Adroddiad thematig |

Darpariaeth ar gyfer gofalwyr ifanc mewn ysgolion uwchradd, colegau addysg bellach ac unedau cyfeirio disgyblion ledled Cymru

Share this page

Mae adroddiad hwn yn gwerthuso ansawdd y ddarpariaeth a drefnir ar gyfer gofalwyr ifanc mewn ysgolion uwchradd, UCDau a cholegau yng Nghymru. Mae’n nodi strategaethau i gynorthwyo darparwyr i wella darpariaeth a deilliannau ar gyfer gofalwyr ifanc. Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos arfer effeithiol sy’n dangos sut mae darparwyr yn cynorthwyo gofalwyr ifanc yn llwyddiannus.

Argymhellion

Dylai ysgolion uwchradd, colegau ac UCDau​:

  • A1 Sicrhau bod ganddynt weithdrefnau cadarn i nodi pa rai o’u disgyblion/dysgwyr sydd â rôl ofalu
  • A2 Cael aelod o staff enwebedig sydd â chyfrifoldeb arweiniol am ofalwyr ifanc, sy’n gweithredu fel unigolyn cyswllt ar gyfer gofalwyr ifanc, ac yn hyrwyddo eu hanghenion
  • A3 Codi ymwybyddiaeth staff am anghenion gofalwyr ifanc
  • A4 Ymgysylltu â gwasanaethau arbenigol i adolygu a gwella eu darpariaeth i ddiwallu anghenion gofalwyr ifanc
  • A5 Olrhain a monitro cynnydd a deilliannau ar gyfer gofalwyr ifanc, yn unol â’r drefn ar gyfer grwpiau eraill o ddysgwyr sy’n agored i niwed
  • A6 Gwerthuso eu darpariaeth ar gyfer gofalwyr ifanc gan gyfeirio at y rhestr wirio yn Atodiad 1 neu becynnau cymorth sydd ar gael.

Dylai awdurdodau lleol:

  • A7 Ganolbwyntio strategaethau gofalwyr ar gynyddu capasiti ysgolion, colegau ac UCDau i nodi a diwallu anghenion gofalwyr ifanc

Dylai Llywodraeth Cymru​:

  • A8 Lunio data dibynadwy a gesglir yn genedlaethol i helpu nodi gofalwyr ifanc

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol