Chwiliwch am arfer effeithiol

Children taking part in play

Ysgol yn cynnig dull hyblyg o ddysgu

Wrth astudio arwr rhyfel lleol, cafodd disgyblion eu hannog i ddefnyddio eu syniadau eu hunain i lunio eu gwersi hanes. Wrth i’r prosiect dyfu, dylanwadodd ar y dosbarth mewn cyfeiriad newydd. Enillodd disgyblion ymdeimlad o gyflawniad personol trwy wybod bod eu syniadau’n cyfrannu at newidiadau yn yr hyn yr oeddent yn ei astudio. Rhoddwyd dull agored o gynllunio’r dosbarth i ddisgyblion, a alluogodd iddynt gynhyrchu eu drama eu hunain ar sail eu canfyddiadau ymchwil. Darllen mwy >

College staff works with school pupil to look at next step choices

Rhoi’r grym i fyfyrwyr archwilio llwybrau addysg gwahanol

Trwy weithio’n agos gydag ysgolion, mae Coleg Gŵyr yn rhoi’r grym i ddisgyblion 14-16 oed archwilio’r holl lwybrau addysg sydd ar gael iddynt. Mae rhaglen ‘kick start’ yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio amrywiaeth o sectorau cyn penderfynu ar astudiaethau pellach, hyfforddiant neu waith. Mae cysylltiadau’r coleg ag ysgolion yn caniatáu iddynt chwalu’r rhwystrau rhag addysg bellach a medrau lefel uwch. Darllen mwy >

Industry expert helps college students prepare for their next step

Paratoi myfyrwyr ar gyfer eu cam nesaf ar ôl y coleg

Gall myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr gael cymorth gan arbenigwyr i’w paratoi at eu cam nesaf ar ôl y coleg. Mae dysgwyr sy’n ystyried mynd ymlaen i addysg uwch yn gallu defnyddio gweithdai, anerchiadau a chyfweliadau ffug gydag arbenigwyr diwydiant wrth ysgrifennu’u ceisiadau prifysgol. Mae dysgwyr sy’n dymuno mynd ymlaen i waith ar ôl cwblhau eu hastudiaethau yn cael tiwtorialau a chymorth arbenigol i’w helpu i fynd ymlaen i’w dewis lwybr gyrfaol. Darllen mwy >

Pupils uses laptop and shows good behaviour

Lleihau ymddygiad heriol trwy strategaeth rheoli cadarnhaol

Mae Ysgol Tŷ Bronllys wedi datblygu ymagwedd ataliol at reoli ymddygiad, gan ganolbwyntio ar y rhesymau dros ddigwyddiad a chyflwyno strategaeth rheoli ymddygiad yn gadarnhaol. Roedd hyfforddiant ar reoli ymddygiad wedi’i integreiddio i gyfnodau sefydlu’r holl staff, ac wedyn rhoddwyd cyfle i ddilyn cymhwyster wedi’i achredu. Rhoddir cynllun cymorth ymddygiad cadarnhaol unigol i ddisgyblion, sy’n rhoi arweiniad ar sut gall staff fodloni eu hanghenion cymorth. Mae hyn wedi cynyddu presenoldeb, cyflawniad academaidd ac wedi gwella lles i’r holl ddisgyblion. Darllen mwy >

boys writing

Mae’r Awdurdod lleol yn creu gwasanaeth Addysg a Phlant cwbl integredig

Ar ôl i Gyngor Sir Ddinbych greu Gwasanaeth Addysg a Phlant cyfunol, gwelwyd gwelliannau mewn cyfathrebu, cynllunio strategol a defnydd o adnoddau. Mae gweithwyr proffesiynol wedi gallu deall anghenion disgyblion yn well a nodi pobl ifanc sy’n agored i niwed yn gynharach. Mae’r gwasanaeth wedi gwella amgylcheddau dysgu hefyd, a’r cymorth a roddir i unigolion a theuluoedd. Darllen mwy >

Pupils playing together while Teacher observes

Ysgol yn datblygu profiad dysgu arloesol i ddisgyblion

Mae Ysgol Gynradd Cogan wedi gwella safonau a lles drwy’r ysgol gyfan. Mae ei diwylliant dysgu wedi rhoi’r hyder i staff rannu dulliau sy’n arwain at gyfleoedd dysgu gwell i ddisgyblion. Mae menter ‘bydis’ yn galluogi disgyblion i rannu eu gwaith a thrafod eu mwynhad wrth ddysgu. Mae hefyd yn darparu ffynhonnell effeithiol o fonitro anffurfiol i athrawon. Darllen mwy >

Teacher uses sign language with Pupil

Ysgol yn annog amgylchedd dysgu gofalgar a chynhwysol

Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Cogan yn elwa ar amgylchedd dysgu cadarnhaol. Mae’n helpu disgyblion i deimlo’n sicr ac yn cyfoethogi eu dysgu. Mae’r cyngor yn darparu cymorth penodol i ddisgyblion ag anawsterau clyw, ac yn annog disgyblion a staff i ddefnyddio arwyddo ac offer cyfathrebu gweledol eraill yn ddyddiol o ddydd i ddydd. Mae’r ysgol yn dathlu amrywiaeth a chynhwysiant trwy roi cyfle i ddisgyblion ddysgu am ddiwylliannau a chrefyddau gwahanol. Darllen mwy >

Pupils and staff at Brynsierfel Primary

Codi safonau lles ymhlith disgyblion a staff

Mae gan Ysgol Gymraeg Brynsierfel weithdrefn effeithiol ar gyfer olrhain a monitro lles disgyblion yn ddyddiol. Mae’r ysgol yn cynnal sesiynau ymyrraeth i hyrwyddo agweddau cadarnhaol, sy’n galluogi disgyblion i rannu eu pryderon, trafod eu teimladau a gwella eu medrau hunanreolaeth. Mae gwasanaethau yn yr ysgol yn trafod moeswersi, ac mae sesiynau i hyrwyddo perthnasoedd iach a chadarnhaol, yn ogystal â dosbarthiadau i rieni. Mae system ‘Bydis Buarth’ ar waith hefyd i annog disgyblion i gynnwys eu holl gyfoedion mewn gweithgareddau. Darllen mwy >

Children in fancy dress

Asesu ar gyfer Dysgu a medrau meddwl

Mae Ysgol Gynradd Gaer wedi codi safonau i ddysgwyr trwy sefydlu gweithdrefnau ‘asesu ar gyfer dysgu’. Mae’r rhain wedi cael effaith sylweddol o ran newid y diwylliant mewn ystafelloedd dosbarth. Trwy ddefnyddio hetiau lliw, mae disgyblion yn asesu eu hunain a’u cyfoedion. Mae’r broses hon wedi helpu disgyblion i atgyfnerthu eu dysgu trwy esbonio syniadau i bobl eraill. Darllen mwy >

Cyngor ysgol yn datblygu lles disgyblion ac yn gosod cyfeiriad strategol

Mae Ysgol Beca wedi uno nifer o grwpiau’r cyngor er mwyn helpu i weithio tuag at amlygu meysydd sy’n flaenoriaeth i’r ysgol a’i disgyblion. I ddechrau, casglodd y cyngor farn gan ddefnyddio holiaduron y disgyblion i sefydlu meysydd pryder. Mae dull gweithredu’r cyngor wedi datblygu ymdeimlad o berchenogaeth y disgyblion ar eu hysgol, a’u balchder ynddi. O ganlyniad, mae ymrwymiad a brwdfrydedd disgyblion tuag at fywyd a gwaith yr ysgol yn rhagorol. Darllen mwy >

Pages