Chwiliwch am arfer effeithiol

school playground

Datblygu cwricwlwm sy’n gwella medrau disgyblion a’u brwdfrydedd tuag at ddysgu

Mae Ysgol Beca wedi rhoi’r gorau i wersi traddodiadol ac wedi defnyddio cyfnodau dysgu thematig yn y prynhawniau i ddatblygu medrau rhifedd a llythrennedd trwy wyddoniaeth a TGCh. Mae addysgu’n digwydd mewn grwpiau bychain yn hytrach nag ar ffurf dysgu dosbarth cyfan. O ganlyniad i gynllunio da, mae disgyblion wedi datblygu i lefelau uchel iawn, maent yn ymfalchïo yn eu gwaith ac yn cymryd perchenogaeth arno. Darllen mwy >

Gwella medrau llafaredd gan ddefnyddio testunau heriol

Mae Ysgol Gynradd Tywyn wedi gwella safon medrau llafaredd ar draws yr ysgol gyfan trwy ddefnyddio testunau heriol i ddatblygu medrau llafar a pherfformio disgyblion. Mae staff wedi cael hyfforddiant ar therapi iaith a lleferydd i nodi grwpiau ar gyfer ymyrraeth gynnar. Mae disgyblion yn dadansoddi cerddi ac yn cael eu hannog i ddeall y cymeriadau a’r themâu sylfaenol. O ganlyniad, mae hunan-barch disgyblion wedi gwella’n sylweddol ac maent bellach yn fwy hyderus wrth berfformio ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a dibenion. Darllen mwy >

children cooking

Ehangu medrau entrepreneuraidd disgyblion a gwella safonau

Mae Ysgol Gynradd Craigfelen wedi datblygu diwylliant o gydweithredu ac archwilio ar gyfer ei disgyblion trwy lwyddiant mentrau fel caffi ac undeb credyd lleol. Mae hyn wedi creu amgylchedd o gyfleoedd dysgu ac wedi integreiddio’r ysgol i’r gymuned. Trwy weithio gyda phartneriaid fel Llywodraeth Cymru, Coleg Gŵyr a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae gweithdai i athrawon wedi cynnig cyfleoedd am ragor o arloesi. Darllen mwy >

children musicians

Sŵn llwyddiant – defnyddio cerddoriaeth i ddatblygu medrau llythrennedd

Mae cerddoriaeth yn flaenoriaeth uchel yn Ysgol Gynradd Rhydypenau, lle y mae cynlluniau gwaith yn canolbwyntio ar ganu, chwarae, cyfansoddi a gwerthuso. Mae disgyblion yn rhoi cynnig ar amrywiaeth o offerynnau yn rheolaidd, sy’n helpu gyda’u lles, gweithio mewn tîm a gwydnwch. Trwy gynllunio’n ofalus, mae cerddoriaeth yn cael ei defnyddio hefyd i gyflawni safonau uchel mewn llythrennedd trwy ysgrifennu geiriau a throi cerddi’n ganeuon. Mae ansawdd ysgrifennu’r disgyblion yn yr ysgol wedi’i gydnabod trwy nifer o wobrau a chystadlaethau cenedlaethol. Mae’r amrywiaeth eang o brofiadau cerddorol yn galluogi llawer o gyfleoedd i ddisgyblion ymddiddori yn eu dysgu. Darllen mwy >

children painting

Cynorthwyo disgyblion y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt, er mwyn eu helpu i integreiddio

Mae Ysgol Westbourne yn asesu gallu ieithyddol disgyblion sy’n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol. Caiff disgyblion gyfle i fynychu ysgol haf cyn dechrau hefyd. Mae athrawon yn hyrwyddo lefelau uchel o gynhwysiant disgyblion ac yn annog cyfranogiad mewn gweithgareddau, fel gwasanaethau, digwyddiadau elusennol, diwrnodau rhyngwladol a gwersi siarad cyhoeddus. Darllen mwy >

Gwella medrau llythrennedd trwy weithio mewn partneriaeth ac addysgu arbenigol

Mae Ysgol Gynradd Evenlode wedi penderfynu bod gwella ysgrifennu disgyblion mwy abl ar draws yr ysgol yn flaenoriaeth. Mae un o gyn-rieni’r ysgol, sydd â phrofiad fel athro iaith arbenigol, wedi galluogi llawer o ddisgyblion hŷn i ddatblygu eu medrau ysgrifennu estynedig yn llwyddiannus. Bu’n gweithio’n llwyddiannus gyda disgyblion ar amrywiaeth eang o strategaethau a thechnegau effeithiol i wella’u hysgrifennu creadigol, gan ymgorffori technegau awduron proffesiynol. Darllen mwy >

group of children

Creu sylfeini cadarn i gefnogi twf dysgwyr

Mae Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Yr Esgob wedi helpu disgyblion i wella’u gwaith, cymryd cyfrifoldeb am eu dysgu, a chodi safonau trwy ddysgu annibynnol, hunanasesu rheolaidd a gosod amcanion dysgu clir. Darllen mwy >

oracy

Datblygu medrau llefaredd disgyblion yn gyflym

Trwy gysylltiadau agos â rhieni, therapyddion ac ymarferwyr sydd wedi cael lefel uchel o hyfforddiant, mae Ysgol Gynradd Heulfan wedi helpu i wella llefaredd disgyblion gan ddefnyddio ystod o dechnegau cyfathrebu, o ganu ac arwyddo, i siarad a gwrando, gan ddefnyddio geirfa ddwyieithog. Nododd adborth ac adroddiadau gynnydd cyflym drwy’r ysgol gyfan. Darllen mwy >

children play

Darpariaeth effeithiol i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol

Mae Ysgol Heulfan wedi ailasesu darpariaeth i gynorthwyo anghenion dysgu ei disgyblion. Trwy gynlluniau datblygu unigol a sefydlu meysydd datblygu allweddol, mae disgyblion wedi canolbwyntio ar fedrau meddwl, cyfathrebu, TGCh a rhif mewn tasgau dyddiol. Mae dysgu ar y cyd wedi datblygu medrau personol a chymdeithasol disgyblion. Mae prosiectau ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned hefyd wedi gwella medrau bywyd go iawn disgyblion. Darllen mwy >

children and piano

Arsylwi athrawon ac adolygiad o feysydd dysgu a phrofiadau yn ysgogi cwricwlwm cyfoethog

Fe wnaeth trawsnewid y cwricwlwm yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth gymryd dros ddwy flynedd. Gydag arweinyddiaeth angerddol, hunanarfarnu cryf a chynllunio gofalus, mae’r ysgol bellach yn cyflwyno profiadau cwricwlaidd cyfoethog i’w ddisgyblion. Mae’r astudiaeth achos hon yn portreadu datblygiad cwricwlwm yr ysgol o safbwynt hunanarfarnu, cynllunio a pharatoi, gwireddu newid ac arfarnu newid. Darllen mwy >

Pages