Chwiliwch am arfer effeithiol

Teacher working on pupils' creative skills

Annog medrau creadigol a chorfforol ymhlith plant

Mae ymarferwyr yng Nghylch Chwarae Dwyieithog Aber-porth yn darparu gweithgareddau hwyliog ac ysgogol sy’n adeiladu ar ddiddordebau a chwestiynau plant. Cyflwynwyd ardal berfformio i ddatblygu iaith a hyder plant wrth siarad â phlant a phobl eraill neu wrth ganu a defnyddio offerynnau cerdd. Mae’r ardal greadigol hefyd yn rhoi cipolwg gwell i ymarferwyr ar ddatblygiad a chynnydd medrau echddygol manwl y plant. Maent yn defnyddio gemau cyffrous i ddatblygu medrau corfforol penodol fel ymwybyddiaeth ofodol ac addasu cyflymdra a chyfeiriad. Darllen mwy >

Teacher teaching welsh to class

Datblygu medrau Cymraeg ar gyfer dysgu yn y blynyddoedd cynnar

Mae ymarferwyr yng Nghylch Chwarae Dwyieithog Aber-porth yn defnyddio gweithgareddau arferol i gyflwyno’r Gymraeg ac ymadroddion Cymraeg. Mae hyn yn helpu plant i ddatblygu eu dealltwriaeth a’u hatebion yn raddol. Mae ymarferwyr yn defnyddio caneuon Cymraeg ac yn darllen storïau i’r plant yn Gymraeg. Mae’r staff yn fodelau iaith da, ac yn datblygu dealltwriaeth y plant o’r Gymraeg yn eithriadol o dda. Mae’r rhan fwyaf o’r plant yn gwneud cynnydd rhagorol o ran deall a defnyddio’r Gymraeg bob dydd. Darllen mwy >

children in forest

Cynllun cwricwlwm creadigol mwy hyblyg i ennyn diddordeb disgyblion

Mae Ysgol Gynradd Penbre wedi newid sut mae’n mynd ati i addysgu trwy wneud i gynllunio’r cwricwlwm fod yn fwy hyblyg fel ei fod yn addas i ddiddordebau’r disgyblion. Crëwyd chwe pharth dysgu, gydag adnoddau sy’n cefnogi a herio datblygiad medrau disgyblion. Mae’r parthau hyn wedi hybu dysgu annibynnol trwy gwricwlwm creadigol sy’n cael ei arwain gan y disgyblion. Mae disgyblion wedi gwneud cynnydd cryf, gan weithio’n fedrus a gwneud penderfyniadau pwysig am eu dysgu. Darllen mwy >

abercaseg

Athrawon yn cydweithio â’i gilydd i sicrhau bod strategaethau’n datblygu medrau craidd disgyblion

Mae gan Ysgol Abercaseg safonau cyson uchel o ganlyniad i weithgareddau hunanarfarnu parhaus. Mae’r ysgol wedi datblygu strategaethau cryf i gynorthwyo ei dysgwyr, ac mae athrawon wedi cydweithio â’i gilydd er mwyn gwneud yn siŵr fod llesiant a lles dysgwyr yn flaenoriaeth. Mae hyn wedi arwain at safonau uchel, datblygu medrau craidd dysgwyr ac, yn benodol, rhifedd. Darllen mwy >

teacher and children

Athrawon yn cydweithio â’i gilydd i sicrhau bod strategaethau’n datblygu medrau craidd disgyblion

Mae gan Ysgol Abercaseg safonau cyson uchel o ganlyniad i weithgareddau hunanarfarnu parhaus. Mae’r ysgol wedi datblygu strategaethau cryf i gynorthwyo ei dysgwyr, ac mae athrawon wedi cydweithio â’i gilydd er mwyn gwneud yn siŵr fod llesiant a lles dysgwyr yn flaenoriaeth. Mae hyn wedi arwain at safonau uchel, datblygu medrau craidd dysgwyr ac, yn benodol, rhifedd. Darllen mwy >

child and rocket

Esblygu arferion y cyfnod sylfaen yng nghyfnod allweddol 2 yn cynhyrchu cwricwlwm arloesol

Mae dysgu ac addysgu yng nghyfnod allweddol 2 yn adeiladu ar arferion y cyfnod sylfaen yn Ysgol Heulfan. Mae plant yn ffynnu trwy ddarganfod yn annibynnol a thrwy bynciau cyffrous, a hynny wedi’i ategu gan gefnogaeth athrawon a nodau cyffredinol ar draws yr ysgol. Mae’r astudiaeth achos hon yn portreadu datblygiad cwricwlwm yr ysgol o safbwynt ei chynnydd wrth hunanarfarnu, cynllunio a pharatoi, a gwireddu newid. Darllen mwy >

Planet - Planed

Rhoi llais y disgybl wrth wraidd y cynllunio i ddatblygu dysgu annibynnol

Nododd Ysgol Gynradd Mynwy nad oedd eu cwricwlwm yn ennyn diddordeb disgyblion, nac yn bodloni eu hanghenion yn llawn. Ers hynny, mae’r ysgol wedi mynd i’r afael â’r materion hyn ac wedi datblygu cwricwlwm bywiog ac arloesol yn seiliedig ar fedrau trwy werthfawrogi llais y disgybl a’i rôl mewn cynllunio’r cwricwlwm. Mae’r astudiaeth achos hon yn cynrychioli datblygu cwricwlwm yr ysgol o ran eu cynnydd mewn hunanarfarnu, cynllunio a pharatoi, a sicrhau newid. Darllen mwy >

Dysgu trwy chwarae mewn cyd-destun bywyd go iawn

Mae creu ‘pentref’ yn Ysgol Gynradd Tregatwg yn annog plant yn y cyfnod sylfaen i ddatblygu llawer o fedrau trwy ddarparu profiadau mewn cyd-destun bywyd go iawn. Darllen mwy >

Fideo: Safonau mewn llythrennedd a rhifeddn - Dysgu gweithredol a thrwy brofiad

Mae Pennod 1 y ffilm hon ar ddysgu gweithredol a thrwy brofiad yn edrych ar safonau mewn llythrennedd a rhifedd yn y cyfnod sylfaen. I ddysgu rhagor am yr arfer dda a nodwyd gennym, darllenwch yr adroddiad llawn. Darllen mwy >

Fideo: Llais ac annibyniaeth disgyblion - Dysgu gweithredol a thrwy brofiad

Mae Pennod 2 y ffilm hon ar ddysgu gweithredol a thrwy brofiad yn edrych ar lais ac annibyniaeth disgyblion yn y cyfnod sylfaen. I ddysgu rhagor am yr arfer dda a nodwyd gennym, darllenwch yr adroddiad llawn. Darllen mwy >

Pages