Chwiliwch am arfer effeithiol

Mynydd CS Main.jpg

Creu cwricwlwm arloesol gan ddefnyddio’r celfyddydau mynegiannol

Mae Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig wedi rhoi’r celfyddydau mynegiannol wrth wraidd datblygu cwricwlwm arloesol. Trwy ennyn diddordeb a dal dychymyg disgyblion, mae wedi cael effaith gadarnhaol ar eu mwynhad o ddysgu ac wedi gwella perthnasoedd athrawon/disgyblion yn ogystal â deilliannau. Darllen mwy >

LLanfaes School Main.jpg

Creu ymwybyddiaeth o ddementia trwy ryngweithio â disgyblion ac estyn allan i’r gymuned

Er 2014, mae Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfaes wedi cydweithio â chartref gofal cyfagos i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia ymhlith ei disgyblion. Mae nod yr ysgol i greu cenhedlaeth sy’n deall dementia wedi cael ei gydnabod gan sefydliadau elusennol a Llywodraeth Cymru. Darllen mwy >

Hendy CS Main.jpg

Elwa ar lais y disgybl i greu strategaethau gwrth-fwlio effeithiol

Addasodd staff a disgyblion yn Ysgol Gynradd Sirol Yr Hendy eu polisïau gwrthfwlio, gan sicrhau amgylchedd dim goddefgarwch lle mae’r holl ddisgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu clywed. Darllen mwy >

Cwmaber main.jpg

Rhoi cyfle i ddisgyblion ddweud eu dweud am wella’u hysgol

Yn Ysgol Fabanod Cwmaber, mae staff yn mynd ati i hyrwyddo llais y disgyblion a gwneud penderfyniadau. Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn hyder a hunan-barch disgyblion. Darllen mwy >

Fideo: Llais ac annibyniaeth disgyblion - Dysgu gweithredol a thrwy brofiad

Mae Pennod 2 y ffilm hon ar ddysgu gweithredol a thrwy brofiad yn edrych ar lais ac annibyniaeth disgyblion yn y cyfnod sylfaen. I ddysgu rhagor am yr arfer dda a nodwyd gennym, darllenwch yr adroddiad llawn. Darllen mwy >

Cyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n codi safonau

Yn Ysgol Gyfun Dŵr y Felin, mae cyfrifoldebau arwain wedi cael eu dosbarthu i lawer o staff sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at waith gwella’r ysgol. Darllen mwy >

Dull cydweithredol o ddatblygu gweithgareddau creadigol

Yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth, bu athrawon profiadol o’r ysgol yn gweithio gyda disgyblion, athrawon dan hyfforddiant a sefydliadau lleol i ddatblygu cyfres o weithgareddau ar thema’r awdur, T.Llew Jones. Darllen mwy >

Cynnwys pob rhanddeiliad wrth nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella’r ysgol

Mae Ysgol Gynradd Llanrhidian wedi datblygu diwylliant o hunanarfarnu parhaus yn canolbwyntio’n gryf ar wella deilliannau mewn safonau a lles i bob disgybl. Darllen mwy >

Mae disgyblion yn gweithio gyda staff i ddylanwadu ar yr hyn y maent yn ei ddysgu

Mae cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad disgyblion sy’n cael eu trefnu’n fedrus yn Ysgol Arbennig Heronsbridge yn cyfrannu at ddatblygu hunanhyder a medrau cymdeithasol disgyblion. Dros gyfnod, mae llawer o ddisgyblion yn datblygu eu hannibyniaeth ac yn cymryd cyfrifoldeb cynyddol amdanyn nhw eu hunain a’u dysgu yn unol â’u hanghenion a’u gallu. Darllen mwy >

Pages