Adroddiad thematig |

Cymraeg yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog

Share this page

Mae ein hadroddiad newydd yn edrych ar safonau’r Gymraeg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

Cwestiynau i ysgolion eu hystyried fel rhan o’u hunanarfarniad

Fel man cychwyn ar gyfer adolygu arfer bresennol mewn Cymraeg, gall ysgolion ddefnyddio’r cwestiynau canlynol fel rhan o’u hunanarfarniad

Safonau

 
1. A yw disgyblion yn gwneud y cynnydd gorau posib yn y Gymraeg?
2. A yw cyrhaeddiad disgyblion yn y Gymraeg yn cymharu’n ffafriol â chyrhaeddiad y rheini mewn ysgolion tebyg?
3. A yw disgyblion yn parhau i ddatblygu eu medrau iaith Gymraeg wrth drosglwyddo rhwng y cyfnodau allweddol gwahanol?
4. A yw disgyblion yn arddangos agweddau cadarnhaol a mwynhad wrth ddysgu Cymraeg?

Darpariaeth

5. A yw trefniadaeth y cwricwlwm a’r dyraniad amser yn galluogi disgyblion i wneud cynnydd da a chynnal hwnnw yn y Gymraeg?
6. A ydym yn cynllunio’r gweithgareddau dysgu fel eu bod yn atgyfnerthu medrau iaith y disgyblion?
7. Beth yw ansawdd yr addysgu? A ydym yn rhoi digon o bwyslais ar lafaredd? A yw’n hathrawon yn fodelau iaith da?
8. A oes parhad rhwng cyfnodau allweddol ac ar draws cyfnodau allweddol o ran profiadau disgyblion yn y Gymraeg?
9. A yw’r disgyblion yn cael cyfleoedd digonol i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg mewn ystod o sefyllfaoedd y tu allan i wersi Cymraeg?

Arweinyddiaeth

10. A yw ethos yr ysgol yn hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru ac agweddau cadarnhaol tuag atynt yn ddigon da?
11. A oes gennym ddarlun cywir o’r hyn y mae angen ei wneud i wella deilliannau a darpariaeth yn Gymraeg?
12. A oes digon o staff sy’n gallu dysgu Cymraeg yn effeithiol? A yw’n hathrawon yn gymwys i addysgu Cymraeg?
13. A ydym yn darparu cymorth / dysgu proffesiynol o ansawdd da ar gyfer athrawon Cymraeg anarbenigol a staff eraill yn yr ysgol?
14. A ydym yn gweithio’n dda mewn partneriaeth â darparwyr eraill?
15. Beth yw ansawdd y cydweithio rhwng ysgolion cynradd a grwpiau cyn-ysgol a rhwng ysgolion uwchradd ac ysgolion cynradd partner i sicrhau cysondeb, parhad a dilyniant o ran y medrau Cymraeg?
16. A ydym yn manteisio ar y cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan gyrff a mudiadau eraill?
 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol