Hyfforddiant Arolygwyr Cymheiriaid
Rydym yn aml yn chwilio am benaethiaid neu uwch arweinwyr cynradd â dwy flynedd o brofiad ar y lefel honno a phum mlynedd o brofiad fel athro i hyfforddi’n Arolygwyr Cymheiriaid.
Cewch chwarae rhan allweddol mewn arolygiadau ysgolion cynradd
- Ennill cipolwg uniongyrchol i’r broses arolygu;
- Darganfod rhagor am hunanarfarnu a gwella;
- Dysgu oddi wrth weithwyr proffesiynol eraill ym maes addysg a rhannu eu harfer orau;
- Ymestyn eich datblygiad proffesiynol