Chwiliwch am arfer effeithiol

Gwella medrau llythrennedd trwy weithio mewn partneriaeth ac addysgu arbenigol

Mae Ysgol Gynradd Evenlode wedi penderfynu bod gwella ysgrifennu disgyblion mwy abl ar draws yr ysgol yn flaenoriaeth. Mae un o gyn-rieni’r ysgol, sydd â phrofiad fel athro iaith arbenigol, wedi galluogi llawer o ddisgyblion hŷn i ddatblygu eu medrau ysgrifennu estynedig yn llwyddiannus. Bu’n gweithio’n llwyddiannus gyda disgyblion ar amrywiaeth eang o strategaethau a thechnegau effeithiol i wella’u hysgrifennu creadigol, gan ymgorffori technegau awduron proffesiynol. Darllen mwy >

tree and book

Mae gwaith partneriaeth effeithiol rhwng ysgolion yn cefnogi cyfnod pontio disgyblion rhwng cyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3

Mae disgyblion newydd yn Ysgol Gyfun Tredegar yn ymgynefino’n gyflym ac yn adeiladu ar eu dysgu blaenorol, yn sgil perthynas gadarnhaol ag ysgolion cynradd clwstwr. Mae buddsoddi mewn rhaglen datblygu athrawon ar y cyd wedi bod o fudd sylweddol i safonau hefyd. Darllen mwy >

LLanfaes School Main.jpg

Creu ymwybyddiaeth o ddementia trwy ryngweithio â disgyblion ac estyn allan i’r gymuned

Er 2014, mae Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfaes wedi cydweithio â chartref gofal cyfagos i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia ymhlith ei disgyblion. Mae nod yr ysgol i greu cenhedlaeth sy’n deall dementia wedi cael ei gydnabod gan sefydliadau elusennol a Llywodraeth Cymru. Darllen mwy >

Lansdowne CS Main.jpg

Gwella ymgysylltu â theuluoedd i ddatblygu lles disgyblion yng nghymuned yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Lansdowne wedi cynyddu ei hymgysylltiad â rhieni yn llwyddiannus trwy weithdai, grwpiau, polisi drws agored a hyd yn oed siop goffi. Mae hyn wedi helpu datblygu perthnasoedd effeithiol gyda theuluoedd disgyblion ac mae’n darparu cyfleoedd ymyrraeth gynnar pan fydd materion yn codi. Darllen mwy >

Cyfnod pontio llwyddiannus i addysg bellach ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol

Roedd Ysgol y Gogarth yn allweddol o ran sefydlu grŵp amlddisgyblaethol oedd â nod o wella cyfnod pontio disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol rhwng yr ysgol ac addysg bellach. Darllen mwy >

Arweinyddiaeth ddosbarthedig sy’n cefnogi gwelliant ysgol

Mae arweinyddiaeth ddosbarthedig ar bob lefel ar draws ffederasiwn Ysgol Bryngwyn ac Ysgol Glan-y-Môr wedi sicrhau deilliannau a lles gwell i ddisgyblion. Darllen mwy >

Rhoi llais cyfartal i ddisgyblion, staff a rhanddeiliaid wrth greu ysgol newydd

Pan grëwyd Ysgol y Deri yn sgil uno tair ysgol arbennig, sicrhaodd y tîm arwain newydd fod staff a disgyblion yn cael eu dwyn ynghyd trwy weledigaeth ar y cyd ac ymdeimlad o berchenogaeth Darllen mwy >

Gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo buddsoddi mewn medrau a mynediad at addysg ôl-16

Mae Coleg Penfro wedi datblygu partneriaethau sy’n cefnogi datblygiad medrau yn Sir Benfro, yn gwella mynediad dysgwyr at addysg ôl-16 ac yn ymgysylltu â grwpiau sy’n anodd eu cyrraedd. Darllen mwy >

Arweinyddiaeth ddosbarthedig sy’n cefnogi gwelliant ysgol

Mae arweinyddiaeth ddosbarthedig ar bob lefel ar draws ffederasiwn Ysgol Bryngwyn ac Ysgol Glan-y-Môr wedi sicrhau deilliannau a lles gwell i ddisgyblion. Darllen mwy >

Cyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n codi safonau

Yn Ysgol Gyfun Dŵr y Felin, mae cyfrifoldebau arwain wedi cael eu dosbarthu i lawer o staff sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at waith gwella’r ysgol. Darllen mwy >

Pages