Chwiliwch am arfer effeithiol

meithrin

Cynllunio trylwyr a rolau wedi’u diffinio’n glir yn gwella ansawdd

Mae gan Feithrinfa Seren Fach ffocws cadarn ar welliant parhaus. Mae’n arfarnu ac yn gwella ansawdd trwy staffio strwythuredig ac amcanion clir. Mae rheolwyr ac ymarferwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu’u medrau a’u gwybodaeth. Hefyd, mae’r feithrinfa yn gwerthfawrogi cyfraniadau eu rhanddeiliaid i’w helpu i ddatblygu’n barhaus. Darllen mwy >

activities

Cynllunio a monitro hynod effeithiol

Tagiau: CynllunioAsesu

Caiff gweithgareddau dan do ac awyr agored, wedi’u cynllunio’n dda, eu defnyddio i wella medrau craidd disgyblion ym meithrinfa Martine’s Childcare. Mae athrawon yn cofnodi dilyniant disgyblion ar ddyfeisiau llaw yn syth, gan amlygu cyfleoedd i ddatblygu medrau plant. Caiff medrau llythrennedd a rhifedd eu datblygu trwy weithgareddau datrys problemau diddorol a thasgau difyr ar themâu. Darllen mwy >

lady and two children

Mae gweddnewid amser cinio yn helpu i wella ymddygiad a hunan-barch plant

Mae Meithrinfa Bellevue wedi gwella amser cinio yn sylweddol o fod yn llanastr i fod yn llwyddiannus! Trwy gyflwyno llestri, cyllyll a ffyrc, ffiolau o flodau a llawer mwy, mae plant wedi dysgu sut i drin yr adnoddau hyn yn ofalus, gwerth parch ac wedi atgyfnerthu eu cyfrifoldebau. Mae annog plant i ddatblygu eu medrau sgwrsio a’u medrau cymdeithasol wedi arwain at blant hapus, hyderus ac annibynnol. Darllen mwy >

child and woman

Datblygu medrau cymdeithasol ac emosiynol plant trwy gysylltiadau â’r gymuned

Mae plant ym Meithrinfa Ddydd Banana Moon yn ymweld â chartref gofal preswyl lleol sydd o fudd i’r naill a’r llall. Gall y plant ddatblygu eu medrau cymdeithasol ac emosiynol ac mae preswylwyr yn awyddus i ryngweithio â nhw. Darllen mwy >

2M2A2448 (Logos removed) - Site.jpg

Elwa ar ddiddordebau plant i ysbrydoli datblygiad mathemategol

Mae ymarferwyr yng Nghylch Meithrin Cefneithin, Gorslas wedi creu amgylchedd dysgu difyr ar gyfer datblygiad mathemategol trwy ddarparu gweithgareddau sy’n seiliedig ar gelf a thechnoleg o amgylch diddordebau plant. Darllen mwy >

Amgylchedd dysgu ysbrydoledig ar gyfer cyflwyno addysg y Cyfnod Sylfaen

Ym meithrinfa ddydd Poppies Day Nursery, mae’r amgylcheddau dysgu dan do ac awyr agored yn rhoi cyfleoedd cyffrous i blant ddatblygu medrau pwysig. Darllen mwy >

Arweinyddiaeth gefnogol sy’n gyrru gwelliant

Yn Sunflower Tots, mae’r cydlynydd gofal plant yn monitro staff yn rheolaidd er mwyn rhoi dealltwriaeth dda iddi o gryfderau’r cylch chwarae a meysydd i’w datblygu. Mae hyn yn ei galluogi i nodi’r adnoddau a’r hyfforddiant newydd sydd eu hangen i wella’r ddarpariaeth. Darllen mwy >

Cynllunio ar gyfer dysgu awyr agored o ansawdd da

Mae arweinyddiaeth strategol yn Gofal Plant Gogerddan wedi ymgorffori dysgu awyr agored yn narpariaeth y feithrinfa. O ganlyniad, bu gwelliannau yn hyder a datblygiad iaith y plant. Darllen mwy >

Amgylchedd dysgu awyr agored hynod effeithiol

Mae’r ddarpariaeth awyr agored yn Meithrinfa Ddydd Mrs Tiggywinkles yn darparu cyfleoedd rheolaidd i ddysgwyr ymarfer ac atgyfnerthu ystod o fedrau. Mae hyn yn eu helpu i gyflawni deilliannau da yn y Cyfnod Sylfaen. Darllen mwy >

Archwilio a dysgu yn yr awyr agored

Mae Meithrinfa Rossett House wedi datblygu profiadau dysgu arloesol yn yr awyr agored sy’n ennyn diddordeb plant ac yn eu helpu i ddatblygu llythrennedd a rhifedd trwy chwarae rôl. Darllen mwy >

Pages