Chwiliwch am arfer effeithiol

children musicians

Sŵn llwyddiant – defnyddio cerddoriaeth i ddatblygu medrau llythrennedd

Mae cerddoriaeth yn flaenoriaeth uchel yn Ysgol Gynradd Rhydypenau, lle y mae cynlluniau gwaith yn canolbwyntio ar ganu, chwarae, cyfansoddi a gwerthuso. Mae disgyblion yn rhoi cynnig ar amrywiaeth o offerynnau yn rheolaidd, sy’n helpu gyda’u lles, gweithio mewn tîm a gwydnwch. Trwy gynllunio’n ofalus, mae cerddoriaeth yn cael ei defnyddio hefyd i gyflawni safonau uchel mewn llythrennedd trwy ysgrifennu geiriau a throi cerddi’n ganeuon. Mae ansawdd ysgrifennu’r disgyblion yn yr ysgol wedi’i gydnabod trwy nifer o wobrau a chystadlaethau cenedlaethol. Mae’r amrywiaeth eang o brofiadau cerddorol yn galluogi llawer o gyfleoedd i ddisgyblion ymddiddori yn eu dysgu. Darllen mwy >

children jumping mountain

Olrhain cynnydd disgyblion i wella safonau lles a chyrhaeddiad

Mae staff hynod fedrus ac ymroddedig yn Ysgol Bro Gwydir yn cyflwyno amrywiaeth o gynlluniau ac ymyriadau sydd wedi cael effaith arwyddocaol ar safonau lles a chyrhaeddiad disgyblion. Mae disgyblion wedi elwa o glwb magu hyder, clwb antur fawr, grwpiau ffocws i ddisgyblion, a mwy. Mae system sy’n olrhain cyflawniad a datblygiad emosiynol wedi gwella lles a deilliannau disgyblion yn llwyddiannus iawn. Mae hyn yn sicrhau bod athrawon yn gallu canolbwyntio ar feysydd i’w datblygu y mae ar eu disgyblion eu hangen. Darllen mwy >

children doing crafts

Datblygu medrau a brwdfrydedd disgyblion tuag at ddysgu, trwy gynllunio ac addysgu creadigol

Mae Ysgol Gynradd Rhosybol wedi datblygu medrau ac annibyniaeth disgyblion yng nghyfnod allweddol 2 trwy gynllunio ac addysgu’n fwy creadigol. Rhannwyd disgyblion yn grwpiau yn unol â’u gallu i gwblhau tasgau, trwy gydol yr wythnos. Roedd asesu a monitro dilyniant wedi cynnwys ffilmio dan arweiniad disgyblion, ar ffurf ‘blog fideo’. Darllen mwy >

children in classroom

Cabinet Disgyblion yn hybu annibyniaeth ac yn cefnogi bywyd ysgol

Mae Cabinet o ddisgyblion, gyda chynrychiolwyr o’r cyngor ysgol a phwyllgorau eraill, yn rhannu gwybodaeth yn llwyddiannus ac yn arwain mentrau ar draws yr ysgol. Mae cofnodion pwrpasol yn helpu i osod targedau effeithiol ar gyfer pob tymor. Yn gyffredinol, gwelwyd gwelliant cadarnhaol yn annibyniaeth disgyblion. Darllen mwy >

boys in pirate ship

Meithrin teithiau dysgu disgyblion yn annog gwydnwch ac yn dathlu gwreiddioldeb

Mae Ysgol Llanfairpwllgwyngyll wedi cynnal ei safonau uchel trwy ganolbwyntio ar daith addysgu disgyblion, yn hytrach na’r gwaith gorffenedig. O ganlyniad i hyn, mae disgyblion wedi dod yn fwy annibynnol a gwydn, ac mae wedi hybu creadigrwydd. Darllen mwy >

ICT skills

Defnyddio technoleg a datblygu medrau TGCh disgyblion

Mae Ysgol Gynradd Tre Ioan yn cefnogi medrau digidol ei disgyblion trwy ddefnyddio amrywiaeth o dechnoleg a’u harwain nhw i ddefnyddio adnoddau ar-lein. Yn rhan o hyn, mae disgyblion yn datblygu’u cymhwysedd digidol mewn gwersi ac yn cydweithio i ysgrifennu erthyglau ar gyfer blog dysgu ar-lein yr ysgol. Yna, mae disgyblion yn rhannu’u gwaith gyda gweddill yr ysgol, rhieni a llywodraethwyr. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol hefyd ar wella medrau llythrennedd a rhifedd a gwella hyder disgyblion. Darllen mwy >

yoga

Defnyddio ioga i wella safonau ymddygiad a gwella medrau canolbwyntio

Mae sesiynau ioga yn Ysgol Gymraeg Brynsierfel yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ofalgar ac yn helpu disgyblion i ymlacio, tawelu a chymdeithasu. Mae’r sesiynau hyn wedi gwella medrau canolbwyntio, meithrin gwydnwch ac annog disgyblion i ymroi i ddysgu. Darllen mwy >

children in high vis

Lleisiau disgyblion yn llywio’r cwricwlwm

Mae Ysgol Gynradd Glan Usk wedi arwain ar arloesi’r cwricwlwm, dysgu proffesiynol ac arfer fyfyriol. Mae hyn wedi arwain at ddisgyblion hyderus sy’n arwain eu dysgu’u hunain yn effeithiol. Mae ystafelloedd dosbarth yn cynnwys Wal Ddysgu i bob disgybl, yn amlygu cynllunio gan y plant, eu medrau a’u syniadau ar gyfer gwersi. Mae gan bob ddisgybl lais amlwg wrth lywio’r cwricwlwm ac mae eu cyfraniadau’n cael eu gwerthfawrogi. Darllen mwy >

mount

Paratoi i weithredu’r cwricwlwm newydd trwy gynnwys disgyblion

Yn Ysgol Gynradd Mount Pleasant, defnyddiwyd sesiynau hyfforddi staff i archwilio ‘Dyfodol Llwyddiannus’ yn greadigol a datblygu llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol ar draws y cwricwlwm. Fe wnaeth disgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu a oedd yn trawstorri, gan gymryd perchenogaeth ar gyfeiriad dysgu. Mae’r holl staff a disgyblion wedi cymryd rhan mewn creu arddangosfeydd mawr yn y neuadd, gan arddangos y meysydd y buont yn eu datblygu. O ganlyniad i’r ysbryd tîm effeithiol iawn hwn, caiff disgyblion gyfleoedd gwell i ddylanwadu ar fywyd a gwaith yr ysgol. Darllen mwy >

group of children

Creu sylfeini cadarn i gefnogi twf dysgwyr

Mae Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Yr Esgob wedi helpu disgyblion i wella’u gwaith, cymryd cyfrifoldeb am eu dysgu, a chodi safonau trwy ddysgu annibynnol, hunanasesu rheolaidd a gosod amcanion dysgu clir. Darllen mwy >

Pages