Chwiliwch am arfer effeithiol

children musicians

Sŵn llwyddiant – defnyddio cerddoriaeth i ddatblygu medrau llythrennedd

Mae cerddoriaeth yn flaenoriaeth uchel yn Ysgol Gynradd Rhydypenau, lle y mae cynlluniau gwaith yn canolbwyntio ar ganu, chwarae, cyfansoddi a gwerthuso. Mae disgyblion yn rhoi cynnig ar amrywiaeth o offerynnau yn rheolaidd, sy’n helpu gyda’u lles, gweithio mewn tîm a gwydnwch. Trwy gynllunio’n ofalus, mae cerddoriaeth yn cael ei defnyddio hefyd i gyflawni safonau uchel mewn llythrennedd trwy ysgrifennu geiriau a throi cerddi’n ganeuon. Mae ansawdd ysgrifennu’r disgyblion yn yr ysgol wedi’i gydnabod trwy nifer o wobrau a chystadlaethau cenedlaethol. Mae’r amrywiaeth eang o brofiadau cerddorol yn galluogi llawer o gyfleoedd i ddisgyblion ymddiddori yn eu dysgu. Darllen mwy >

Books, mobile phone, learning - llyfrau, ffôn symudol, dysgu

Arfarnu rheolaidd i ysgogi newid a chodi safonau

Mae Ysgol Gynradd Cornist Park yn cynyddu dawn greadigol, hunan-barch a chymhelliant disgyblion trwy arfarnu ymagwedd yr athrawon at addysgeg ac archwilio ffyrdd newydd o ddysgu yn rheolaidd. Mae’r astudiaeth achos hon yn cynrychioli datblygu cwricwlwm yr ysgol o ran eu cynnydd mewn hunanarfarnu, cynllunio a pharatoi, sicrhau newid ac arfarnu newid. Darllen mwy >