Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Cefnogi lles a dysgu yn ystod COVID-19 – dulliau o ysgolion uwchradd

Secondary school pupils using computers learning from home
Diweddarwyd y dudalen hon ar 12/05/2021

Rydym yn rhannu cipolygon ar sut mae ysgolion ac UCDau yn cefnogi eu disgyblion a’u cymunedau wrth ymateb i’r amgylchiadau anodd o ganlyniad i COVID-19.

Ysgrifennwyd y dulliau hyn ar ôl galwad ffôn ymgysylltu ac mae’n adlewyrchu’r sefyllfa ar y pryd.

Efallai y gall ysgolion ac UCDau addasu’r rhain ar gyfer eu cyd-destun eu hunain.

Mae’r ysgolion uwchradd hyn wedi rhannu eu cipolygon a gafwyd tra’n cefnogi eu disgyblion i barhau â dysgu. 

Deall profiadau disgyblion

Risca Community Comprehensive School | Estyn (gov.wales)

Er mwyn gwella dealltwriaeth staff o’r materion a wynebwyd gan ddisgyblion yn ystod y cyfnod clo, mae arweinwyr Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga wedi creu cyflwyniad yn seiliedig ar brofiadau disgyblion, o’r enw ‘sut beth yw bod ochr arall y sgrin’. Mae’r cyflwyniad yn cynnwys fideos ‘pennau’n parablu’, ynghyd â darnau sain a darnau ysgrifenedig sy’n cynnwys disgyblion o bob oed a gallu yn siarad am eu profiadau, yn rhai cadarnhaol a negyddol.
 

Dysgu ac addysgu

Ysgol Uwchradd Aberteifi | Estyn (gov.wales)

Roedd athrawon yn Ysgol Uwchradd Aberteifi yn pryderu am wybodaeth byncioldisgyblion a’u gallu i adalw dysgu blaenorol. Cyflwynont gysyniad o’r enw ‘pump ydydd’. Mae hyn yn cynnwys gofyn pum math o gwestiwn i ddisgyblion am yramcan dysgu ar gyfer pob gwers. Mae’r cwestiynau hyn wedi’u seilio ar bynciauneu fedrau sy’n berthnasol i’r amcan a ddysgont yn y wers ddiwethaf, yr wythnosddiwethaf, y tymor diwethaf a’r flwyddyn ddiwethaf, a’r cysylltiad â gwers y diwrnod hwnnw.
 

Asesu ffurfiannol ar-lein

Ysgol Y Creuddyn | Estyn (gov.wales)

Yn Ysgol y Creuddyn, mae’r adran fathemateg wedi bod yn arbrofi ag ymagweddau at asesu ffurfiannol ar-lein. Yn ystod sesiynau addysgu byw, maent wedi bod yn defnyddio meddalwedd amrywiol fel Google forms a byrddau gwyn mini, rhithwir, i brofi dealltwriaeth disgyblion o gysyniadau ac i lywio’r camau addysgu nesaf. Hefyd, maent wedi bod yn defnyddio holi diagnostig amlddewis i fesur dealltwriaeth disgyblion ac amlygu camsyniadau disgyblion yn gynnar yn ystod yr addysgu, fel nad yw’r camsyniadau’n magu gwreiddiau.

Cynnwys disgyblion wrth ddatblygu’r cwricwlwm

Stanwell School | Estyn (gov.wales)

Fel rhan o’u rhaglen dysgu proffesiynol i ategu datblygiad Cwricwlwm i Gymru, mae arweinwyr yr ysgol yn cynllunio sesiynau dysgu proffesiynol wythnosol ac maent wedi cynnwys diwrnodau cynllunio cydweithredol i arweinwyr. Mae’r rhain yn cynnwys disgyblion fel ‘ymgynghorwyr ar y cwricwlwm’ i gynorthwyo staff i ddatblygu cwricwlwm y mae diddordebau ac anghenion eu disgyblion yn sylfaen iddo.

Cefnogi lles staff

Risca Community Comprehensive School | Estyn (gov.wales)

Er mwyn cefnogi lles staff, cynhaliodd pennaeth Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga hyfforddiant i arweinwyr canol ar gyfathrebu yn ystod yr argyfwng. Canolbwyntiodd yr hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r e-bost a chyfleu negeseuon yn ofalus, sut i eirio pethau, sut i ganolbwyntio ar atebion a sut i esbonio’r rhesymeg wrth wraidd penderfyniadau. Er enghraifft roedd un gweithgaredd yn ymwneud ag ystyried neges e-bost â geiriad gwael, a chreu neges e-bost wahanol yn cyfleu’r un neges mewn ffordd fwy caredig.
 

Cefnogi disgyblion gyda chaffael iaith Ysgol Gyfun Gwent Is Coed

Ysgol Gyfun Gwent Is Coed | Estyn (gov.wales)

Mae Ysgol Gwent Is Coed, sy’n ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg, wedi penodi athro cymorth iaith amser llawn i weithio gyda disgyblion sydd wedi ymuno â’r ysgol trwy raglen drochi iaith. Y bwriad yw i’r athro hwn hefyd gefnogi disgyblion sy’n cael trafferth â chaffael iaith ar draws y cwricwlwm yn dilyn y cyfnod clo.
 

Cefnogaeth i rieni ynghylch trefniadau ar gyfer cymwysterau

Ysgol Maes y Gwendraeth
Er mwyn rhoi gwybod i rieni am y newidiadau i weithdrefnau asesu a chymwysterau 2021, mae Ysgol Maes y Gwendraeth wedi dosbarthu taflen ddwyieithog i holl rieni/gofalwyr disgyblion Blynyddoedd 11, 12 a 13. Mae’r taflenni hyn yn amlygu’r prif negeseuon allweddol ac yn rhoi’r diweddaraf i rieni am eu penderfyniadau ynghylch graddau wedi’u pennu gan ganolfannau, y prosesau sicrhau ansawdd, adolygu graddau a’r broses apelio. Hefyd, mae wedi trefnu gweminar yn Gymraeg a Saesneg i rieni yn rhoi diweddariad ac arweiniad iddynt ar y trefniadau asesu gwahanol ar gyfer TGAU, Safon UG a Safon Uwch yn ystod haf 2021, ac amserlen yr ysgol. Gall rhieni ofyn unrhyw gwestiynau trwy’r cyfleuster sgwrsio.

Arweiniad i ddisgyblion Blwyddyn 11 ar gynllunio ar gyfer y dyfodol

Brynteg Comprehensive School
I gefnogi disgyblion a chynnal eu hymgysylltiad, mae Ysgol Gyfun Brynteg yn cyflwyno’r rhaglen arweiniad a chyngor i ddisgyblion ym Mlwyddyn 11 yn gynnar i edrych ar yr hyn y byddant yn ei wneud ym Mlwyddyn 12. Mae’r ysgol wedi ehangu’r cynnig ac wedi llunio prosbectws newydd i annog disgyblion i barhau i ymgysylltu â’r ysgol ar ôl cyflwyno graddau, ac i’w helpu i deimlo’n fwy hyderus a brwdfrydig am y dyfodol. 

Dysgu proffesiynol ar Cwricwlwm i Gymru

St Cenydd School
Pan ddaeth y cyfnod clo cyntaf i rym, roedd Ysgol Cenydd Sant wrthi’n dechrau ei gweithgareddau dysgu proffesiynol yn seiliedig ar ystyried ei gweledigaeth a’i gwerthoedd yng ngoleuni Cwricwlwm i Gymru. O ganlyniad i’r amgylchiadau, bu’n rhaid i arweinwyr addasu’u cynlluniau ar gyfer dysgu proffesiynol ar Cwricwlwm i Gymru. Mae arweinwyr wedi paratoi cyfres o ddarnau gwyntyllu, neu ‘thunks’, i annog staff ym mhob maes dysgu a phrofiad i gydweithio ar eu maes. Hefyd, maent wedi cynllunio rhaglen dysgu proffesiynol ar agweddau amrywiol ar ddylunio’r cwricwlwm. Mae hyn yn cynnwys darparu erthyglau a deunyddiau darllen, ynghyd â fideos pennau parablu a sesiynau dysgu proffesiynol ar-lein ar y pynciau hyn. Yn ogystal, mae arweinwyr wedi datblygu porth ymchwil weithredol ar y we i staff er mwyn cefnogi dysgu a datblygiad proffesiynol ar gyferCwricwlwm i Gymru ac i hwyluso trafodaethau a rhannu syniadau yn ‘rhithwir’.

Nosweithiau rhieni

Lewis Girls’ School
Ers sawl blwyddyn, bu gan Ysgol Lewis i Ferched bortffolios ar-lein i bob disgybl. Er mwyn i nosweithiau rhieni ganolbwyntio ar gynnydd disgyblion yn hytrach nag ar faterion eraill, mae rhieni’n edrych ar y portffolios hyn gydag athrawon yn ystod nosweithiau rhieni. Mae natur ddigidol yr arfer hon yn golygu bod hyn wedi gweithio’n arbennig o dda yn ystod y pandemig, pan fu’n rhaid i’r ysgol symud ei nosweithiau rhieni ar-lein. 

Lles disgyblion

Crickhowell High School
Er mwyn cefnogi lles disgyblion a staff, cynhaliodd un ysgol uwchradd ddiwrnod lles. Nid oedd yn golygu unrhyw amser o flaen sgrin ac roedd yn gyfle i ddisgyblion a staff gwblhau gweithgareddau allgyrsiol, mynd am dro, ac ati. Mae’n bwriadu cynnal prynhawn lles wythnosol lle na fydd disgyblion a staff yn mewngofnodi. Mae’n gobeithio y bydd hyn yn helpu disgyblion grwpiau blwyddyn arholiad yn benodol, gan eu bod yn bryderus iawn ar hyn o bryd.

Ysgol Gyfun Y Strade
Mae un ysgol uwchradd wedi ychwanegu ‘Botwm Becso’ at ei gwefan. Gall disgyblion ddefnyddio’r botwm hwn unrhyw awr o’r dydd neu’r nos i roi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddynt. Mae’r wybodaeth yn gyfrinachol i staff yr ysgol ac mae’n mynd yn syth at y Pennaeth Cynorthwyol sy’n gyfrifol am les, sydd wedyn yn cysylltu â’r disgybl ac yn penderfynu ar y ffordd orau i’w helpu.


Cathays High School
Mae un ysgol uwchradd yn cynnal arolygon lles rheolaidd. Mae’n neilltuo sgôr lles i bob disgybl ac mae’n monitro hyn yn ofalus. Mae’r ysgol wedi darganfod bod ganddi nifer uwch o ddisgyblion yn y categori disgyblion agored i niwed na chyn y pandemig. Er enghraifft, mae merched uchel eu gallu yng nghyfnod allweddol 4 sy’n pryderu am eu TGAU a’r pandemig wedi’u cynnwys erbyn hyn. Ar ôl amlygu disgyblion agored i niwed ar sail sgorau lles, mae’r ysgol wedyn yn rhoi camau ar waith i liniaru’r problemau lles, fel defnyddio arweinwyr bugeiliol a staff nad ydynt yn staff addysgu i gysylltu â phlant a theuluoedd i drafod pryderon.

Dysgu o bell

Cathays High School

Mae un ysgol uwchradd wedi rhannu’r diwrnod ysgol ar-lein yn dair sesiwn awr a hanner. Bob dydd, mae dwy o’r sesiynau hyn ar gyfer gwersi ac mae un sesiwn yn sesiwn astudio annibynnol ar gyfer cwblhau gwaith ac i ddisgyblion ddefnyddio’r apiau amrywiol y gallant fynd atynt, fel apiau llythrennedd a rhifedd. Hefyd, mae dau wasanaeth ar-lein bob wythnos ac, yn ystod y rhain, caiff disgyblion dasgau i’w cwblhau yn eu sesiynau astudio annibynnol.

Yn ystod y sesiynau ‘gwers’, mae disgyblion yn cwblhau gwaith penodol i bwnc. Mae llawer o athrawon yn ei chael hi’n haws cyflwyno’r rhain ar ffurf sesiynau byw yn hytrach na darparu deunyddiau anghydamserol. Yn ystod sesiynau byw, nid oes disgwyl i athrawon fod yn siarad am y cyfnod cyfan. Rhoddir tasgau i ddisgyblion eu cwblhau ac mae’r athro’n monitro cwblhau’r gwaith ar-lein. Mae’r athro’n gallu gweld gwaith pob disgybl ac ychwanegu sylwadau, gan felly roi adborth ar unwaith. Mae disgwyl i ddisgyblion gwblhau’r rhan fwyaf o’r gwaith gosod yn ystod y sesiwn awr a hanner (er eu bod weithiau’n defnyddio’r sesiwn astudio annibynnol i gwblhau gwaith). Mae disgyblion wedi rhoi gwybod eu bod yn ffafrio hyn gan eu bod yn teimlo bod lefel y gwaith yn eu llethu’n llai ac maen nhw’n cael adborth byw. Mae arweinwyr o’r farn ei fod yn fwy hylaw i athrawon hefyd.

Dywed yr ysgol fod y system hon wedi’i gwneud hi’n haws i’r ysgol fonitro ymgysylltiad gwirioneddol â dysgu, oherwydd os yw disgyblion yn mewngofnodi i wersi, mae disgwyl iddynt hefyd gwblhau gwaith ar yr un pryd. Mae ymgysylltiad â dysgu wedi gwella o ganlyniad i’r system hon. Mae’r ysgol yn cysylltu â’r disgyblion hynny nad ydynt yn ymgysylltu a deuir â nhw i’r ysgol i gwblhau gwaith yn adeilad yr ysgol, gyda chymorth priodol.
 

Cardiff High School
Mae arweinwyr ac athrawon mewn un ysgol uwchradd wedi amlygu agweddau maent yn  annog athrawon i’w cynnwys yn eu darpariaeth dysgu o bell, ac agweddau eraill y dylai athrawon eu hosgoi neu gyfyngu arnynt. Maent wedi darganfod bod staff yn aml yn gorgynllunio sesiynau, ac maent bellach yn ceisio annog athrawon i dorri’n ôl ar gynnwys y gwersi i sicrhau bod dysgu effeithiol yn digwydd. Maent yn annog athrawon i ddefnyddio profion ‘pwysau isel’ (cwisiau, ac ati), fel eu bod yn gwirio ymgysylltiad disgyblion yn rheolaidd. Maent yn pryderu bod gormod o weithgareddau dysgu’n digwydd yn ddigidol ac mae arweinwyr bellach yn annog athrawon i osod tasgau nad ydynt yn ddigidol, fel ysgrifennu mewn cyfnodolyn papur neu ddarllen llyfr ‘go iawn’. Caiff athrawon sgyrsiau rheolaidd am addysgeg ac maent yn dechrau mabwysiadu dull cynnil: gosod gwaith fesul ‘talp’, atgyfnerthu dysgu, a sicrhau nad yw cynnwys yn cael ei addysgu’n rhy gyflym.

Trwy gyfarfodydd a gweithgareddau dysgu proffesiynol, mae staff wedi nodi bod sgiliau cyfathrebu athrawon o’r pwys mwyaf, yn enwedig eu hyfedredd wrth gychwyn a datblygu trafodaeth. Mae athrawon wedi trafod dulliau holi sy’n gweithio’n dda mewn sesiwn gydamserol, a’r defnydd gorau o’r ‘cyfleuster sgwrsio’ i annog ymatebion meddylgar gan ddisgyblion. Maent wedi darganfod bod athrawon weithiau’n gorddefnyddio cymwysiadau. Er bod y rhain yn gallu creu diddordeb, gallant ymyrryd â dysgu hefyd, yn enwedig pan fydd angen agor gwahanol fathau o ffeiliau ar ffôn neu lechen. Mae uwch arweinwyr ac athrawon wedi nodi bod y defnydd effeithiol o gyfleusterau syml, fel defnydd creadigol o’r  cyfleuster ‘dwylo i fyny’, yn fwy effeithiol. Hefyd, mae athrawon wedi darganfod bod angen tywys disgyblion trwy eu dysgu yn fwy systematig nag yn yr ystafell ddosbarth efallai, lle y gall athro gefnogi unigolion yn hawdd neu gall disgyblion sylwi ar awgrymiadau gan eu cymheiriaid. Mae athrawon bellach yn gweithio ar wneud disgwyliadau’n gliriach a chyfeirio disgyblion trwy gydol y dysgu. Hefyd, maent yn edrych ar ddatblygu ymagweddau at grwpiau astudio i gymheiriaid.

Mae disgyblion yn gweithio yn unol ag amserlen sefydlog sy’n adlewyrchu’r amserlen arferol. Mae hon yn cynnwys cyfuniad o wersi byw, gweminarau (pan fydd athrawon yn cyflwyno sesiynau, bydd disgyblion yn treulio’r rhan fwyaf o’r amser yn gweithio’n annibynnol, a daw disgyblion yn ôl ar ddiwedd y sesiwn i drafod eu gwaith) a chyfnodau o hunanastudio. Mae uchafswm o dair sesiwn fyw neu weminar y dydd (er mwyn peidio â gorlwytho o ran amser sgrin), a chydbwysedd o sesiynau byw a sesiynau gweminar dros yr amserlen bythefnos. Caiff pob pwnc ei gynrychioli ar yr amserlen. Nid yw gwersi byw’n para mwy na 40 munud. Mae’r amserlen gaeth yn galluogi teuluoedd i gynllunio’u hamser a chael at ddyfeisiau. Mae’r ysgol yn mynnu bod athrawon yn dilyn yr amserlen am y rheswm hwn. Mae ychydig o ddisgyblion wedi gofyn bod deunyddiau gweminar yn cael eu llwytho cyn y sesiwn, ac mae’r ysgol wedi caniatáu hyn, lle bo’n ymarferol. Mae’r cyfnodau hunanastudio’n caniatáu amser i staff gynllunio.
 

Monitro darpariaeth dysgu o bell ac ymgysylltiad disgyblion

Cardiff High School
Mewn un ysgol uwchradd, mae athrawon yn gwirfoddoli i rannu recordiadau o’u gwersi byw mewn sesiynau dysgu proffesiynol sydd ar agor i’r holl staff. Caiff y gwersi hyn eu dadansoddi i ‘ddatod’ y dysgu a nodi arfer effeithiol.

Cathays High School
Mae un ysgol uwchradd wedi cynnwys pob athro wrth fonitro’r ddarpariaeth. O fewn timau meysydd pwnc, mae athrawon yn edrych ar lyfrau a dysgu ar-lein grwpiau enghreifftiol o ddisgyblion mewn grwpiau blwyddyn gwahanol. Mae hyn yn eu galluogi i gymharu ansawdd y ddarpariaeth. Mae’r uwch dîm arwain yn cymedroli’u canfyddiadau.

Hefyd, mae arweinwyr wedi cyflwyno adolygiadau un i un o ddysgu ar-lein. Mae’r rhain yn cynnwys edrych ar wersi sydd wedi’u recordio mewn timau pwnc. Nid oes unrhyw farn yn cael ei neilltuo i’r wers ac mae’r ffocws ar gael sgwrs hyfforddi.

Dysgu proffesiynol

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Mae gan Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe dîm ymchwil i archwilio dulliau effeithiol o addysgu ac asesu. Mae’r tîm yn cynnwys uwch arweinwyr ac athrawon ac mae’n gyfrifol am ymchwilio i wahanol ddulliau addysgu ac asesu, ac am sicrhau bod pob penderfyniadau am ddysgu ac addysgu wedi’u seilio ar yr ymchwil ddiweddaraf. Ar hyn o bryd, mae gan yr ysgol bedwar prif faes ffocws ar gyfer yr ymchwil hon: gwella medrau llythrennedd disgyblion, esboniadau a modelu, gwirio dealltwriaeth a datblygu medrau dysgu annibynnol. 

Mae’r tîm ymchwil yn nodi ymchwil berthnasol ac yn ymgysylltu â’r holl staff i nodi anghenion hyfforddi. Defnyddir y canfyddiadau hyn i helpu’r ysgol i gynllunio’i dull dysgu proffesiynol. Mae arweinwyr o’r farn bod hyn yn cefnogi staff yn dda. Er enghraifft, mae’r dysgu proffesiynol i ddatblygu holi gan athrawon a thargedu camsyniadau wedi cynorthwyo athrawon i wella’u holi yn ystod gweithgareddau dysgu o bell.
Mae’r tîm ymchwil yn cynhyrchu a rhannu adnoddau gyda’r holl staff, ar sail ei ganfyddiadau. Mae athrawon yn defnyddio’r adnoddau hyn ac wedyn yn rhoi adborth i’r tîm ymchwil ar eu heffeithiolrwydd. Mae hyn yn galluogi’r tîm ymchwil i ddefnyddio adborth i wella adnoddau a datblygu dulliau dysgu ac addysgu.
 

Ysgol Gyfun Gŵyr
Yn ei rôl fel un o ysgolion dysgu proffesiynol Llywodraeth Cymru ac fel ysgol arweiniol ar gyfer dysgu proffesiynol yn rhanbarth ERW, mae Ysgol Gyfun Gŵyr yn defnyddio ymholi proffesiynol i ddatblygu’i chynllunio ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Nod y dull hwn yw datblygu dealltwriaeth staff o egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru a strategaethau ar gyfer ei wreiddio’n llwyddiannus. Yng ngoleuni hyn, penderfynodd arweinwyr neilltuo gwers i’r holl staff, bob pythefnos, fel gwers ymholi. Mae hon yn gyfle i bori erthyglau, casglu data, cyfweld â dysgwyr a llunio strategaethau i gyfoethogi gweithgareddau addysgu, dysgu ac asesu ar gyfer dysgu.

Ysgol Glan y Môr School
Prosiectau ‘Taflu goleuni’ yw dull un ysgol o ysbrydoli a chymell staff i deimlo’n gyfforddus â’r ffordd newydd hon o weithio. Bob wythnos, mae un adran yn rhannu un neu ddau o bethau a ddefnyddiont yn y pythefnos diwethaf ac yn darparu brawddeg am y ffordd y defnyddiwyd nhw, beth aeth yn dda a pha rwystrau y daethant ar eu traws, yn eu barn nhw. Yna, mae’r adran hon yn enwebu adran arall i rannu’i harfer dda yr wythnos ganlynol.

Cyfathrebu â rhieni a chymorth iddynt

Ysgol Dyffryn Aman
Mae gan un ysgol raglen ymglymiad rhieni ar-lein. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar weithio gyda rhieni i nodi cryfderau a bylchau mewn darpariaeth, ac i gynllunio blaenoriaethau gwella a fydd yn helpu rhieni. Er enghraifft, cynhaliwyd gweithdai ar bynciau fel defnyddio Hwb a Google Classroom, cymorth bugeiliol a lles, cymorth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ac agweddau at ddysgu.

Ysgol Glan y Môr School
Penodwyd swyddog cymorth rhieni mewn un ysgol uwchradd. Mae’r swyddog yn delio â materion fel galw heibio â dyfeisiau, delio â rhwystrau TGCh, mynd i’r afael ag unrhyw broblemau a helpu gydag ymholiadau rhieni. Hefyd, mae’r ysgol wedi sefydlu gwefan cymorth i rieni i helpu rhieni ddysgu rhagor am ddysgu cyfunol a’r ffordd mae Google Classroom yn gweithio.

Ferndale Community School
Mae un ysgol uwchradd mewn ardal y mae COVID-19 wedi’i tharo’n arbennig o galed wedi cael cefnogaeth yr awdurdod lleol i benodi Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd. Defnyddiwyd y swyddog i weithio gyda theuluoedd i leihau pryderon, cynnal ymweliadau â’r cartref a rheoli dychwelyd yn raddol i’r ysgol. Yn ogystal, mae’r swyddog yn gyfrifol am oruchwylio dysgu o bell gan y disgyblion hynny y nodwyd (yn yr haf) eu bod wedi’u hallgáu’n ddigidol, ac mae’n monitro’u gallu i gael at galedwedd a’u hymgysylltu â dysgu. 

Athrawon newydd gymhwyso a myfyrwyr addysgu gychwynnol athrawon

Cardiff High School
Er mwyn cefnogi myfyrwyr addysg gychwynnol athrawon, mae un ysgol uwchradd yn cynnal sesiynau lle y mae myfyrwyr, fel grŵp, yn dadansoddi gwers gan fentor a recordiwyd, ac mae’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr gynllunio a recordio gwersi cyfan i’w mentoriaid eu gwylio (yn hytrach na gwersi i ddisgyblion).

Gosod disgwyliadau clir

Ysgol Basaleg, Casnewydd
Darparodd arweinwyr arweiniad manwl ar gyfer staff i ddarparu disgwyliadau a chymorth clir ar gyfer dysgu cyfunol.  

Rhoddodd hyn drosolwg i staff o’r broses cynllunio a dysgu, a gofynnwyd i staff ganolbwyntio ar ddiben, strwythur, sgaffaldiau a myfyrio. Gofynnwyd i staff ddilyn y cylch dysgu hwn wrth gynllunio eu dulliau dysgu cyfunol. Cytunon nhw y bydd yr holl ddysgu o bell cydamserol yn cael ei recordio. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddeunydd a gyflwynir ar sgrin, ac unrhyw sgyrsiau a sylwadau a wnaed yn ystod y wers. 

Darparodd yr ysgol bolisi ymddygiad clir i’w ddilyn er mwyn cynorthwyo staff i reoli dysgu o bell cydamserol, a rhannwyd y disgwyliadau hyn â disgyblion a rhieni. 

Rhoddwyd arweiniad i rieni a disgyblion hefyd

Mabwysiadu dull hyblyg

Ysgol Gyfun Cil-y-Coed, Sir Fynwy
Mae’r ysgol wedi addasu ei dulliau addysgu a dysgu, ac wedi defnyddio ei chylch dysgu i ganolbwyntio’n gliriach ar ddulliau dysgu cyfunol llwyddiannus a pharhau i ddatblygu addysgu yn yr hinsawdd bresennol. Gan ei bod yn ofynnol i athrawon dreulio amser yn nhu blaen y dosbarth wrth addysgu wyneb-yn-wyneb, mae’r ysgol wedi canolbwyntio’n glir ar fodelu, arddangos ac adolygu dysgu. Mae athrawon wedi cael eu grwpio gyda’i gilydd i gynllunio a datblygu adnoddau ar gyfer addysgu wyneb yn wyneb ac addysgu o bell i leihau baich gwaith a hyrwyddo profiad cydradd ar gyfer disgyblion. 

Lluniodd arweinwyr ganllaw buddiol ar gyfer staff, sy’n amlinellu disgwyliadau clir ar gyfer addysgu yn yr ysgol, a phan fydd yn ofynnol i grwpiau ynysu, neu os bydd unrhyw gyfnodau clo yn y dyfodol. Mae’r pennaeth wedi darparu cyfleoedd i staff beilota’r dulliau hyn a thrwy gynnal ymatebion ymarferol i senarios. O ganlyniad, mae’r pennaeth o’r farn fod bron pob un o’r staff wedi eu paratoi’n dda ar gyfer unrhyw addasiadau a allai fod yn angenrheidiol yn y dyfodol.  

Er mwyn parhau â’u ffocws ar wella addysgu, mae arweinwyr wedi datblygu gwefan i rannu arfer effeithiol. Mae arweinwyr addysgu a dysgu yn adolygu ac yn sicrhau ansawdd y gwaith hwn, ac mae staff yn ymateb yn gadarnhaol, ar y cyfan, i’r dull hwn. Mae’r ysgol wedi oedi arsylwadau gwersi ac wedi monitro gwaith disgyblion yn amlach.   

Datblygu arbenigedd digidol sy’n bodoli eisoes

Ysgol Gyfun Bro Edern, Caerdydd
Mae athrawon yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn hyfforddi i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r datblygiadau digidol diweddaraf i gynorthwyo disgyblion i ddefnyddio TGCh. Manteisir ar bob cyfle i ddefnyddio dyfeisiau digidol ar draws gwersi i ddatblygu gwybodaeth disgyblion.

Mae hyder a chymhwysedd digidol staff yn allweddol i sicrhau bod y defnydd o ddyfeisiau digidol yn cael effaith gadarnhaol ar addysgu a dysgu. Mae pob un o’r staff yn wybodus am y datblygiadau digidol diweddaraf, a darparwyd hyfforddiant rheolaidd i arfogi athrawon yr ysgol.

Yn ystod y cyfnod clo, roedd yr ysgol ar flaen y gad o ran sefydlu gweithdrefnau cadarn ar gyfer dysgu o bell. Gwnaethant ddefnydd llawn o adnoddau Google sydd ar gael trwy Hwb. O ganlyniad, mae’r ysgol wedi bod yn destun astudiaeth achos gyda Google yn California, a rhannwyd cyflwyniadau yn Google. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhannu gweithgareddau ar-lein ar ddefnydd effeithiol yr ysgol o’r adnoddau digidol hyn.

Canolbwyntio ar ddisgwyliadau ymarferol

Ysgol Gyfun Gymraeg Gwent Is Coed, Casnewydd
Ers y cyfnod clo, mae’r ysgol wedi mireinio systemau ymhellach i fod yn fwy effeithiol. Mae’r ysgol wedi mabwysiadu dulliau dysgu cyfunol yn llawn, ac mae dysgu byw wyneb yn wyneb yn digwydd yn yr ysgol, gyda thasgau yn y llyfrau a’r holl waith cartref yn cael eu cwblhau yn ddigidol. Er mis Medi, bu mwy o ddigwyddiadau ffrydio byw i ymestyn yr addysgu ymhellach.

Mae’r ysgol o’r farn eu bod wedi derbyn llawer o ddogfennau ar yr ymchwil y tu ôl i ddysgu o bell / dysgu cyfunol. Fodd bynnag, maent o’r farn fod angen crynhoi hyn yn gliriach ac yn fwy ymarferol ar gyfer staff. Yn ychwanegol, nid oedd strwythurau a strategaethau dysgu cyfunol yn bersonol nac yn ymarferol. Mae’r ysgol wedi creu crynodeb 6 tudalen ar ddisgwyliadau ymarferol wedi’u dilyn gan yr addysgeg. Mae’r ysgol wedi cynnal hyfforddiant diweddar hefyd, ac mae staff yn parhau i beilota’r ymarferoldeb ac yn gwerthuso’r ddarpariaeth. Y neges glir yn yr ysgol yw bod safonau uchel o addysgeg yn parhau. 

Mireiniwyd llwyddiannau addysgu a dysgu er mis Medi. Fel rhan o reoli perfformiad, mae gan yr holl staff addysgu un targed cyffredin, sef 'dysgu cyfunol, dysgu digidol, dysgu ar-lein'. Mae’r unigolyn sy’n gyfrifol am reoli perfformiad yr athro penodol yn ymuno â dosbarthiadau dysgu’r athro (ar Google Classroom) ac yn monitro’r ddarpariaeth a gynigir, y dulliau cyflwyno, yr ymgysylltu a’r adborth a roddwyd. Mae hyn yn arwain at ddeialog broffesiynol gyda’r athro ar gryfderau’r addysgeg a’r meysydd i’w gwella, yn ogystal â rhannu unrhyw arfer dda sy’n codi. Er mwyn olrhain ymgysylltiad dysgwyr yn gyflym, disgwylir i bob disgybl gwblhau tocyn ffarwel ar Google Forms yn ateb cwestiynau syml ar ymgysylltu a gwybodaeth i ddarparu adborth uniongyrchol a chyflym, er mwyn gallu addasu a newid y tasgau neu’r dulliau yn gyflym. Wedyn, mae’r pennaeth cynorthwyol yn coladu ac yn rhannu arfer dda ar ddiwedd pob wythnos. Rhennir arfer orau mewn asesu trwy 'Adobe Spark', sef cyfuniad o luniau ac esboniadau, yn hytrach na naratif yn unig.

Esblygu a gwerthuso

Ysgol Uwchradd Cantonian, Caerdydd
Mae’r ysgol wedi cymryd nifer o gamau i ddatblygu dull rhesymegol o gyflwyno dysgu cyfunol sydd wedi cael ei lywio gan werthusiad o’u dulliau trwy’r cyfnod clo cyntaf, ac ymchwil a wnaed gan uwch arweinwyr a staff.

Bu’r ysgol yn gwerthuso effaith gwahanol ddulliau dysgu o bell, yn seiliedig ar ymgysylltu â disgyblion ar sail dreigl. Canfuon nhw mai un o’r dulliau mwyaf llwyddiannus oedd defnyddio ‘heriau pythefnos’ a oedd yn cynnwys rhieni a theuluoedd. Canfuon nhw fod disgyblion, ar y dechrau, wedi eu gorlethu gan waith a bod hyn yn eu dadgymell. Gwnaeth yr ysgol benderfyniadau yn gyflym i newid dulliau os nad oeddent yn gweithio. Trwy ddefnyddio  Teams, fe wnaeth yr ysgol allu monitro lefelau ymgysylltiad disgyblion, edrych ar y math o dasg roeddent yn ymateb orau iddi, a dadansoddi’r wybodaeth hon yn ôl grŵp blwyddyn / grwpiau o ddysgwyr.

I gefnogi dysgu o bell a dysgu cyfunol, mae’r ysgol wedi datblygu llyfrynnau ar gyfer pob pwnc. Mae’r rhain yn crynhoi gwaith a nodweddion / cysyniadau allweddol o bob pwnc. Ar hyn o bryd, mewn gwersi wyneb yn wyneb, mae athrawon yn defnyddio’r llyfrynnau hyn ac yn modelu sut y gellir eu defnyddio gydag adnoddau ar Teams. Bwriad y dull hwn yw helpu disgyblion i fod yn hyderus ynglŷn â sut gallant barhau i fanteisio ar ddeunyddiau dysgu os ydynt allan o’r ysgol am gyfnod, a sut bydd yr athro yn rhyngweithio â nhw yn ddigidol.

Mae’r ysgol yn mynd ati’n rheolaidd i dreialu a samplo gwahanol ddulliau dysgu cyfunol a allai ddarparu strategaethau dysgu gwerthfawr ar gyfer staff a disgyblion pe bai angen iddynt ynysu. Maent yn arbrofi â’r rhain yn y sefyllfa bresennol pan fydd disgyblion yn yr ysgol, er mwyn gallu eu rhoi ar waith yn gyflym pe bai cyfnodau pan na fydd disgyblion yn yr ysgol. Er enghraifft, ceisiodd treial diweddar achub y blaen ar senario o sut beth y gallai dysgu fod pe bai’n rhaid i athro hunanynysu ond bod disgyblion yn yr ysgol.

Fel rhan o ddull yr ysgol i ddatblygu dysgu cyfunol, mae athrawon yn dechrau gofyn i ddisgyblion ymgysylltu gyda gweithgareddau gartref er mwyn eu paratoi ar gyfer dysgu wyneb-yn-wyneb yn yr ysgol

Diwrnodau agored rhithwir

Cynhaliodd un ysgol uwchradd raglen o ddiwrnodau agored rhithwir ar gyfer ei disgyblion Blwyddyn 11. Bob diwrnod, roedd gwahanol bwnc ar gael i ddisgyblion yn y chweched dosbarth. Yn dilyn hyn, cynhaliodd yr ysgol amserlen o dasgau ymchwil a darllen wedi’u dilyn gan seminarau byw gydag athrawon y chweched dosbarth yn seiliedig ar ddewis opsiynau. Cafodd hyn groeso gwresog, a bu 85% o ddisgyblion Blwyddyn 11 yn cymryd rhan.