Chwiliwch am arfer effeithiol

temp

Cefnogi athrawon newydd gymhwyso gan ddefnyddio mentora ac anogaeth gan staff yr ysgol

Creodd Ysgol Gynradd Tredeml raglen ddatblygu ddwys, bwrpasol, a oedd yn para blwyddyn, a fodlonodd anghenion dysgu disgyblion ac athrawon newydd gymhwyso yn llwyddiannus. Darllen mwy >

Rhaglen Gymraeg arloesol i herio disgyblion mwy abl

Mae Ysgol Gyfun Treorci yn cynnal ffocws cadarn ar sicrhau bod disgyblion mwy abl a thalentog yn cael eu cefnogi a’u herio trwy amrywiaeth o strategaethau a darpariaeth effeithiol ac, yn benodol, datblygiad eu medrau Cymraeg. Trwy gydweithio ag arweinwyr cynradd a rhieni, mae’r ysgol yn gosod disgyblion mewn rhaglen garlam ar gyfer y Gymraeg ac mae hefyd yn eu gwahodd i gyfranogi trwy fforwm cryf ar gyfer llais y disgybl. Darllen mwy >

Defnyddio’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol i ymestyn medrau mathemategol a chreadigol

Defnyddiodd Ysgol Gynradd Llandrillo yn Rhos gyllid y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol i wella medrau mathemateg gweithdrefnol disgyblion, gyda ffocws penodol ar herio disgyblion mwy abl a thalentog mewn cyd-destun dysgu creadigol. Rhoddodd prosiect creadigol gyfle i ddisgyblion weithio’n annibynnol, cyfeirio’u dysgu’u hunain a herio’u hunain gyda medrau artistig a mathemategol mwy datblygedig. Darllen mwy >

bethesta

Mae lleisiau disgyblion o bwys

Mae Ysgol Pen-y-bryn yn annog disgyblion i leisio eu barn am yr ysgol mewn cyfarfodydd rheolaidd. Mae grwpiau o ddisgyblion yn trafod ac yn rhannu’r blaenoriaethau penodol sydd eu hangen i wella meysydd yn yr ysgol. O ganlyniad, mae medrau llythyrennedd, rhifedd a TGCh disgyblion wedi datblygu. Darllen mwy >

abercaseg

Athrawon yn cydweithio â’i gilydd i sicrhau bod strategaethau’n datblygu medrau craidd disgyblion

Mae gan Ysgol Abercaseg safonau cyson uchel o ganlyniad i weithgareddau hunanarfarnu parhaus. Mae’r ysgol wedi datblygu strategaethau cryf i gynorthwyo ei dysgwyr, ac mae athrawon wedi cydweithio â’i gilydd er mwyn gwneud yn siŵr fod llesiant a lles dysgwyr yn flaenoriaeth. Mae hyn wedi arwain at safonau uchel, datblygu medrau craidd dysgwyr ac, yn benodol, rhifedd. Darllen mwy >

gladstone

Rhaglen anogaeth gefnogol yn cynyddu lefelau hunan-barch disgyblion

Mae Ysgol Gynradd Gladstone yn ymrwymo i gynorthwyo ei disgyblion. Mae clybiau brecwast a mannau dynodedig yn galluogi disgyblion i siarad yn agored am unrhyw bryderon corfforol neu emosiynol. Darllen mwy >

children play

Darpariaeth effeithiol i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol

Mae Ysgol Heulfan wedi ailasesu darpariaeth i gynorthwyo anghenion dysgu ei disgyblion. Trwy gynlluniau datblygu unigol a sefydlu meysydd datblygu allweddol, mae disgyblion wedi canolbwyntio ar fedrau meddwl, cyfathrebu, TGCh a rhif mewn tasgau dyddiol. Mae dysgu ar y cyd wedi datblygu medrau personol a chymdeithasol disgyblion. Mae prosiectau ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned hefyd wedi gwella medrau bywyd go iawn disgyblion. Darllen mwy >

oracy

Datblygu medrau llefaredd disgyblion yn gyflym

Trwy gysylltiadau agos â rhieni, therapyddion ac ymarferwyr sydd wedi cael lefel uchel o hyfforddiant, mae Ysgol Gynradd Heulfan wedi helpu i wella llefaredd disgyblion gan ddefnyddio ystod o dechnegau cyfathrebu, o ganu ac arwyddo, i siarad a gwrando, gan ddefnyddio geirfa ddwyieithog. Nododd adborth ac adroddiadau gynnydd cyflym drwy’r ysgol gyfan. Darllen mwy >

children at desk

Ymdrechu am ddysgu annibynnol i bob disgybl

Nododd Ysgol Plascrug fod y broses hunanarfarnu ar gyfer annibyniaeth ei dysgwyr yn hanfodol i ddatblygiad llwyddiannus y newidiadau arfaethedig i’r cwricwlwm. Mae’n sicrhau bod disgyblion yn berchen ar eu dysgu, a datblygwyd ‘Wythnosau Arloesi’ ar sail pynciau a awgrymwyd gan ddisgyblion. Roedd yr wythnosau hyn yn galluogi dysgwyr i fireinio eu prosesau sydd wrth wraidd pob profiad dysgu. Darllen mwy >

People in an office in a discussion

Creu diwylliant proffesiynol o ddisgwyliadau cyson uchel

Mae arweinwyr yn Ysgol Uwchradd Llysweri wedi creu diwylliant lle mae gan athrawon ddisgwyliadau cyson uchel. Maent wedi darparu datblygiad proffesiynol amserol a pherthnasol ar gyfer staff. Mae pob un o’r staff yn cymryd rhan mewn rhwydweithiau arfer broffesiynol a rhwydweithiau dysgu ar y cyd. Mae hyn wedi arwain at synnwyr o gyfrifoldeb ar y cyd ar gyfer gwella addysgeg ac arfer yn barhaus. Darllen mwy >

Pages