Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Cefnogi lles a dysgu yn ystod COVID-19 – dulliau o ysgolion cynradd

Diweddarwyd y dudalen hon ar 11/07/2022

Rydym yn rhannu cipolygon ar sut mae ysgolion ac UCDau yn cefnogi eu disgyblion a’u cymunedau wrth ymateb i’r amgylchiadau anodd o ganlyniad i COVID-19.

Ysgrifennwyd y dulliau hyn ar ôl galwad ffôn ymgysylltu ac mae’n adlewyrchu’r sefyllfa ar y pryd.

Efallai y gall ysgolion ac UCDau addasu’r rhain ar gyfer eu cyd-destun eu hunain.

Mae’r ysgolion cynradd hyn wedi rhannu eu cipolygon a gafwyd tra’n cefnogi eu disgyblion i barhau â dysgu. Mae’r rhain yn amrywio o weithgareddau dysgu cyfunol, cyflwyno dull ysgol gyfan yn seiliedig ar themâu, trefnu podiau dysgu ar-lein a dathlu cyflawniadau yn rhithwir.

Darparu adborth mewn amser real

Ysgol fach wledig yn sir Conwy yw Ysgol Llanefydd. Yn ystod yr ail gyfnod clo cenedlaethol, dilynodd plant gweithwyr allweddol, a oedd yn mynychu ysgol, a disgyblion a oedd yn dysgu gartref, yr un amserlen strwythuredig. Defnyddiodd yr ysgol blatfform fideo gynadledda ar gyfer sesiynau dal i fyny anffurfiol gyda phlant ddwywaith yr wythnos. Yn ystod gwersi eraill, ymatebodd staff i’r tasgau a ryddhawyd mewn dogfennau a rannwyd ar-lein ar adegau penodol yn ystod y dydd, yn unol â’r gwersi amserlenedig. Er enghraifft, ar ôl dysgu am Neil Armstrong, creodd disgyblion hysbyseb swydd ar gyfer swydd gofodwr. Dilynodd yr athro gynnydd disgyblion mewn amser real ar ei sgrin, gan fynd yn ôl ac ymlaen rhwng gwaith pob disgybl, ac awgrymodd welliannau i’w gwaith wrth iddynt fynd yn eu blaenau.  

Addysgeg ffrydio byw

Yn Ysgol Waunfawr, Gwynedd, ymgysylltodd bron pob un o’r disgyblion yng nghyfnod allweddol 2 yn dda â thasgau dysgu o bell. Roedd hyn yn cynnwys tair sesiwn fyw bob wythnos ar gyfer pob dosbarth. Wrth ymateb i holiadur, roedd rhieni’n hynod ddiolchgar i allu gweld yr athro yn modelu sut i ymdrin â thasgau. Er enghraifft, defnyddiodd athrawes fwrdd gwyn rhithwir wedi’i rannu ar ei sgrin i esbonio cysyniadau arwynebedd a pherimedr. Tynnodd luniau siapiau ar gefndir siâp sgwâr mewn amser real, a dangosodd i’r disgyblion sut i ddod o hyd i swm y perimedr, gan amlygu pob ochr wrth iddi fynd yn ei blaen. Wedyn, gallai disgyblion wylio’r athrawes yn lliwio’r blychau i ddarganfod arwynebedd y siâp. Wedyn, gofynnodd i’r disgyblion ddarganfod arwynebedd a pherimedr siapiau eraill a ddarparwyd mewn dogfen wedi’i rhannu.

Diwallu anghenion pob un o’r disgyblion wrth ddysgu o gartref

Yn Ysgol Plascrug, Aberystwyth, ymatebodd bron pob un o’r disgyblion yn dda i dasgau a osodwyd ar-lein. Roedd athrawon o’r farn fod cyflwyno sesiynau ffrydio byw yn cyfrannu’n dda at ymgysylltu â disgyblion sy’n hoffi dysgu’n weledol. 


Yn y cyfnod sylfaen, gwahoddwyd disgyblion i fynychu sesiynau grŵp bach ar-lein bob dydd. O Flwyddyn 2 i fyny at Flwyddyn 6, roedd sesiwn dosbarth cyfan ddyddiol hefyd cyn rhannu’r disgyblion yn grwpiau llai. Roedd y grwpiau hyn wedi’u seilio ar anghenion disgyblion er mwyn iddynt allu trafod gwaith wedi’i osod ar lefel yn addas i’w hanghenion. Roedd y pennaeth o’r farn fod hyn yn helpu cynnal ymgysylltiad disgyblion. Postiodd athrawon fideos ar-lein ohonyn nhw eu hunain yn cyflwyno tasgau hefyd. Ar draws yr ysgol, cafodd disgyblion ddwy dasg y dydd, yn ogystal â darpariaeth barhaus a deunyddiau cymorth.

Arweiniodd y pennaeth wasanaeth ar-lein bob wythnos i gynnal ethos yr ysgol. Hefyd, cynhaliodd yr ysgol sesiwn ‘galw i mewn’ dechnolegol ar y we ar gyfer rhieni i helpu â defnyddio Teams. Cynigiodd yr ysgol sesiwn debyg yn benodol ar gyfer teuluoedd ffoaduriaid a gynhaliwyd mewn Arabeg. 
 

Cynyddu ymgysylltiad â dysgu o bell

Datblygodd arweinwyr yn Ysgol Gynradd Hywel Dda yng Nghaerdydd ffordd gynhwysfawr ond syml o ddadansoddi pa mor dda y mae eu disgyblion yn ymgysylltu â’r dysgu ar-lein a ddarperir gan yr ysgol. Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, fe wnaethant nodi pwy a gymerodd ran mewn dysgu ar-lein, a phwy na chymerodd ran ynddo, ond ni roddodd hyn wybodaeth ddigon defnyddiol i athrawon dargedu cymorth ar gyfer y rhai y gallai fod angen ychydig o ymyrraeth ychwanegol arnynt. Yn ystod y cyfnod roedd yr ysgol ar gau am yr eilwaith, mireiniodd arweinwyr y system i ystyried canran y tasgau a gwblhawyd, gan amlygu pum lefel ymgysylltu, o’r rhai nad ymgysylltodd o gwbl i’r rhai a gwblhaodd dros 80% o dasgau. Hefyd, fe wnaeth y system olrhain y disgyblion hynny a oedd dim ond yn cwblhau tasgau dysgu pan oeddent yn mynychu darpariaeth hyb yr ysgol. Galluogodd y wybodaeth fanylach hon yr ysgol i nodi a blaenoriaethu’r disgyblion a’r teuluoedd oedd angen y mwyaf o gymorth i ymgymryd â dysgu gartref. 

Mathemateg a rhifedd yn yr awyr agored

Yn ystod y pandemig, parhaodd staff yn Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston yn Sir Benfro i baratoi ar gyfer gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi 2022. Defnyddiodd yr ysgol yr amser i werthuso sut roedd y 4 diben yn gydnaws â’u hymagwedd at addysgu mathemateg a datblygu medrau rhifedd. Fe wnaethant nodi ffyrdd o ymestyn eu defnydd o ofod awyr agored i gynnig profiadau dysgu dilys, gwneud dysgu’n gyffrous a’u herio eu hunain o ran sut i gyflwyno rhai cysyniadau. Y nod oedd cynllunio mwy o gyfleoedd i ddisgyblion greu, archwilio a thrafod syniadau mewn cyd-destunau a oedd yn cynnwys problemau bywyd go iawn. Gweithion nhw gyda Pharc Cenedlaethol i ddatblygu safle gerllaw’r ysgol. Fe wnaethant greu ardaloedd ar gyfer tyfu llysiau, cylch pwll tân, adeiladu pont dros nant a chreu perllan. Darparodd hyn lawer o weithgareddau rhifedd cyfoethog. Er enghraifft, gweithiodd disgyblion mewn grwpiau i dorri pilen ffabrig i atal glaswellt rhag mygu’r coed afalau newydd a blannwyd, gan ystyried y radiws gofynnol a chyfrifo’r cylchedd.  

Teuluoedd yn helpu i ddylanwadu ar gynllunio athrawon

Yn Ysgol Foel Gron yng Ngwynedd, roedd staff y cyfnod sylfaen eisiau gwneud eu darpariaeth ar-lein mor effeithiol a llwyddiannus i gynifer o ddisgyblion ag y bo modd. Anfonodd y staff arolwg at rieni yn gofyn iddynt am yr adnoddau oedd ganddynt gartref i helpu eu plant. Defnyddiodd athrawon ganfyddiadau’r arolwg i archwilio pa adnoddau ymarferol oedd gan deuluoedd gartref, er enghraifft paent, pensiliau lliwio, papur, blociau adeiladu, glud ac adnoddau eraill. Defnyddiodd athrawon y wybodaeth hon i addasu’r tasgau yn unol â hynny. Mae’r ysgol yn hapus iawn â lefel yr ymgysylltu. Er enghraifft, gwnaeth bron pob disgybl ‘galonnau’ o flociau adeiladu tegan yn ystod gweithgaredd gwyddoniaeth a thechnoleg. Hefyd, holodd staff y rhieni am eu dyfeisiau electronig i weld sut orau i osod gwaith ar gyfer y dosbarth. Darparodd yr ysgol gyfrifiaduron ar gyfer y rhai a oedd yn ei chael yn anodd cael mynediad at y rhyngrwyd, ac anfonodd becynnau papur at y rhai heb beiriannau argraffu.  

Mae ‘Celf ar ddydd Gwener’ (‘Art Friday Focus’) yn annog allbwn creadigol yn ystod y cyfnod clo

Datblygodd Ysgol Gynradd Sirol Bigyn, Sir Gaerfyrddin, sesiynau ‘Art Friday Focus’ fel rhan o’i chynnig dysgu o bell. Galluogodd hyn y disgyblion i barhau i gyfrannu at brosiect rhyngwladol roeddent wedi dechrau gweithio arno yn y dosbarth, a oedd yn cynnwys disgyblion mewn sawl gwlad arall. Cynhaliodd y pennaeth y sesiynau hyn, a oedd yn canolbwyntio ar drafod gwaith arlunydd enwog mewn amgylchedd hamddenol. Rhoddodd y pennaeth enghreifftiau o waith gan yr arlunwyr i’r disgyblion, ac yn ystod y sesiynau ar ddydd Gwener, roedd disgyblion yn rhannu ac yn trafod yr hyn roeddent wedi’i greu. Llwythodd llawer o rieni enghreifftiau o’r gwaith ar dudalen cyfryngau cymdeithasol yr ysgol, a oedd yn annog ymgysylltu ac yn cyfrannu at greu ymdeimlad o gymuned. Hefyd, galluogodd y sesiwn hon i’r athrawon gymryd amser cynllunio, paratoi ac asesu gwerthfawr yn ystod y cyfnod clo. 

Mapio darpariaeth dysgu o bell ysgol gyfan

O’r cyfnod clo cyntaf, cydnabu arweinwyr a staff yn Ysgol Gynradd Ynyshir yn Rhondda Cynon Taf y byddai darparu fideos tiwtorial ar gyfer disgyblion a rhieni, recordio gwersi a darparu gwersi byw yn helpu â datblygu medrau a dealltwriaeth dysgwyr, yn enwedig ar gyfer y cysyniadau hynny y mae’n anodd i rieni eu hesbonio. O fis Ionawr, mapiodd arweinwyr ddarpariaeth dysgu o bell ar ‘gynllunydd gwersi byw a fideo’ ysgol gyfan wythnosol. Rhoddodd hyn fanylion ynghylch pryd roedd gwersi byw yn cael eu cynnal ar gyfer dosbarthiadau unigol, a phryd roedd sesiynau lles ‘ailgydio’ byw gyda disgyblion wedi eu trefnu. Cawsant eu mapio fel nad oedd unrhyw ddau athro na dosbarth ar-lein ar yr un pryd. Helpodd hyn i leihau’r heriau i deuluoedd. Roedd protocolau cytûn ar waith ar gyfer disgyblion a’u rhieni wrth ymgysylltu â dysgu ar-lein. 

Datblygu medrau darllen yn ystod y cyfnod clo

Sefydlwyd rhaglen yn Ysgol Gymunedol Doc Penfro yn Sir Benfro i gynorthwyo disgyblion â darllen, gan ei bod eisiau osgoi disgyblion yn llithro’n ôl tra oedd yr ysgol ar agor i blant gweithwyr allweddol a phlant sy’n agored i niwed yn unig. Symudodd grŵp o staff cymorth fel ‘Llysgenhadon Darllen’ i gynnal y rhaglen gyda thua 200 o ddisgyblion. Dewiswyd y disgyblion hyn gan nad oeddent yn ymgysylltu’n llawn â dysgu gartref nac yn darllen yn rheolaidd gartref. Cafodd pob plentyn slot awr bob wythnos i ddod i’r ysgol i weithio gyda chynorthwyydd addysgu mewn amgylchedd diogel. Trwy’r rhaglen hon, roedd pob un o’r disgyblion yn gallu cael benthyg llyfrau darllen yr ysgol a rhoddwyd cymorth i rieni a disgyblion fynd at ddeunydd darllen ar-lein. Rhoddwyd cinio a brecwast i lawer o’r disgyblion hefyd pan ddaethant i’r ysgol. Pan oedd yn briodol, darparodd yr ysgol becyn brecwast hefyd i’r plant fynd adref gyda nhw ar gyfer y diwrnod canlynol. 

Cefnogi dysgu disgyblion cyfrwng Cymraeg gartref

Roedd Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd, Caerdydd, yn gwneud defnydd helaeth o ffrydio byw a chlipiau fideo i rannu arweiniad a chyfarwyddiadau gyda disgyblion. Roedd athrawon yn rhydd i addasu sut a phryd i gynnal y sesiynau hyn, gan amrywio’r dull yn dibynnu ar gyd-destun y dosbarth a’r dasg. Dechreuodd rhai athrawon gynnal sesiynau byw gyda grŵp dosbarth cyfan, cyn parhau i weithio gyda grwpiau bach, yn cefnogi eu dysgu. Roedd athrawon eraill, yn aml yn y cyfnod sylfaen, yn tueddu i ddechrau gyda grwpiau bach, ac wedyn yn dod â’r disgyblion at ei gilydd ar gyfer sesiwn ddosbarth. Roedd hyn yn gyfle defnyddiol i adolygu’r dysgu, ac yn rhoi cyfle i ddisgyblion siarad â’u ffrindiau. Recordiodd staff gyfarwyddiadau yn ddwyieithog hefyd, a rhannu’r rhain gyda’r disgyblion mewn clipiau fideo. Galluogodd hyn i rieni di-Gymraeg gefnogi dysgu eu plentyn gartref. I sicrhau nad oedd disgyblion yn cael eu hynysu’n llwyr oddi wrth eu ffrindiau, trefnodd staff sesiynau rhithwir rheolaidd iddynt sgwrsio gyda’i gilydd yn anffurfiol neu weithio gyda’i gilydd ar dasgau penodol, fel creu cyflwyniadau ar thema benodol. 

Cynllunio ar gyfer cynyddu niferoedd disgyblion

Dywedodd un pennaeth, pan ddaw’r amser i gynyddu nifer y disgyblion sy’n mynychu ysgol, y bydd arweinwyr yn ceisio cynyddu capasiti yn ddiogel, trwy:

  • ddefnyddio ystafelloedd dosbarth nad ydynt yn cael eu defnyddio fel ystafelloedd sylfaen ar gyfer grwpiau blwyddyn ar hyn o bryd

  • parhau i drefnu amseroedd dechrau, amseroedd gorffen, amseroedd cinio ac amseroedd egwyl ysgol am yn ail i sicrhau nad yw disgyblion yn ymgasglu mewn grwpiau yn ddiangen

Mae’r pennaeth hwn yn cydnabod ei bod yn debygol y bydd dychwelyd i gapasiti llawn yn golygu lleihau canllawiau cadw pellter cymdeithasol.

Mae ysgol arall yn cynllunio i addasu neuadd yr ysgol pan fydd yr holl ddisgyblion yn dychwelyd ym mis Medi, yn ogystal â defnyddio gofodau addysgu nad ydynt yn cael eu defnyddio. Mae’n gosod llenni yn y neuadd, i’w rhannu. Mae hyn yn golygu, hyd yn oed wrth lacio mesurau pellter cymdeithasol, y bydd gan ddisgyblion fwy o le, a bydd modd creu grwpiau addysgu llai.

Mae trydedd ysgol yn cynllunio dull am yn ail ar gyfer cynyddu niferoedd disgyblion yn ystod pythefnos cyntaf mis Medi. Er enghraifft, mae’n bwriadu adeiladu yn radddol nifer y diwrnodau y mae disgyblion meithrin a derbyn yn mynychu. Yn ychwanegol, mae’n bwriadu gwahodd holl ddisgyblion Blwyddyn 2 a Blwyddyn 6 i mewn fel carfanau llawn yn y lle cyntaf. Erbyn diwedd yr ail wythnos, mae’r pennaeth yn disgwyl i’r ysgol weithredu ar sail capasiti llawn, ac edrych fel yr oedd cyn cyfnod addasu’r ysgol. Er gwaethaf hyn, bydd yn parhau i gyfyngu ar gymysgu rhwng grwpiau, a bydd staff yn parhau i gadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol.

Delio ag achos o COVID-19

Disgrifiodd un pennaeth y modd y llwyddodd yr ysgol i gau un swigen i lawr yn dilyn achos o COVID-19 yn yr ysgol. Dilynodd ganllawiau Llywodraeth Cymru a’i gweithdrefnau ei hun a gynlluniwyd ymlaen llaw i sicrhau bod disgyblion o deuluoedd lle canfuwyd bod achosion o COVID-19 yn ynysu ac yn dychwelyd adref. Galluogodd hyn y disgyblion eraill i barhau â’u dysgu.

Grwpiau bach, perthnasoedd dyfnach

Trwy ddefnyddio ‘swigod’ bach ar gyfer addysgu, mae gan staff fwy o gyfle i wrando ar bob disgybl. Mae athrawon yn teimlo eu bod yn adnabod eu disgyblion yn well, a gall disgyblion rannu eu storïau gyda staff gan fod mwy o amser i siarad. Mae hyn wedi newid y ffordd y mae’r ysgol yn meddwl am ei hymagwedd at addysgu. Yn ystod y pedair wythnos gyntaf yn ôl ym mis Medi, bydd pob dosbarth yn cael hanner awr neilltuedig o amser siarad, gyda phob athro yn canolbwyntio ar grŵp bach o chwech neu saith o ddisgyblion. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd cynorthwywyr addysgu yn cyflwyno’r hyn y mae’r athro wedi’i gynllunio, i weddill y dosbarth.

Symud ymlaen gyda’r Cwricwlwm i Gymru

Mae llawer o ysgolion yn awyddus i barhau â’u paratoadau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, er gwaethaf rhwystrau diweddar. Mae arweinwyr mewn un ysgol wedi cynllunio dau ddiwrnod hyfforddiant mewn swydd ar gyfer dechrau’r tymor lle bydd staff yn cwblhau cynllunio ar y cyd, yn seiliedig ar egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru. Un ffocws fydd arweinydd y cwricwlwm yn gweithio gydag athrawon cyfnod allweddol 2 i wneud defnydd ehangach o fethodolegau’r cyfnod sylfaen ym Mlynyddoedd 3 i 6. Mae’r ysgol wedi penderfynu rhoi’r gorau i roi disgyblion mewn setiau yn ôl eu gallu ar gyfer llythrennedd a rhifedd o fis Medi. Yn hytrach, bydd yn rhoi’r holl ddisgyblion mewn grwpiau gallu cymysg, dosbarth cyfan sy’n canolbwyntio’n well ar ddarparu profiadau mwy cyfannol ac integredig ar eu cyfer. 

Cyfyngu ar effaith cyfnodau clo yn y dyfodol

Mae un ysgol mewn ardal sydd dan anfantais yn gymdeithasol yn cydnabod bod ymgysylltu â rhieni yn allweddol i lwyddiant dysgu cyfunol. Mae staff wedi gwahodd rhieni i ddysgu ochr yn ochr â’u plentyn. Mae hyn yn eu hannog i gynorthwyo eu plentyn gartref. Mae staff yn treulio amser gyda disgyblion i sicrhau eu bod yn hyderus yn defnyddio platfformau dysgu digidol mor annibynnol ag y bo modd, gan mai’r weledigaeth yw bod disgyblion yn gallu symud trwy gamau dysgu cyfunol yn ddi-dor, pe bai’r angen yn codi.

Mewn ysgol arall, mae disgyblion wedi defnyddio platfformau digidol ac apiau eraill yn llwyddiannus trwy Hwb. Mae dysgu cyfunol rhwng yr ystafell ddosbarth a’r cartref bellach yn ddi-dor. Yn ystod amser addysgu wyneb yn wyneb, mae staff yn cyflwyno ac yn esbonio gwaith cartref, a oedd wedi cael ei ddosbarthu’n flaenorol ar ddalen wedi’i llungopïo, a bydd yn awr yn trosglwyddo i blatfformau ar-lein.

I gryfhau’r dull hwn a lleihau’r effaith ar y rhai sy’n llai hyderus yn eu medrau digidol, mae’r pennaeth wedi cynllunio digwyddiadau hyfforddi ar gyfer rhieni. Yn ystod y digwyddiadau hyn, mae rhieni’n mewngofnodi ar blatfformau cymdeithasol ac yn cael teithiau o’r apiau a’r cyfleusterau, gan gynnwys amddiffyniadau pwysig y bydd eu plant yn eu defnyddio. Bydd hyn yn helpu’r ysgol os bydd mwy o gyfnodau clo. 

Adborth rhieni

Mae rhieni wedi parchu gweithdrefnau gollwng a chasglu ffurfiol, bob yn ail yr ysgol ac mae popeth wedi mynd yn esmwyth. Mae rhieni’n hoffi’r arferion, y trefniadau trosglwyddo trefnus a phresenoldeb gweladwy’r staff, er bod hynny o bellter addas. Mae’r ysgol yn hyderus i barhau â’r systemau hyn ar gyfer mis Medi gan ei bod yn ymddangos bod yr holl rieni yn eu deall, ac maent yn gweithio’n llwyddiannus.

Rheoli disgwyliadau

Mae arweinwyr a staff mewn un ysgol gynradd yn gweithio gyda’i gilydd i ddyfeisio model dysgu cyfunol ar gyfer mis Medi. Bydd cynllunio ar gyfer dysgu bob wythnos yn cael eu seilio ar osod ‘disgwyliadau ar gyfer yr athro’, ‘disgwyliadau ar gyfer y plentyn’ a ‘disgwyliadau ar gyfer y rhiant’. Mae’r pennaeth yn teimlo ei bod yn hanfodol bod yn onest â rhieni am yr hyn y bydd yr ysgol yn ei ddisgwyl ganddynt, a sicrhau ‘cytundeb’ ar gyfer hyn yn ystod y cam paratoadol hwn. Nid eu bwriad yw gostwng eu disgwyliadau o’r hyn y gall plant ei gyflawni yn eu dysgu. Byddant yn ‘disgwyl yr hyn rydym yn arfer ei wneud, ond gyda llawer o les yn gysylltiedig â’r disgwyliadau hyn’. Mae arweinwyr yn meddwl y gallant lwyddo i ddarparu’r cwricwlwm cyfan, ond byddant yn adolygu hyn dros gyfnod. Maent yn teimlo, gyda llai o ddisgyblion mewn dosbarth ar unrhyw adeg benodol, y bydd athrawon yn gallu ymdrin â llawer o destunau gyda grwpiau bach a dulliau dysgu unigoledig. Bydd yr wythnos y mae disgyblion gartref yn gyfle iddynt atgyfnerthu ac ymestyn y dysgu hwn.

Annog ymgysylltu â dysgu o bell

Mae adnabod eich disgyblion, eu teuluoedd a’r cymunedau yn dda wedi bod yn allweddol i ymgysylltu’n effeithiol â dysgu o bell. Er enghraifft, mae un ysgol gynradd yn darparu cymorth trwy fideo gynadledda ar gyfer ychydig o ddisgyblion y mae angen cymorth ychwanegol arnynt. Mae’r pennaeth wedi dosbarthu llyfrau i gartrefi lle mae hi’n amau bod ganddynt ychydig iawn o lyfrau. Mae’r ysgol wedi buddsoddi mewn offer a dulliau ar-lein sy’n eu galluogi i olrhain a monitro’r amser y mae disgyblion yn ei dreulio yn eu defnyddio. Mae’r un ysgol yn cynnal cystadlaethau hwyliog ac yn darparu llawer o weithgareddau ymarferol i gynorthwyo rhieni. Yn dilyn ceisiadau gan rieni, mae’n cynnal gweithgareddau amserlenedig ar gyfer y diwrnod. Er nad oes rhaid i ddisgyblion eu gwneud ar adeg benodol, mae rhieni’n hoffi’r math hwn o gymorth gan ei fod yn helpu darparu ffocws a rhai paramedrau i weithio oddi mewn iddynt. Mae disgyblion yn cadw siart o’r gweithgareddau y maent wedi’u cwblhau ar HWB. Er enghraifft, os ydyn nhw wedi gwneud 30 munud o ymarfer corff ar ryw blatfform, maent yn ei nodi i’w rannu â’u hathrawon.

Cefnogi addysg cyfrwng Cymraeg

Mewn llawer o ysgolion cyfrwng Cymraeg, daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gartrefi
di-Gymraeg. Mae’r staff mewn un ysgol gynradd o’r fath wedi ceisio goresgyn hyn trwy ddarparu gweithgareddau dysgu ar gyfer disgyblion sy’n eu hannog i ddefnyddio eu Cymraeg mor naturiol ag y bo modd. Mae’r ffocws ar ddarllen, deall, ac yn bwysicaf, siarad Cymraeg. Mae cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu cyflwyniadau a chreu eu fersiynau eu hunain o ganeuon a rhigymau Cymraeg wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae disgyblion yn rhannu eu gwaith â’u hathrawon, sydd wedyn yn darparu adborth yn canolbwyntio ar yr elfennau cadarnhaol, ac mae hyn wedi annog nifer gymharol uchel o ddisgyblion i gymryd rhan.

Defnyddio apiau darllen

Gall disgyblion mewn un ysgol gynradd fanteisio ar ap y mae’r ysgol yn tanysgrifio iddo, sy’n galluogi disgyblion i ddarllen llyfrau a chwblhau cwisiau ar lyfrau y maent wedi eu darllen. Mae hyn yn golygu y gall athrawon fonitro’r hyn y mae disgyblion yn ei ddarllen i raddau, a chael rhyw syniad o’u dealltwriaeth a’u cynnydd â’u darllen.

Annog dysgu o bell

Mae un ysgol gynradd wedi llwyddo i annog y rhan fwyaf o’i disgyblion i ymgysylltu â dysgu i ryw raddau, naill ai ar-lein neu drwy gael pecynnau gwaith papur. Yn fuan wedi i’r ysgolion gau, rhoddodd yr ysgol fenthyg 60 o liniaduron i deuluoedd nad oedd ganddynt offer addas i ymgymryd â dysgu ar-lein. Hefyd, aeth y staff ati i drefnu desg gymorth dechnegol, a rhoi staff i weithio yno, i gynorthwyo rhieni i helpu eu plant i fynd at ddysgu ar-lein ar blatfformau amrywiol. Mae’r pennaeth yn dadansoddi lefelau ymgysylltu â disgyblion, ac mae staff yn gweithio i gyrraedd teuluoedd lle mae lefelau ymgysylltu yn isel, yn enwedig trwy gynorthwyo rhieni sy’n ei chael yn anodd neu’n teimlo’n bryderus.

Cynllunio dysgu cyfunol

Mae pennaeth un ysgol gynradd wedi llunio cynllun adfer drafft cynhwysfawr iawn sy’n amlinellu’n glir yr holl agweddau ar sut bydd yr ysgol yn esblygu tuag at ddull newydd o ran dysgu cyfunol. Mae’n cynnwys agweddau logistaidd a threfniadau’r cwricwlwm, ac yn amlinellu cyfrifoldebau pob aelod staff, gan gynnwys sut byddant yn cefnogi dysgu yn y cartref, er enghraifft "pan rwyf ar y safle, beth fyddaf i’n ei wneud?". Mae’n cynnwys yr hyn y gall staff ei ddisgwyl gan arweinwyr i’w cefnogi yn eu gwaith a’u lles. Y cam nesaf fydd datblygu strategaeth gyfathrebu ar gyfer rhieni. Mae cynlluniau presennol yr ysgol ar gyfer mis Medi yn cynnwys rhannu dosbarthiadau’n grwpiau o wyth gydag adnoddau dysgu yn y cartref wedi eu cynllunio ar sail y medrau a ffocws eu diwrnodau yn yr ysgol. Mae cynorthwywyr addysgu ac athrawon sy’n gwarchod eu hunain wedi cael eu dyrannu i gefnogi’r dysgu hwn yn y cartref. Mae’r ysgol yn cynllunio’i chwricwlwm adfer gan ddefnyddio meysydd dysgu a phrofiad. Bydd athrawon yn canolbwyntio ar les, ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, mathemateg a rhifedd a TGCh, gyda phocedi o ddysgu a phrofiad cyd-destunol yn seiliedig ar y meysydd dysgu eraill. Bwriad y dull yw sicrhau bod athrawon yn blaenoriaethu datblygu gwybodaeth a medrau sydd eu hangen ar blant i fod yn wydn a pherfformio’n dda yn y dyfodol, yn hytrach nag ymdriniaeth.

Ffocws ysgol gyfan

Cydnabu un ysgol gynradd fod rhieni â phlant o wahanol oedrannau yn ei chael yn heriol delio â thestunau amrywiol ar yr un pryd. I geisio goresgyn hyn, mae’r ysgol gyfan yn canolbwyntio ar un thema’r tymor hwn, gyda gweithgareddau y gellir eu gwahaniaethu ar gyfer oedran a gallu’r disgyblion. Bonws ychwanegol hyn yw ei fod yn annog cydweithio rhwng athrawon, a allai arwain at werthfawrogi dilyniant ar gyfer disgyblion yn well.

Podiau dysgu ar-lein

Mae un ysgol gynradd wedi datblygu ei dysgu ar-lein yn sylweddol.  Mae’r ysgol wedi’i threfnu yn bedwar pod dysgu. Gall disgyblion ym mhob pod fynd at gyfres o ddeunydd dysgu cynlluniedig a rennir ar wefan yr ysgol.  Mae athrawon yn lansio’r gweithgareddau a awgrymir ar gyfer yr wythnos ar ddydd Llun, fel arfer gyda fideo. Gwnaeth y pennaeth arolwg o feddyliau rhieni ac ymateb i’w barn fod y plant eisiau gweld mwy o’u hathrawon, trwy ddatblygu lansiadau fideo ar gyfer gweithgareddau pob wythnos, a thrwy newid o set o dasgau yr oedd yn rhaid eu cwblhau i weithgareddau awgrymedig. Mae’n syml mynd at wefan yr ysgol a’r gweithgareddau dysgu, felly mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymgymryd â dysgu gartref. Caiff y plant eu haddysgu yn eu podiau. Mae’r ysgol wedi darparu gliniaduron ar gyfer yr ychydig iawn o ddisgyblion o deuluoedd difreintiedig i sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan mewn dysgu ar-lein.

Dathlu cyflawniad yn rhithwir

Mae rhieni a phlant un ysgol gynradd yn gwerthfawrogi’r ffaith fod y pennaeth yn cynnal gwasanaeth dathlu rhithwir bob wythnos ar gyfer disgyblion. Mae’n rhan gyfarwydd o wythnos y disgyblion yn yr ysgol ers cyn y cyfnod clo, ac yn helpu cynnal rhyw fath o gysylltiad â bywyd cyn y cyfnod clo. Wedyn, mae’r pennaeth yn cyflwyno gwobr y dystysgrif a phensil i ddisgyblion yn bersonol.