Adroddiad thematig |

Saesneg yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 - Mehefin 2014

Share this page

Adroddiad thematig | 01/06/2014

pdf, 659.67 KB Added 01/06/2014

Lluniwyd yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014. Mae’r cyngor wedi’i osod yng nghyd-destun agenda gwella safonau Llywodraeth Cymru. Mae’r agenda hon yn pwysleisio’r angen i ysgolion gyflymu gwelliant fel bod dysgwyr yn cyflawni safonau uwch.Mae’r adroddiad yn archwilio safonau Saesneg yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 ac mae’n cynnwys astudiaethau achos o arfer orau. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at Saesneg fel pwnc sy’n cael ei addysgu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg.

Argymhellion

Dylai ysgolion cynradd ac uwchradd:

  • barhau i ganolbwyntio ar godi safonau ysgrifennu annibynnol ac estynedig disgyblion, gan roi sylw agos i gynnwys, mynegiant a chywirdeb;
  • parhau i wella gallu disgyblion i ddarllen er gwybodaeth a defnyddio medrau darllen lefel uwch;
  • mynd i’r afael â thanberfformio gan ddisgyblion sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim mewn Saesneg, gan gynnwys ar gyfer disgyblion mwy abl, trwy dargedu a gweddu cymorth i’w hanghenion dysgu unigol;
  • darparu gwaith heriol mewn Saesneg i ymestyn pob disgybl, yn enwedig y rhai mwy abl;
  • cytuno sut i addysgu sillafu, atalnodi a gramadeg a darparu cysondeb mewn dulliau, fel addysgu rheolau a strategaethau sillafu;
  • gwella arferion asesu ar gyfer dysgu a marcio gwaith disgyblion;
  • sicrhau cydbwysedd gwell rhwng deunydd llenyddol a deunydd anllenyddol ac ymdrin â phob un o’r saith genre ysgrifennu;
  • gweithio gydag ysgolion eraill i rannu arferion safoni a chymedroli effeithiol; a
  • rhannu mwy o wybodaeth i gynorthwyo cyfnod pontio disgyblion i’r ysgol uwchradd.

Yn ychwanegol, dylai ysgolion uwchradd:

  • wella addysgu ysgrifennu fel proses trwy annog disgyblion i gynllunio, adolygu, golygu a gwella eu gwaith eu hunain; a
  • gwneud mwy o ddefnydd o lafaredd cyn darllen ac ysgrifennu, er mwyn helpu disgyblion i ddatblygu ac ymestyn eu dealltwriaeth a gwella ansawdd eu gwaith.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • wella dibynadwyedd a dilysrwydd asesiadau athrawon trwy adolygu meini prawf asesu a chyflwyno safoni allanol yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol