
Helpu dysgwyr â’u medrau Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth gyda darpariaeth ychwanegol
Ar gais dysgwyr, mae Dysgu Cymraeg Morgannwg wedi ymestyn eu hamrywiaeth o gyrsiau Cymraeg i helpu datblygu medrau y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae’r rhain yn cynnwys grwpiau darllen/trafod mewn amrywiaeth o feysydd, a gynhelir yn ystod misoedd yr haf gyda chymorth tiwtoriaid profiadol. Darllen mwy >

Defnyddio technoleg a datblygu medrau TGCh disgyblion
Mae Ysgol Gynradd Tre Ioan yn cefnogi medrau digidol ei disgyblion trwy ddefnyddio amrywiaeth o dechnoleg a’u harwain nhw i ddefnyddio adnoddau ar-lein. Yn rhan o hyn, mae disgyblion yn datblygu’u cymhwysedd digidol mewn gwersi ac yn cydweithio i ysgrifennu erthyglau ar gyfer blog dysgu ar-lein yr ysgol. Yna, mae disgyblion yn rhannu’u gwaith gyda gweddill yr ysgol, rhieni a llywodraethwyr. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol hefyd ar wella medrau llythrennedd a rhifedd a gwella hyder disgyblion. Darllen mwy >

Defnyddio ioga i wella safonau ymddygiad a gwella medrau canolbwyntio
Mae sesiynau ioga yn Ysgol Gymraeg Brynsierfel yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ofalgar ac yn helpu disgyblion i ymlacio, tawelu a chymdeithasu. Mae’r sesiynau hyn wedi gwella medrau canolbwyntio, meithrin gwydnwch ac annog disgyblion i ymroi i ddysgu. Darllen mwy >

Lleisiau disgyblion yn llywio’r cwricwlwm
Mae Ysgol Gynradd Glan Usk wedi arwain ar arloesi’r cwricwlwm, dysgu proffesiynol ac arfer fyfyriol. Mae hyn wedi arwain at ddisgyblion hyderus sy’n arwain eu dysgu’u hunain yn effeithiol. Mae ystafelloedd dosbarth yn cynnwys Wal Ddysgu i bob disgybl, yn amlygu cynllunio gan y plant, eu medrau a’u syniadau ar gyfer gwersi. Mae gan bob ddisgybl lais amlwg wrth lywio’r cwricwlwm ac mae eu cyfraniadau’n cael eu gwerthfawrogi. Darllen mwy >

Cynllunio a monitro hynod effeithiol
Caiff gweithgareddau dan do ac awyr agored, wedi’u cynllunio’n dda, eu defnyddio i wella medrau craidd disgyblion ym meithrinfa Martine’s Childcare. Mae athrawon yn cofnodi dilyniant disgyblion ar ddyfeisiau llaw yn syth, gan amlygu cyfleoedd i ddatblygu medrau plant. Caiff medrau llythrennedd a rhifedd eu datblygu trwy weithgareddau datrys problemau diddorol a thasgau difyr ar themâu. Darllen mwy >

Sesiynau cymorth yn helpu ymddygiad a dysgu
Mae Ysgol Uwchradd Tywyn yn gweithio’n agos gyda Hafan, gan roi cyfle i’w disgyblion gymryd rhan mewn amrywiaeth o gyrsiau arbenigol a phenodol yn ymwneud â lles. Gall disgyblion ddewis cael sesiynau cymorth i’w helpu i wella ymddygiadau. O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion wedi datblygu agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu. Darllen mwy >

Arweinwyr ac athrawon yn gosod esiampl dda
Mae arweinwyr ac athrawon yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yn ymroddedig i ddatblygu ansawdd addysgu trwy hyfforddiant, gan osod esiampl dda, a helpu disgyblion i gyflawni eu potensial llawn. Mae disgyblion yn datblygu’r medrau y mae eu hangen i fod yn llwyddiannus mewn byd sy’n newid yn gyson, a deall ymdeimlad o foesoldeb. Darllen mwy >

Cynllunio a gwrando ar anghenion disgyblion yn gwella safonau
Mae Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yn gwrando ar argymhellion teuluoedd ynghylch dyfodol eu plant. Mae’r ysgol yn hunanarfarnu ei pherfformiad, ei rheolaeth, ei haddysgu a’i darpariaeth yn rheolaidd. Mae canolbwyntio ar gymorth disgyblion wedi codi safonau. Darllen mwy >

Strategaethau effeithiol yn cefnogi lles cymdeithasol ac emosiynol disgyblion
Mae deallusrwydd emosiynol yn flaenoriaeth i staff yn Ysgol Baratoadol Redhill. Mae’r ysgol wedi rhoi strategaethau ar waith i gefnogi lles cymdeithasol ac emosiynol disgyblion trwy holiaduron i ddisgyblion a hunangofrestru, sesiynau medrau, a grwpiau ffocws dan arweiniad disgyblion i drafod unrhyw bryderon yn agored. Darllen mwy >

Ymddygiadau llwyddiannus trwy raglen wobrau
Mae rhaglen wobrau a fu ar brawf yn yr Unol Daleithiau wedi cael ei rhoi ar waith yn ysgol arbennig annibynnol Aran Hall. Mae’r rhaglen wedi helpu mwyafrif y disgyblion i reoli’u hymddygiad eu hunain yn llwyddiannus. O ganlyniad, mae disgyblion bellach yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd ac yn trin eraill gydag urddas a pharch. Mae disgyblion wedi dysgu sut i ddefnyddio’r gymuned yn ddiogel, a mynd i’r coleg ac i leoliadau profiad gwaith. Yn sgil hyn, mae disgyblion wedi ennill achrediad perthnasol ar gyfer eu gwaith. Darllen mwy >