Chwiliwch am arfer effeithiol

Children playing in playground

Diwylliant yr ysgol yn canolbwyntio ar hawliau plant

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw wedi gwreiddio hawliau plant yn ei diwylliant, gan wella lles disgyblion. Mae ymdeimlad o berchnogaeth o’u hysgol gan y disgyblion, ac maent yn cyfrannu at ei gwelliant. Mae ymddygiad disgyblion yn rhagorol ac mae lefel yr ymrwymiad i ddysgu wedi gwella hefyd. Mae hawliau plant wedi dod yn rhan wirioneddol ac ystyrlon o fywyd dyddiol pob disgybl, ac mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn presenoldeb. Darllen mwy >

Pupils playing together while Teacher observes

Ysgol yn datblygu profiad dysgu arloesol i ddisgyblion

Mae Ysgol Gynradd Cogan wedi gwella safonau a lles drwy’r ysgol gyfan. Mae ei diwylliant dysgu wedi rhoi’r hyder i staff rannu dulliau sy’n arwain at gyfleoedd dysgu gwell i ddisgyblion. Mae menter ‘bydis’ yn galluogi disgyblion i rannu eu gwaith a thrafod eu mwynhad wrth ddysgu. Mae hefyd yn darparu ffynhonnell effeithiol o fonitro anffurfiol i athrawon. Darllen mwy >

rainbow

Dathlu amrywiaeth er mwyn cefnogi disgyblion gwybodus, cyfrifol a goddefgar

Mae Ysgol Gynradd Clytha yn annog disgyblion i wneud penderfyniadau, bod yn chwilfrydig a meddwl yn annibynnol trwy herio stereoteipiau yn agweddau, dewisiadau, disgwyliadau a chyflawniadau disgyblion. Mae’r ysgol wedi datblygu cysylltiadau hynod effeithiol gydag amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Stonewall Cymru, Athletwyr Paralympaidd a Chymru dros Heddwch i gefnogi datblygiad personol disgyblion. Mae’r ysgol yn defnyddio ymwelwyr o’r gymuned a thu hwnt i gael pob disgybl i fyfyrio ar eu gwerthoedd. Mae hyn wedi rhoi’r grym i ddisgyblion ddatblygu fel dinasyddion gwybodus, cyfrifol a goddefgar yn llwyddiannus iawn. Darllen mwy >

yoga

Defnyddio ioga i wella safonau ymddygiad a gwella medrau canolbwyntio

Mae sesiynau ioga yn Ysgol Gymraeg Brynsierfel yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ofalgar ac yn helpu disgyblion i ymlacio, tawelu a chymdeithasu. Mae’r sesiynau hyn wedi gwella medrau canolbwyntio, meithrin gwydnwch ac annog disgyblion i ymroi i ddysgu. Darllen mwy >

group of children

Creu sylfeini cadarn i gefnogi twf dysgwyr

Mae Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Yr Esgob wedi helpu disgyblion i wella’u gwaith, cymryd cyfrifoldeb am eu dysgu, a chodi safonau trwy ddysgu annibynnol, hunanasesu rheolaidd a gosod amcanion dysgu clir. Darllen mwy >

cwm

Amgylchedd cynhwysol ac anogol i bob plentyn

Mae Ysgol Gynradd Cwm Glas wedi canolbwyntio ar ddatblygu perthnasoedd cadarn, anogol a llawn ymddiriedaeth gyda rhieni i gefnogi anghenion dysgu a lles eu plant. Mae arweinwyr yn cydweithio â theuluoedd ac yn eu cefnogi, gan gynnal digwyddiadau hyfforddiant anogaeth a sesiynau dysgu teuluol. O ganlyniad i’r dull cynhwysol ac anogol, mae’r holl ddisgyblion wedi gwneud cynnydd. Darllen mwy >

four children

Sicrhau cymorth effeithiol i ddysgwyr sy’n agored i niwed

Mae Ysgol Gynradd Penllwyn wedi defnyddio ystod o strategaethau sydd wedi’u llunio’n benodol i fodloni anghenion nodweddiadol dysgwyr sydd dan anfantais. Mae’r ysgol wedi lleihau’r rhwystrau rhag dysgu a gwella deilliannau i bob plentyn trwy lunio system olrhain sy’n asesu lles, presenoldeb, gallu academaidd disgwyliedig, ymddygiad a chyfranogiad dysgwyr mewn gweithgareddau allgyrsiol er mwyn monitro eu hanghenion. Darllen mwy >

LLanfaes School Main.jpg

Creu ymwybyddiaeth o ddementia trwy ryngweithio â disgyblion ac estyn allan i’r gymuned

Er 2014, mae Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfaes wedi cydweithio â chartref gofal cyfagos i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia ymhlith ei disgyblion. Mae nod yr ysgol i greu cenhedlaeth sy’n deall dementia wedi cael ei gydnabod gan sefydliadau elusennol a Llywodraeth Cymru. Darllen mwy >

Hendy CS Main.jpg

Elwa ar lais y disgybl i greu strategaethau gwrth-fwlio effeithiol

Addasodd staff a disgyblion yn Ysgol Gynradd Sirol Yr Hendy eu polisïau gwrthfwlio, gan sicrhau amgylchedd dim goddefgarwch lle mae’r holl ddisgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu clywed. Darllen mwy >

Datblygu dinasyddion Cymreig cyflawn a pharchus

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn gymuned ysgol gefnogol a chroesawgar. Adlewyrchir hyn yng nghwricwlwm a gweithgareddau ehangach yr ysgol. Darllen mwy >

Pages