
Ein cenhadaeth a’n gweledigaeth
Ein cenhadaeth yw cyflawni rhagoriaeth i bob dysgwr yng Nghymru trwy ddarparu gwasanaethau arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel. Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff yn llais awdurdodol ar addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Ein hamcanion strategol yw:
-
Darparu atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth ar ansawdd a safonau darpariaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru
-
Llywio datblygiad polisi cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru a’i swyddogion
-
Meithrin gallu i wella cyflwyno system addysg a hyfforddiant yng Nghymru
Ein hegwyddorion cyflawni yw:
Ein gwerthoedd:
-
Sicrhau bod dysgwyr a dinasyddion wrth wraidd ein gwaith
-
Gweithredu gyda didwylledd, uniondeb a gwrthrychedd, gan ddangos y safonau uchaf o ran gwasanaeth cyhoeddus
-
Meithrin amgylchedd gweithio difyr ac iach
-
Gweithio mewn partneriaeth ag eraill, tra’n cynnal ein hannibyniaeth
-
Dangos arweinyddiaeth a gwaith tîm effeithiol ar bob lefel
-
Gwerthfawrogi pobl a’r cyfraniadau a wnânt
-
Annog cyfrifoldeb, blaengaredd ac arloesedd