. Mae’r gweithdai yn cynnwys rhieni yn gweithio gyda’u plentyn i weld beth sy’n cael ei addysgu yn yr ysgol fel eu bod yn gallu parhau â’u dysgu gartref. Mae hyder rhieni wrth helpu’u plant i ddysgu wedi gwella, ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar les disgyblion. Darllen mwy >

College staff works with school pupil to look at next step choices

Rhoi’r grym i fyfyrwyr archwilio llwybrau addysg gwahanol

Trwy weithio’n agos gydag ysgolion, mae Coleg Gŵyr yn rhoi’r grym i ddisgyblion 14-16 oed archwilio’r holl lwybrau addysg sydd ar gael iddynt. Mae rhaglen ‘kick start’ yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio amrywiaeth o sectorau cyn penderfynu ar astudiaethau pellach, hyfforddiant neu waith. Mae cysylltiadau’r coleg ag ysgolion yn caniatáu iddynt chwalu’r rhwystrau rhag addysg bellach a medrau lefel uwch. Darllen mwy >

Industry expert helps college students prepare for their next step

Paratoi myfyrwyr ar gyfer eu cam nesaf ar ôl y coleg

Gall myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr gael cymorth gan arbenigwyr i’w paratoi at eu cam nesaf ar ôl y coleg. Mae dysgwyr sy’n ystyried mynd ymlaen i addysg uwch yn gallu defnyddio gweithdai, anerchiadau a chyfweliadau ffug gydag arbenigwyr diwydiant wrth ysgrifennu’u ceisiadau prifysgol. Mae dysgwyr sy’n dymuno mynd ymlaen i waith ar ôl cwblhau eu hastudiaethau yn cael tiwtorialau a chymorth arbenigol i’w helpu i fynd ymlaen i’w dewis lwybr gyrfaol. Darllen mwy >

Woman and child reading  together

Gwneud teuluoedd yn bartneriaid mewn dysgu

Mae Ysgol Gynradd Bracla yn gwneud teuluoedd yn rhan allweddol o’r broses ddysgu, gan arwain at safonau gwell mewn llythrennedd, rhifedd a phresenoldeb ar draws yr ysgol. Darllen mwy >