Arfer Effeithiol |

Adborth effeithiol i gynorthwyo dysgwyr annibynnol

Share this page

Nifer y disgyblion
227
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Palmerston yn Y Barri ym Mro Morgannwg.  Mae 227 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng tair ac un ar ddeg oed.  Mae wyth dosbarth yn yr ysgol, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ddosbarthiadau un oedran.  Yn ychwanegol, mae gan yr ysgol ganolfan adnoddau ar gyfer disgyblion ag anableddau corfforol a meddygol cymhleth a ariennir gan yr awdurdod lleol.  Mae’r disgyblion hyn yn integreiddio’n llawn i ddosbarthiadau prif ffrwd ac yn manteisio ar gwricwlwm wedi ei addasu. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

O ganlyniad i hunanarfarnu trylwyr, penderfynodd yr ysgol flaenoriaethu ei dealltwriaeth ddyfnach o ran y rôl y gallai adborth effeithiol ei chael i wella safonau yng ngwaith disgyblion.  Fel rhan o’r daith hon, dewisodd yr ysgol ganolbwyntio ar wahanol elfennau ‘Asesu ar gyfer Dysgu’, ar ôl sylweddoli na ellir cynnal asesiad priodol oni bai fod disgyblion yn meddu ar ddealltwriaeth glir o’r elfennau hyn a’r modd y maent yn cyfuno â’i gilydd.  Mae hyn wedi arwain at gyfres o sesiynau llwyddiannus i hyfforddi staff.  Trwy gydweithio, datblygodd y staff ddull cyson ar gyfer marcio sy’n cynnwys camau nesaf clir.  Elfen hanfodol o lwyddo yw sicrhau bod y disgyblion yn gweithredu yn unol â’r cyngor y mae staff yn ei roi iddynt.  Cafodd targedau a luniwyd gan yr athrawon a’r disgyblion eu defnyddio’n uniongyrchol o feini prawf llwyddiant gwahaniaethol sy’n datblygu’n raddol o ran eu her.  Mae adolygiadau rheolaidd o’r elfennau hyn yn galluogi staff i fireinio a datblygu effeithiolrwydd y sylwadau hyn ac mae’r effaith yn amlwg yng ngwaith disgyblion ac yn eu dealltwriaeth o sut i wella. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mynd â marcio ac adborth i’r lefel nesaf – gan sicrhau bod dysgu carlam yn digwydd trwy gynnwys y disgyblion. 

Am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r ysgol wedi cyflwyno rhaglen hyfforddi staff sy’n canolbwyntio’n dda ar wahanol elfennau Asesu ar gyfer Dysgu bob mis.  Maent yn cynnwys: datblygu amcanion dysgu clir, ymglymiad disgyblion, meini prawf llwyddiant dilyniadol, asesu cyfoedion/hunanasesu a holi o ansawdd da.  Mae’r rhain i gyd yn elfennau allweddol i sicrhau adborth effeithiol sy’n cefnogi dysgu carlam.  Mae’r sesiynau hyn yn rhoi cyfleoedd rheolaidd i staff weithio gyda’i gilydd, trafod a chynllunio ar gyfer ffocws ar y cyd o fewn eu grŵp ymddiriedaeth.  Ar ôl y sesiynau hyn, mae arsylwadau cymheiriaid mewn grwpiau bach yn galluogi staff i ymarfer eu medrau, myfyrio ar eu harfer eu hunain a chymryd rhan mewn deialog onest trwy adborth ar ffurf arddull hyfforddi. 

Er mwyn datblygu ansawdd adborth ysgrifenedig, penderfynodd staff newid eu dull o graffu ar lyfrau.  Yn y gorffennol, roedd craffu ar lyfrau disgyblion yn cynnwys yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, wedi’i ddilyn gan adborth cyffredinol i staff.  Ddwy flynedd yn ôl, dechreuodd yr ysgol adolygu’r broses hon i alluogi ffordd fwy cynhwysol ac effeithiol o ymgorffori gwelliant.  Roedd y broses hon yn golygu bod staff yn rhannu eu llyfrau yn ystod cyfarfod staff ac yn cynnal archwiliad wedi’i seilio ar ganllawiau Estyn fel man cychwyn.  Fe wnaeth staff gydnabod elfennau yr oedd angen eu gwella, a thrwy ailedrych arnynt yn rheolaidd a chymryd rhan mewn deialog onest, fe wnaethant ddatblygu cynllun gweithredu priodol i wneud hynny.

Trwy gydol y daith hon, datblygodd  staff ddull adborth sy’n gadarnhaol, yn benodol ac yn dangos y camau nesaf yn glir i ddisgyblion.  Defnyddiant ddangosydd gweledol i amlygu agweddau ar waith da mewn un lliw, a ffyrdd ymlaen mewn lliw arall.  Ar ôl arbrofi â’r dull hwn, rhoddodd yr arweinwyr gyfle i staff rannu eu canfyddiadau â nhw.  Canfu staff fod eu hamser yn cael ei ddefnyddio’n well trwy amlygu llai a defnyddio iaith sy’n fwy cryno.  Dangosodd adolygiad diweddarach o lyfrau nad oedd rhai disgyblion yn gweithredu yn unol â sylwadau o hyd, felly cytunodd staff ddefnyddio un cwestiwn manwl gywir fel cam nesaf y byddai’n rhaid i ddisgyblion ei ddilyn.  Trwy ganiatáu amser i ddisgyblion ar ddechrau gwers a sesiwn benodol ar ddiwedd yr wythnos, o’r enw ‘Dydd Gwener Adrodd yn ôl’, roedd athrawon yn cael mwy o amser i adolygu dysgu ochr yn ochr â nhw, a oedd wedi bod yn faes pryder i rai staff.  Trwy roi mwy o berchnogaeth i ddisgyblion o’u dysgu trwy gyfeirio at y meini prawf llwyddiant, cawsant eu galluogi i lunio eu targedau eu hunain mewn ffordd ystyrlon mewn gwersi.  Gall athrawon a disgyblion ddathlu cyflawniad nawr, sy’n ymwneud yn fanwl â’r meini prawf llwyddiant ac yn creu ffordd effeithiol ymlaen.  Hyd yn oed yn fwy hanfodol, mae disgyblion bellach yn gweithredu yn unol â’r sylwadau hyn ac mae cynnydd yn amlwg. 

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

  • Mae bron pob un o’r disgyblion yn gwybod beth yw eu targedau personol yn dda ac maent yn deall beth mae angen iddynt ei wneud i’w cyflawni.
  • Mae pob un o’r athrawon yn monitro cynnydd disgyblion yn effeithiol ac yn defnyddio’r wybodaeth hon yn dda i gynllunio profiadau dysgu heriol sy’n arwain at welliannau yng ngwaith disgyblion. 
  • Mae bron pob un o’r disgyblion yn gwneud cynnydd, sydd o leiaf yn dda, ac mae lleiafrif ohonynt yn gwneud cynnydd eithriadol o dda yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.
  • Mae bron pob un o’r disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gwneud cynnydd da iawn mewn perthynas â’u targedau personol.
  • Mae’r addysgu yn dda o leiaf, ac yn aml yn rhagorol.
  • Mae defnyddio egwyddorion Asesu ar gyfer Dysgu ar bob cam o daith ddysgu’r disgyblion wedi annog disgyblion i arwain eu dysgu eu hunain ac felly ymgorffori gweledigaeth yr ysgol i greu dysgwyr hyderus, sicr ac annibynnol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae Palmerston wedi rhannu’r arfer hon y tu hwnt i’r ysgol trwy gynadleddau a hyfforddiant arfer orau ar gyfer Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De.  Mae’r ysgol yn darparu hyfforddiant ar gyfer rhwydwaith Cynorthwywyr Cymorth Dysgu o fewn ysgolion y clwstwr lleol.  Mae hefyd wedi rhannu ei thaith trwy arwain sesiynau cyfnos ar gyfer ysgolion eraill yn y consortiwm rhanbarthol.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol