Chwiliwch am arfer effeithiol

Ymateb graddedig hynod effeithiol sy’n hyrwyddo cynhwysiant yn llwyddiannus

Mae Ysgol Coedcae wedi gwneud defnydd effeithiol o fedrau staff i sicrhau bod cymorth targedig i ddysgwyr agored i niwed. Mae ffocws cadarnach ar gynwysoldeb wedi galluogi mwy o ddisgyblion i gynnal eu lle yn yr ysgol heb angen symud wedi’i reoli i ddarparwr arall. Mae sesiynau mentora unigol yn y bore, sesiynau grŵp storïau cymdeithasol a grwpiau darllen carlam pwrpasol, ynghyd â chlybiau anogaeth peth cyntaf yn y bore, yn rhan o strategaeth i feithrin ymddiriedaeth rhwng disgyblion agored i niwed a’r oedolion sy’n weithwyr allweddol iddynt. Darllen mwy >

Rhaglen Gymraeg arloesol i herio disgyblion mwy abl

Mae Ysgol Gyfun Treorci yn cynnal ffocws cadarn ar sicrhau bod disgyblion mwy abl a thalentog yn cael eu cefnogi a’u herio trwy amrywiaeth o strategaethau a darpariaeth effeithiol ac, yn benodol, datblygiad eu medrau Cymraeg. Trwy gydweithio ag arweinwyr cynradd a rhieni, mae’r ysgol yn gosod disgyblion mewn rhaglen garlam ar gyfer y Gymraeg ac mae hefyd yn eu gwahodd i gyfranogi trwy fforwm cryf ar gyfer llais y disgybl. Darllen mwy >

Defnyddio’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol i ymestyn medrau mathemategol a chreadigol

Defnyddiodd Ysgol Gynradd Llandrillo yn Rhos gyllid y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol i wella medrau mathemateg gweithdrefnol disgyblion, gyda ffocws penodol ar herio disgyblion mwy abl a thalentog mewn cyd-destun dysgu creadigol. Rhoddodd prosiect creadigol gyfle i ddisgyblion weithio’n annibynnol, cyfeirio’u dysgu’u hunain a herio’u hunain gyda medrau artistig a mathemategol mwy datblygedig. Darllen mwy >

penguins

Llais y disgybl yn arwain y ffordd o ran arfarnu cwricwlwm llwyddiannus

Mae gwaredu ofn bod yn anghywir yn ganolog i ysbrydoli dysgu ac addysgu creadigol yn Ysgol Cynwyd Sant. Yn sgil ffocws cryf ar lais y disgybl, mae’r ysgol gynradd wedi annog staff i arbrofi â ffyrdd gwahanol o gynnig profiadau dysgu gan ddefnyddio cyd-destunau bywyd go iawn. Mae’r astudiaeth achos yn portreadu datblygiad cwricwlwm yr ysgol o safbwynt ei chynnydd wrth hunanarfarnu, cynllunio a pharatoi, a gwireddu newid. Darllen mwy >

laptop

Paru’r cwricwlwm i Gymru â gwerthoedd ysgolion a dyheadau athrawon

Roedd rhoi’r ‘wawffactor’ mewn dysgu yn golygu bod Ysgol Gynradd Llanisien Fach yn annog staff i gymryd risgiau er mwyn datblygu cwricwlwm cyfoethog a chreadigol. Mae’r ysgol eisoes wedi derbyn diwygio ac mae’n hyrwyddo’r gred fod unrhyw beth yn bosibl. Mae’r astudiaeth achos hon yn portreadu datblygiad cwricwlwm yr ysgol o safbwynt ei chynnydd wrth hunanarfarnu, a chynllunio a pharatoi. Darllen mwy >

Rhoi llais cyfartal i ddisgyblion, staff a rhanddeiliaid wrth greu ysgol newydd

Pan grëwyd Ysgol y Deri yn sgil uno tair ysgol arbennig, sicrhaodd y tîm arwain newydd fod staff a disgyblion yn cael eu dwyn ynghyd trwy weledigaeth ar y cyd ac ymdeimlad o berchenogaeth Darllen mwy >

Annog dysgwyr annibynnol ac ymholgar yn y Cyfnod Sylfaen

Yn Ysgol Gynradd Blaengwawr, mae cynllunio cyson ar draws y Cyfnod Sylfaen yn sicrhau amgylchedd dysgu sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac yn darparu her i bob disgybl. Darllen mwy >

Bodloni anghenion cyflogwyr â chwricwlwm sy’n canolbwyntio ar fedrau

Mae cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar fedrau a phartneriaeth effeithiol gydag amrywiaeth eang o gyflogwyr lleol yn helpu dysgwyr trin gwallt a harddwch yng Ngholeg Cambria i gyflawni’r cymwysterau a’r medrau y mae arnynt eu hangen ar gyfer gwaith. Darllen mwy >

Albert prim -main image

Disgyblion yn llunio’u cwricwlwm eu hunain

Mae Ysgol Albert, Penarth, wedi gweld gwelliannau yn symbyliad, diddordeb ac ansawdd gwaith disgyblion ar ôl cynnwys disgyblion wrth ddylunio’r cwricwlwm. Darllen mwy >