Chwiliwch am arfer effeithiol

boy smile

Cyflawni safonau uchel trwy les disgyblion

Mae Ysgol Gynradd Craigfelen yn sicrhau bod disgyblion yn hapus, yn llawn cymhelliant ac yn cyflawni safonau uchel trwy gwricwlwm cyfoethog a chyffrous, sy’n eu paratoi nhw at y dyfodol. Mae’r holl staff yn canolbwyntio ar ddatblygu eu harfer er mwyn rhoi gwersi diddorol a difyr. Darllen mwy >

children

Cynllunio trylwyr a rolau wedi’u diffinio’n glir yn gwella ansawdd

Mae gan Feithrinfa Seren Fach ffocws cadarn ar welliant parhaus. Mae’n arfarnu ac yn gwella ansawdd trwy staffio strwythuredig ac amcanion clir. Mae rheolwyr ac ymarferwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu’u medrau a’u gwybodaeth. Hefyd, mae’r feithrinfa yn gwerthfawrogi cyfraniadau eu rhanddeiliaid i’w helpu i ddatblygu’n barhaus. Darllen mwy >

children in classroom

Gwella lles a deilliannau disgyblion trwy gwricwlwm creadigol

Mae Ysgol Cefn Coch wedi cynllunio cwricwlwm sy’n cwmpasu celf, drama, cerddoriaeth, ffilm a chyfryngau digidol er mwyn hoelio sylw disgyblion a galluogi llwyddiant. Darperir cyfleoedd rheolaidd i ddysgwyr greu rhaglenni radio wythnosol, yn ogystal â rhaglenni teledu a ffilmiau ar sianel yr ysgol. Mae’r ysgol wedi sicrhau bod y gwaith yn berthnasol i anghenion heddiw a’i fod yn datblygu cymwyseddau a fydd yn galluogi disgyblion i wynebu heriau’n hyderus yn eu bywyd yn y dyfodol. Darllen mwy >

children musicians

Sŵn llwyddiant – defnyddio cerddoriaeth i ddatblygu medrau llythrennedd

Mae cerddoriaeth yn flaenoriaeth uchel yn Ysgol Gynradd Rhydypenau, lle y mae cynlluniau gwaith yn canolbwyntio ar ganu, chwarae, cyfansoddi a gwerthuso. Mae disgyblion yn rhoi cynnig ar amrywiaeth o offerynnau yn rheolaidd, sy’n helpu gyda’u lles, gweithio mewn tîm a gwydnwch. Trwy gynllunio’n ofalus, mae cerddoriaeth yn cael ei defnyddio hefyd i gyflawni safonau uchel mewn llythrennedd trwy ysgrifennu geiriau a throi cerddi’n ganeuon. Mae ansawdd ysgrifennu’r disgyblion yn yr ysgol wedi’i gydnabod trwy nifer o wobrau a chystadlaethau cenedlaethol. Mae’r amrywiaeth eang o brofiadau cerddorol yn galluogi llawer o gyfleoedd i ddisgyblion ymddiddori yn eu dysgu. Darllen mwy >

children jumping mountain

Olrhain cynnydd disgyblion i wella safonau lles a chyrhaeddiad

Mae staff hynod fedrus ac ymroddedig yn Ysgol Bro Gwydir yn cyflwyno amrywiaeth o gynlluniau ac ymyriadau sydd wedi cael effaith arwyddocaol ar safonau lles a chyrhaeddiad disgyblion. Mae disgyblion wedi elwa o glwb magu hyder, clwb antur fawr, grwpiau ffocws i ddisgyblion, a mwy. Mae system sy’n olrhain cyflawniad a datblygiad emosiynol wedi gwella lles a deilliannau disgyblion yn llwyddiannus iawn. Mae hyn yn sicrhau bod athrawon yn gallu canolbwyntio ar feysydd i’w datblygu y mae ar eu disgyblion eu hangen. Darllen mwy >

children doing crafts

Datblygu medrau a brwdfrydedd disgyblion tuag at ddysgu, trwy gynllunio ac addysgu creadigol

Mae Ysgol Gynradd Rhosybol wedi datblygu medrau ac annibyniaeth disgyblion yng nghyfnod allweddol 2 trwy gynllunio ac addysgu’n fwy creadigol. Rhannwyd disgyblion yn grwpiau yn unol â’u gallu i gwblhau tasgau, trwy gydol yr wythnos. Roedd asesu a monitro dilyniant wedi cynnwys ffilmio dan arweiniad disgyblion, ar ffurf ‘blog fideo’. Darllen mwy >

children in classroom

Cabinet Disgyblion yn hybu annibyniaeth ac yn cefnogi bywyd ysgol

Mae Cabinet o ddisgyblion, gyda chynrychiolwyr o’r cyngor ysgol a phwyllgorau eraill, yn rhannu gwybodaeth yn llwyddiannus ac yn arwain mentrau ar draws yr ysgol. Mae cofnodion pwrpasol yn helpu i osod targedau effeithiol ar gyfer pob tymor. Yn gyffredinol, gwelwyd gwelliant cadarnhaol yn annibyniaeth disgyblion. Darllen mwy >

boys in pirate ship

Meithrin teithiau dysgu disgyblion yn annog gwydnwch ac yn dathlu gwreiddioldeb

Mae Ysgol Llanfairpwllgwyngyll wedi cynnal ei safonau uchel trwy ganolbwyntio ar daith addysgu disgyblion, yn hytrach na’r gwaith gorffenedig. O ganlyniad i hyn, mae disgyblion wedi dod yn fwy annibynnol a gwydn, ac mae wedi hybu creadigrwydd. Darllen mwy >

children painting

Cynorthwyo disgyblion y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt, er mwyn eu helpu i integreiddio

Mae Ysgol Westbourne yn asesu gallu ieithyddol disgyblion sy’n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol. Caiff disgyblion gyfle i fynychu ysgol haf cyn dechrau hefyd. Mae athrawon yn hyrwyddo lefelau uchel o gynhwysiant disgyblion ac yn annog cyfranogiad mewn gweithgareddau, fel gwasanaethau, digwyddiadau elusennol, diwrnodau rhyngwladol a gwersi siarad cyhoeddus. Darllen mwy >

learning

Cyfathrebu yn agored i helpu staff i weithio’n fwy effeithiol gyda’i gilydd

Mae pob un o’r staff yn Ysgol Arbennig Tŷ Coch wedi bod yn mynychu sesiynau i’w helpu i ddeall eu harddull reoli broffesiynol a’u deallusrwydd emosiynol eu hunain. Mae hyn wedi arwain at waith tîm, ymgynghori a chyfathrebu gwell. Mae staff yn nodi eglurder gwell ynghylch rolau, cyfrifoldebau a mesurau atebolrwydd hefyd. Mae’r sesiynau hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau disgyblion. Darllen mwy >

Pages