Chwiliwch am arfer effeithiol

children in high vis

Lleisiau disgyblion yn llywio’r cwricwlwm

Mae Ysgol Gynradd Glan Usk wedi arwain ar arloesi’r cwricwlwm, dysgu proffesiynol ac arfer fyfyriol. Mae hyn wedi arwain at ddisgyblion hyderus sy’n arwain eu dysgu’u hunain yn effeithiol. Mae ystafelloedd dosbarth yn cynnwys Wal Ddysgu i bob disgybl, yn amlygu cynllunio gan y plant, eu medrau a’u syniadau ar gyfer gwersi. Mae gan bob ddisgybl lais amlwg wrth lywio’r cwricwlwm ac mae eu cyfraniadau’n cael eu gwerthfawrogi. Darllen mwy >

activities

Cynllunio a monitro hynod effeithiol

Tagiau: CynllunioAsesu

Caiff gweithgareddau dan do ac awyr agored, wedi’u cynllunio’n dda, eu defnyddio i wella medrau craidd disgyblion ym meithrinfa Martine’s Childcare. Mae athrawon yn cofnodi dilyniant disgyblion ar ddyfeisiau llaw yn syth, gan amlygu cyfleoedd i ddatblygu medrau plant. Caiff medrau llythrennedd a rhifedd eu datblygu trwy weithgareddau datrys problemau diddorol a thasgau difyr ar themâu. Darllen mwy >

pupils group

Sesiynau cymorth yn helpu ymddygiad a dysgu

Mae Ysgol Uwchradd Tywyn yn gweithio’n agos gyda Hafan, gan roi cyfle i’w disgyblion gymryd rhan mewn amrywiaeth o gyrsiau arbenigol a phenodol yn ymwneud â lles. Gall disgyblion ddewis cael sesiynau cymorth i’w helpu i wella ymddygiadau. O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion wedi datblygu agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu. Darllen mwy >

pupils at microphone

Arweinwyr ac athrawon yn gosod esiampl dda

Mae arweinwyr ac athrawon yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yn ymroddedig i ddatblygu ansawdd addysgu trwy hyfforddiant, gan osod esiampl dda, a helpu disgyblion i gyflawni eu potensial llawn. Mae disgyblion yn datblygu’r medrau y mae eu hangen i fod yn llwyddiannus mewn byd sy’n newid yn gyson, a deall ymdeimlad o foesoldeb. Darllen mwy >

science experiment

Cynllunio a gwrando ar anghenion disgyblion yn gwella safonau

Mae Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yn gwrando ar argymhellion teuluoedd ynghylch dyfodol eu plant. Mae’r ysgol yn hunanarfarnu ei pherfformiad, ei rheolaeth, ei haddysgu a’i darpariaeth yn rheolaidd. Mae canolbwyntio ar gymorth disgyblion wedi codi safonau. Darllen mwy >

focus group

Strategaethau effeithiol yn cefnogi lles cymdeithasol ac emosiynol disgyblion

Mae deallusrwydd emosiynol yn flaenoriaeth i staff yn Ysgol Baratoadol Redhill. Mae’r ysgol wedi rhoi strategaethau ar waith i gefnogi lles cymdeithasol ac emosiynol disgyblion trwy holiaduron i ddisgyblion a hunangofrestru, sesiynau medrau, a grwpiau ffocws dan arweiniad disgyblion i drafod unrhyw bryderon yn agored. Darllen mwy >

group

Ymddygiadau llwyddiannus trwy raglen wobrau

Mae rhaglen wobrau a fu ar brawf yn yr Unol Daleithiau wedi cael ei rhoi ar waith yn ysgol arbennig annibynnol Aran Hall. Mae’r rhaglen wedi helpu mwyafrif y disgyblion i reoli’u hymddygiad eu hunain yn llwyddiannus. O ganlyniad, mae disgyblion bellach yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd ac yn trin eraill gydag urddas a pharch. Mae disgyblion wedi dysgu sut i ddefnyddio’r gymuned yn ddiogel, a mynd i’r coleg ac i leoliadau profiad gwaith. Yn sgil hyn, mae disgyblion wedi ennill achrediad perthnasol ar gyfer eu gwaith. Darllen mwy >

ICT

Plethu technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn ddi-dor i bob gwers

Mae athrawon yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn hyfforddi i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r datblygiadau digidol diweddaraf i gynorthwyo disgyblion i ddefnyddio TGCh. Ar bob cyfle, mae dyfeisiau digidol yn cael eu defnyddio ar draws gwersi i ddatblygu gwybodaeth disgyblion. Mae hyn wedi arwain at safonau gwell ac mae athrawon yn rhannu’u harfer dda yn hyderus gydag ysgolion eraill. Darllen mwy >

classroom experiment

Gwella’r cwricwlwm ‘iLearn’ trwy gynllunio ac arfarnu

Mae rheolwyr dysgu yn Ysgol Uwchradd Olchfa wedi cynllunio cynlluniau gwaith sy’n canolbwyntio ar feysydd allweddol sydd wedi’u rhestru yn ‘Dyfodol Llwyddiannus’. Mae’r meysydd hyn yn cynnwys iCommunicate, iCalculate, iDiscover, iThink, iCreate ac iThrive, a fydd yn datblygu medrau craidd disgyblion. Mae tîm o athrawon-ymchwilwyr wedi bod yn llywio arferion dysgu ac addysgu’r ysgol, gan sicrhau bod y dysgwyr wrth wraidd cynllunio ac arfarnu. Darllen mwy >

mount

Paratoi i weithredu’r cwricwlwm newydd trwy gynnwys disgyblion

Yn Ysgol Gynradd Mount Pleasant, defnyddiwyd sesiynau hyfforddi staff i archwilio ‘Dyfodol Llwyddiannus’ yn greadigol a datblygu llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol ar draws y cwricwlwm. Fe wnaeth disgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu a oedd yn trawstorri, gan gymryd perchenogaeth ar gyfeiriad dysgu. Mae’r holl staff a disgyblion wedi cymryd rhan mewn creu arddangosfeydd mawr yn y neuadd, gan arddangos y meysydd y buont yn eu datblygu. O ganlyniad i’r ysbryd tîm effeithiol iawn hwn, caiff disgyblion gyfleoedd gwell i ddylanwadu ar fywyd a gwaith yr ysgol. Darllen mwy >

Pages