Adroddiad thematig |

Cymorth awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i ysgolion ac UCDau i ymateb i COVID-19

Share this page

Mae’r adroddiad hwn yn cynnig cynnig trosolwg o’r ffordd y mae awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol wedi gweithio gydag ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) i hyrwyddo dysgu a chefnogi disgyblion bregus yn ystod cyfnod COVID-19 rhwng Mehefin a Thachwedd 2020, sef y cyfnod pan oedd ysgolion yn ailagor yn dilyn y cyfnod clo. Mae’n cofnodi’r ffyrdd y mae awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol wedi addasu’u gwaith i ymateb i’r heriau yn deillio o COVID-19. Gwnaed y gwaith cyn i’r holl ysgolion ddychwelyd at ddysgu o bell ym mis Ionawr 2021, ond bydd yn fuddiol i lywio ffyrdd presennol o weithio.

Argymhellion

Argymhellion i Lywodraeth Cymru weithio gyda chonsortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, a phartneriaid a darparwyr eraill i:

  • A1 Ymateb ar frys i fynd i’r afael a’r rhwystrau i ddysgu o adre, yn enwedig lle mae'r rhain yn ymwneud a diffyg mynediad i gyfrifiaduron neu gyswllt a’r we
  • A2 Gwella ansawdd y profiadau dysgu o bell a dysgu cyfunol i ddisgyblion trwy gefnogi addysgu mwy effeithiol ar draws ac o fewn ysgolion ac UCDau
  • A3 Datblygu dulliau cydlynol i wella cynnydd ym medrau llythrennedd, rhifedd a medrau personol a chymdeithasol disgyblion bregus y mae’r pandemig wedi effeithio’n anghymesur arnynt, er enghraifft disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
  • A4 Sefydlu strategaeth i fonitro ac i fynd i’r afael ar effaith hirdymor y pandemig ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl disgyblion
  • A5 Creu cyfleoedd i bwyso a mesur a gwerthuso effaith polisïau ac arferion a ddatblygwyd yn ystod y cyfnod hwn i lywio ffyrdd o weithio yn y dyfodol a dylunio’r cwricwlwm

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol