Athrawon yn cydweithio â’i gilydd i sicrhau bod strategaethau’n datblygu medrau craidd disgyblion

Argraffu’r dudalen hon
teacher and children

Mae gan Ysgol Abercaseg safonau cyson uchel o ganlyniad i weithgareddau hunanarfarnu parhaus. Mae’r ysgol wedi datblygu strategaethau cryf i gynorthwyo ei dysgwyr, ac mae athrawon wedi cydweithio â’i gilydd er mwyn gwneud yn siŵr fod llesiant a lles dysgwyr yn flaenoriaeth. Mae hyn wedi arwain at safonau uchel, datblygu medrau craidd dysgwyr ac, yn benodol, rhifedd.


Nifer y dysgwyr:  114
Ystod oedran: 3-7 oed
Dyddiad arolygiad: Chwefror 2018

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol yn cael ei chydnabod fel ysgol cyfnod sylfaen sydd a’i gweithdrefnau wedi ei seilio’n gadarn ar athroniaeth ac egwyddorion y cyfnod hwnnw.  Mae’r safonau yn gyson uchel ac yn benodol y nifer o ddisgyblion sy’n cyrraedd y deilliant uwch (deilliant 6).  Rhoddir blaenoriaeth gref i les a llesiant pob dysgwr.

Cychwyn y broses oedd canlyniad gweithgareddau hunanarfarnu yn nodi’r angen i ddatblygu tasgau heriol yn yr ardaloedd tu allan ac ymgorffori medrau trawsgwricwlaidd yn yr ardaloedd darpariaeth barhaus.  Bu hyn yn flaenoriaeth yn y cynllun datblygu ysgol ers blynyddoedd.

Bellach, mae’r amgylchedd ffisegol y tu mewn a thu allan i’r dosbarthiadau wedi eu cynllunio yn bwrpasol.  Mae hyn yn rhoi cyfleoedd cyfoethog i ddysgu gweithredol a thrwy brofiad mewn ardaloedd sydd yn hybu gweithio’n annibynnol. 

Anelir i ddarparu lefel her yr un mor uchel â’r tasgau ffocws.  Rhoddir yr un sylw manwl i gynllunio tasgau heriol yn y ddarpariaeth barhaus gyda’r ffocws ar dasgau trawsgwricwlaidd, er mwyn magu medrau llythrennedd, rhifedd a TGCH disgyblion. Mae’r ysgol yn anelu i ddatblygu dysgwyr hyderus a chyfforddus ym mhob agwedd, er enghraifft wrth arddangos y cyfleoedd sydd mewn ‘bywyd go iawn’ i ddefnyddio llythrennedd, rhifedd a TGCH hefo’i gilydd yn hytrach na mewn sefyllfaoedd ar wahân.

Wrth weithredu ar flaenoriaethau a’r wybodaeth a ddaw o fonitro a gweithgareddau hunanarfarnu amrywiol mae’r staff yn cydweithio i gysoni nifer o ffactorau sydd yn effeithio ar y ddarpariaeth a’r safonau.  Wrth wraidd pob newid, mae awydd a’r angerdd i greu meddylfryd ysgol gyfan.  Felly, mae gwneud yn siŵr bod egwyddorion cadarn y cyfnod sylfaen yn y dosbarth meithrin a derbyn yn cael ei ddatblygu ymhellach ym Mlwyddyn 1 a 2 yn fan cychwyn pwysig.  Gyda phenodiadau staff newydd, roedd gofalu bod gan yr holl staff ddealltwriaeth gadarn o egwyddorion y cyfnod sylfaen yn holl bwysig a threfnwyd hyfforddiant amrywiol er mwyn gallu datblygu meddylfryd addysgu’r blynyddoedd cynnar.  Bu ffocws pendant hefyd ar ddatblygu staff i ymateb i ddisgwyliadau deiliannau’r rhaglenni astudio fframwaith y cyfnod sylfaen ym Mlwyddyn 1 a 2.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Rhai arferion sydd yn effeithio ar annibyniaeth a medrau rhifedd yn benodol yw:

  • athrawon a staff yn cyd-gynllunio thema mewn cyfarfodydd yn gyson er mwyn amlinellu medrau ac amcanion dysgu clir, gan ymateb i’r rheiny drwy gynllunio tasgau diddorol a chyfoethog sy’n cyfateb i ddisgwyliadau’r deiliannau uchaf

  • cyd-gynllunio sy’n gofalu nad oes ail-adrodd tasgau sydd â lefel her isel

  • athrawon ym mhob dosbarth yn cadw proffil un plentyn lefel uwch ar gyfer pob deilliant.Mae pob tasg yn y proffiliau wedi eu hasesu yn ôl disgwyliadau deilliannau llafar, darllen, ysgrifennu, a mathemateg.Mae hyn yn galluogi staff i fireinio ac addasu cynlluniau er mwyn rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr gyrraedd y deilliannau uchel yn gyson

  • mynnu cysondebo un dosbarth i’r llall, er enghraifft drwy ddull gosod meini prawf ac asesu ar gyfer dysgu ‘Sali Seren’ o’r meithrin ymlaen, a defnyddio’r un strategaethau addysgu cysyniadau mathemategol ymhob dosbarth.Yn ogystal wrth fireinio dulliau ac amseru addysgu mathemateg pen drwy rannu arferion da o fewn yr ysgol

  • sicrhau fod staff yn defnyddio’r un ieithwedd wrth asesu ar gyfer dysgu. Modelu iaith addysgeg ‘ sut yda chi’n dysgu orau?’ ‘sut yda ni’n gwella’r gwaith?’ ‘beth am asesu’r gwaith hefo’n gilydd’, sut allwch chi wneud Sali Seren yn hapus?

  • wrth gynllunio’r ardaloedd, mireiniwyd yr arferion drwy roi tasgau trawsgwricwlaidd i’w gweithredu a chyfleodd i ddatrys problemau oedd yn cynnwys cymhwyso rhifedd- ymhob ardal gan gynnwys yr ardal tu allan.Mae’r heriau'r un mor heriol a thrawsgwricwlaidd yn yr ardal tu allan ag ydynt mewn tasg ffocws

  • cynnal teithiau dysgu yn gyson.Mae’r rhai rhifedd yn benodol yn rhoi cyfleoedd i’r athrawon esbonio pwrpas pob ardal a pha sgiliau sydd yn cael eu datblygu ynddynt, sydd yn esgor ar drafodaethau a rhannu arferion da. Mae’n amlygu cryfderau a meysydd sydd angen eu datblygu

  • tasgau yn rhoi cyfleoedd cyson i ddysgu yn weithredol ac ymarferol

  • addasu’r ardaloedd yn gyson er mwyn cymhwyso cysyniadau mathemategol heriol, a’r rheiny wedi eu gwahaniaethu ar lefel briodol i ymestyn pob lefel gallu

  • tîm o gymorthyddion ymroddedig wedi eu hyfforddi a’u cynnwys yn y strategaethau ac mae’r heriau/ tasgau wedi eu gosod ymhob ardal ac yn weledol i bawb.Er enghraifft, fel lluniau a symbolau yn y dosbarth meithrin a derbyn er mwyn i’r dysgwyr allu gweithio’n annibynnol yn yr ardaloedd

  • rhoi bri ar gyfleoedd pob plentyn i gael llais cryf yn eu dysgu sydd yn esgor ar ymagwedd bositif a dyfalbarhad wrth iddyntlwyddo

  • y ddarpariaeth ar gyfer lles pob plentyn yn rhoi’r cyfle gorau posib iddynt ddysgu hyd eithaf eu gallu gan eu bod yn hapus a diogel yn yr ysgol

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Yn dilyn arsylwi gwersi gyda’r ffocws ar rifedd dyma rai sylwadau o’r broses:

  • ‘gwaith cydweithredol yn effeithiol iawn yn bron pob un o’r gwersi gyda’r arferion hynod yn arddangos gwaith pâr a grŵp effeithiol iawn gan lawer o’r plant. Gwelwyd arfer rhagorol gan barau yn helpu ei gilydd i wella a chywiro eu gwaith yn gyson a hyn yn amlwg yn rhan naturiol o drefn ac ethos y dysgu. Roeddynt yn dyfalbarhau ar dasgau heriol yn arbennig o dda.

  • Roedd bron pob un o’r disgyblion yn llawn brwdfrydedd wrth weithio ar y tasgau

  • cafodd y rhan fwyaf gyfle i wella’u gwaith-Yn yr arferion gorau, roedd cyfleoedd i atgyfnerthu a gwella’r dysgu yn digwydd yn gyson drwy’r wers yn erbyn y Meini prawf llwyddiant .

  • gwelwyd datblygu sgiliau rhifedd , llythrennedd, corfforol a TGCH llawn dychymyg yn yr ardal tu allan - effaith gweithredu ar flaenoriaeth ‘datblygu'r ardal tu allan’ y cynllun datblygu ysgol

  • yn yr arferion gorau, roedd y cyfleoedd a’r cynllunio yn benodol ar gyfer hunan werthuso a barnu llwyddiant yn effeithio’n fawr ar y safonau. Yn bron pob un o’r gwersi cafodd y disgyblion gyfleoedd da i hunan asesu.

  • roedd y cyfleoedd i adfyfyrio yn rhan o gynllun y gwersi ac mae hyn yn arfer dda.

  • roedd cyfleoedd da a da iawn i bron bob un weithio’n annibynnol- ar ei orau roedd y tasgau yn hyrwyddo gwaith annibynnol, amrywiol a heriol. Mae hyrwyddo gweithio yn annibynnol yn nodwedd hynod o gryf yn bron pob un o’r gwersi.

  • roedd y rhan fwyaf o’r disgyblion yn gallu esbonio’r tasgau yn dda iawn.’

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Rhannu arfer dda:

  • yn ystod y flwyddyn 2016-2017 derbyniwyd dros 30 o staff o wahanol ysgolion o ranbarth y gogledd i dderbyn hyfforddiant rhifedd ar safle’r ysgol. Roedd cyflwyniad a thaith ddysgu i’r dosbarthiadau i weld y disgyblion ar waith yn yr ardaloedd

  • trefnwyd sesiynau craffu ar lyfrau gyda nifer o ysgolion gan gynnwys ysgolion grŵp her GwE er mwyn rhannu syniadau ar sut i gynllunio tasgau heriol, ymestynnol.

  • croesawyd staff o ysgolion oddi mewn i’r awdurdod i drafod systemau llunio proffil haen uwch pob dosbarth a’r defnydd ohonynt i fonitro tasgau heriol trawsgwricwlaidd ac arddangos disgwyliadau uchel

  • defnyddir samplau o’r proffiliau a llyfrau Blwyddyn 2 fel arfer mewn hyfforddiant GwE.

Cysylltiadau

cerenlloyd@gwynedd.llyw.cymru