Adroddiad thematig |

Prentisiaethau uwch mewn dysgu yn y gwaith

Share this page

Adroddiad thematig | 20/09/2018

pdf, 1.1 MB Added 20/09/2018

Mae’r adroddiad yn archwilio’r safonau, y ddarpariaeth, a’r arweinyddiaeth a rheolaeth mewn rhaglenni prentisiaeth uwch yn y sector dysgu yn y gwaith ar hyd a lled Cymru.

Argymhellion

Dylai darparwyr dysgu yn y gwaith sicrhau:

  • A1 Bod pob dysgwr yn cwblhau fframwaith ei gymhwyster yn amserol i wella cyfraddau cwblhau yn llwyddiannus
  • A2 Bod pob dysgwr yn dilyn y rhaglen prentisiaeth uwch gywir er mwyn gostwng nifer uchel y rhai sy’n rhoi’r gorau i’w rhaglen yn gynnar
  • A3 Bod gan bob dysgwr fentor i’w gefnogi yn y gweithle
  • A4 Bod cyflogwyr yn cynorthwyo dysgwyr i fynychu gweithdai a sesiynau hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith
  • A5 Eu bod yn ymgysylltu â chyflogwyr newydd ac yn eu recriwtio i gymryd rhan mewn rhaglenni hyfforddiant er mwyn lleihau’r orddibyniaeth ar gyflogwyr presennol

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A6 Wneud yn siwr bod pob darparwr yn deall sut gellir achredu cymwysterau presennol dysgwyr ar gyfer cymwysterau medrau hanfodol
  • A7 Paru nifer y prentisiaethau uwch mewn meysydd sector pwnc gwahanol yn agosach â galwadau cyflogwyr ac economi Cymru

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol