Chwiliwch am arfer effeithiol

Pupils using leadership skills

Datblygu medrau arwain

Caiff disgyblion yn Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig Sant Joseph eu hannog i ymgymryd ag ystod eang o gyfrifoldebau i wella eu medrau arwain. Mae Senedd yr Ysgol yn cynnwys plant o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 6. Caiff hyn effaith ar annibyniaeth disgyblion, eu medrau cydweithio a’u hagweddau at ddysgu. Trwy ddatblygu camau gweithredu a fydd yn effeithio ar yr ysgol, mae disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac yn datblygu i fod yn unigolion hyderus. Mae’r ymdeimlad hwn o berchnogaeth yn sicrhau eu bod wedi eu cymell ac yn eu helpu i wella eu medrau datrys problemau. Darllen mwy >

Teacher using electronic whiteboard

Creu fframwaith strategol

Datblygodd arweinwyr yn Ysgol Stryd y Rhos y cyswllt rhwng hunanwerthuso, rheoli perfformiad a gosod targedau i greu cynnydd cryf a chynaledig gan ddisgyblion. Sefydlodd yr ysgol fframwaith i sicrhau bod eu gweledigaeth a’u blaenoriaethau yn cael eu rhoi ar waith yn llwyddiannus. Mae gosod targedau i ddatblygu safonau llythrennedd a rhifedd wedi cael effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion. O ganlyniad i’r dull hwn, mae mwyafrif y disgyblion yn gadael yr ysgol gyda medrau yn uwch na’r disgwyl. Darllen mwy >

Father helps child with reading

Datblygu arferion darllen da

Fe wnaeth Ysgol Gynradd Alltwen wella safonau darllen disgyblion trwy redeg caffi wythnosol ar gyfer darllen ar y rhyngrwyd. Fe wnaeth hyn alluogi’r ysgol i weithio gyda rhieni i gynyddu cyfleoedd i ddarllen ac i wella arferion darllen. Roedd bron bob un o’r disgyblion a gymerodd ran yn y cynllun wedi gwneud cynnydd a chodi’u hoedran darllen. Mae mwyafrif y disgyblion yn darllen mwy gartref. Hefyd, fe wnaeth y cynllun ganiatáu i’r ysgol ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda rhieni. Darllen mwy >

Parents help children learn at home

Cefnogi ymgysylltiad rhieni trwy weithdai

Mae ymgysylltiad rhieni wedi gwella yn Ysgol Gynradd St Julian, diolch i weithdai a digwyddiadau teuluol. Maent yn rhoi’r cyfle i rieni gefnogi dysgu a lles, gartref ac yn yr ysgol. Mae’r gweithdai yn cynnwys rhieni yn gweithio gyda’u plentyn i weld beth sy’n cael ei addysgu yn yr ysgol fel eu bod yn gallu parhau â’u dysgu gartref. Mae hyder rhieni wrth helpu’u plant i ddysgu wedi gwella, ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar les disgyblion. Darllen mwy >

Children playing in playground

Diwylliant yr ysgol yn canolbwyntio ar hawliau plant

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw wedi gwreiddio hawliau plant yn ei diwylliant, gan wella lles disgyblion. Mae ymdeimlad o berchnogaeth o’u hysgol gan y disgyblion, ac maent yn cyfrannu at ei gwelliant. Mae ymddygiad disgyblion yn rhagorol ac mae lefel yr ymrwymiad i ddysgu wedi gwella hefyd. Mae hawliau plant wedi dod yn rhan wirioneddol ac ystyrlon o fywyd dyddiol pob disgybl, ac mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn presenoldeb. Darllen mwy >

Boys use ICT tablet in class

Ysgol yn helpu disgyblion i ddatblygu medrau TG yn annibynnol

Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd St Julian wedi dod yn fwy annibynnol yn eu defnydd o TG, diolch i fframwaith cymhwysedd digidol yr ysgol. Mae disgyblion yn defnyddio TG yn fwy pwrpasol ac yn cymhwyso’u medrau digidol yn well yn y dosbarth. Mae’r diwylliant ar gyfer dysgu digidol yn cynyddu ac mae disgyblion yn defnyddio TG yn fwy effeithiol o fewn yr ysgol a thu hwnt. Darllen mwy >

Children gather around computer

Ysgol yn datblygu llais y disgybl

Mae llais y disgybl yn ganolog i bob agwedd ar fywyd yr ysgol yn Ysgol Dolbadarn. Nod yr ysgol yw i bob disgybl gymryd perchenogaeth ar yr hyn y maent yn ei ddysgu a mynegi eu barn am weithgareddau allgyrsiol. O ganlyniad i hyn, mae disgyblion yn datblygu’u gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u medrau yn llwyddiannus. Trwy roi cyfle i ddisgyblion ddweud eu dweud yn rheolaidd am gynnwys eu gwersi, mae tystiolaeth yn dangos bod gan ddisgyblion fwy o ddiddordeb a brwdfrydedd ynghylch eu haddysg, a mwy o berchenogaeth arni. Darllen mwy >

Girl in classroom

System olrhain yn helpu disgyblion i gyflawni targedau

Mae disgyblion yng Ngholeg Sant Ioan yn gwneud cynnydd amlwg trwy gydol y flwyddyn, diolch i system olrhain wedi’i mireinio. Nod y system olrhain yw cynorthwyo a herio disgyblion i gyflawni o’u gorau. Gosodir targedau bob tymor, sy’n helpu i annog dysgu a hunanfyfyrio annibynnol. Mae tiwtoriaid dosbarth yn trafod y targedau gyda’r disgyblion ac yn llunio targedau SMART i wella ar gyfer y tymor nesaf. Mae hyn yn eu galluogi i gymryd perchnogaeth o’u dysgu a’u cynnydd. Darllen mwy >

Pupils working together in classroom

Datblygu gwerthoedd personol cryf yn yr ysgol

Caiff disgyblion yn Ysgol Gynradd Coed Efa eu hannog i gymryd rhan mewn grwpiau cyfranogiad disgyblion, sydd wedi eu helpu i ddatblygu gwerthoedd personol cryf. Trwy ymgymryd ag ystod eang o gyfrifoldebau, mae disgyblion wedi gwella eu medrau arwain. Mae’r cynllun wedi cael effaith gadarnhaol ar safonau ymddygiad a lles, ac mae wedi gwella addysgu a dysgu. Mae disgyblion yn parhau i ddangos cymhelliant a diddordeb gan eu bod yn cael dweud eu dweud ynglŷn â beth maent yn ei ddysgu, a sut. Darllen mwy >

Pupils working together in classroom

Creu strategaethau i ddatblygu annibyniaeth disgyblion

Mae staff yn Ysgol Gynradd Coed Efa wedi cymryd rhan mewn ymchwil i greu strategaethau yn seiliedig ar agweddau disgyblion at ddysgu. Crëwyd strategaethau i ddatblygu hyder, annibyniaeth a gallu disgyblion i oresgyn heriau yn eu dysgu. Mae’r ysgol yn hyrwyddo diwylliant o ymholi a darganfod trwy ddatblygu cymeriadau â storïau perthnasol. Mae’r cymeriadau hyn yn rhoi cyfle i ddisgyblion ddatblygu eu medrau dysgu’n annibynnol, a myfyrio ar sut gallant ddefnyddio nodweddion dysgu’r cymeriadau yn eu gwersi. Darllen mwy >

Pages