Chwiliwch am arfer effeithiol

child and rocket

Esblygu arferion y cyfnod sylfaen yng nghyfnod allweddol 2 yn cynhyrchu cwricwlwm arloesol

Mae dysgu ac addysgu yng nghyfnod allweddol 2 yn adeiladu ar arferion y cyfnod sylfaen yn Ysgol Heulfan. Mae plant yn ffynnu trwy ddarganfod yn annibynnol a thrwy bynciau cyffrous, a hynny wedi’i ategu gan gefnogaeth athrawon a nodau cyffredinol ar draws yr ysgol. Mae’r astudiaeth achos hon yn portreadu datblygiad cwricwlwm yr ysgol o safbwynt ei chynnydd wrth hunanarfarnu, cynllunio a pharatoi, a gwireddu newid. Darllen mwy >

Lamphey - main.jpg

Sicrhau addysgu o ansawdd uchel trwy ddatblygiad proffesiynol

Mae cyfuniad o hyfforddiant mewnol a phwyslais ar hunanarfarnu yn creu cyfleoedd ar gyfer dysgu archwiliadol a gwelliant ysgol parhaus yn Ysgol Gynradd Llandyfái. Darllen mwy >

Fideo: Darpariaeth ar gyfer llythrennedd a rhifedd - Dysgu gweithredol a thrwy brofiad

Mae Pennod 3 y ffilm hon ar ddysgu gweithredol a thrwy brofiad yn edrych ar ddarpariaeth ar gyfer llythrennedd a rhifedd yn y cyfnod sylfaen. I ddysgu rhagor am yr arfer dda a nodwyd gennym, darllenwch yr adroddiad llawn. Darllen mwy >

Datblygu medrau dysgwyr trwy brofiadau bywyd go iawn

Arweiniodd disgyblion yn Ysgol y Bynea brosiect i ddatblygu pentref dysgu awyr agored. Datblygodd dysgwyr amrywiaeth o fedrau, o ddylunio modelau pensaernïol i gyllidebu a gosod archebion. Darllen mwy >

Amgylchedd dysgu ysbrydoledig ar gyfer cyflwyno addysg y Cyfnod Sylfaen

Ym meithrinfa ddydd Poppies Day Nursery, mae’r amgylcheddau dysgu dan do ac awyr agored yn rhoi cyfleoedd cyffrous i blant ddatblygu medrau pwysig. Darllen mwy >

Cynllunio ar gyfer dysgu awyr agored o ansawdd da

Mae arweinyddiaeth strategol yn Gofal Plant Gogerddan wedi ymgorffori dysgu awyr agored yn narpariaeth y feithrinfa. O ganlyniad, bu gwelliannau yn hyder a datblygiad iaith y plant. Darllen mwy >

Amgylchedd dysgu awyr agored hynod effeithiol

Mae’r ddarpariaeth awyr agored yn Meithrinfa Ddydd Mrs Tiggywinkles yn darparu cyfleoedd rheolaidd i ddysgwyr ymarfer ac atgyfnerthu ystod o fedrau. Mae hyn yn eu helpu i gyflawni deilliannau da yn y Cyfnod Sylfaen. Darllen mwy >

Annog dysgwyr annibynnol ac ymholgar yn y Cyfnod Sylfaen

Yn Ysgol Gynradd Blaengwawr, mae cynllunio cyson ar draws y Cyfnod Sylfaen yn sicrhau amgylchedd dysgu sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac yn darparu her i bob disgybl. Darllen mwy >

Archwilio a dysgu yn yr awyr agored

Mae Meithrinfa Rossett House wedi datblygu profiadau dysgu arloesol yn yr awyr agored sy’n ennyn diddordeb plant ac yn eu helpu i ddatblygu llythrennedd a rhifedd trwy chwarae rôl. Darllen mwy >

Pages