Adroddiad thematig |

Cymedroli asesiadau athrawon yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3: adolygiad o gywirdeb a chysondeb

Share this page

Mae canfyddiadau’r arolwg wedi eu seilio ar ymweliadau ag wyth cyfarfod cymedroli clwstwr, dau ym mhob un o’r consortia rhanbarthol, wedi eu dilyn gan ymweliadau â dwy ysgol ym mhob clwstwr. Yn ystod yr ymweliadau, ystyriodd arolygwyr effeithiolrwydd cyfarfodydd cymedroli clwstwr a gweithdrefnau mewnol ysgolion ar gyfer sicrhau asesiadau cywir gan athrawon. Bu arolygwyr yn canolbwyntio’n benodol ar gymedroli Saesneg, Cymraeg a Chymraeg ail iaith. Fe wnaethant hefyd arfarnu i ba raddau y mae darparwyr yn gyfarwydd â’r gofynion statudol newydd ar gyfer cymedroli clwstwr.

Argymhellion

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia lleol:

  • A1 Ddatblygu cyfleoedd hyfforddi ar gyfer ysgolion i sicrhau cysondeb yn y barnau ar gyfer llafaredd, digonolrwydd sail y dystiolaeth, cymhwyso’r dull ‘gweddu orau’ yn well, a chymedroli gwaith sydd ar y ffin rhwng lefelau
  • A2 Adolygu eu rôl mewn sicrhau safonau cyson ar draws clystyrau, awdurdodau a rhanbarthau

Dylai ysgolion:

  • A3 Ystyried ystod eang o waith disgyblion wrth asesu a chymedroli lefelau
  • A4 Rhoi ystyriaeth briodol i lefel y cymorth, y prosesau drafftio, effaith marcio athrawon a digonolrwydd y dystiolaeth wrth ddyfarnu lefel derfynol
  • A5 Canolbwyntio ar waith disgyblion sydd ar ffin is lefelau wrth gymedroli mewn ysgolion ac mewn cyfarfodydd clwstwr
  • A6 Gwneud yn siŵr bod yr holl lefelau’n cael eu hadolygu a’u haddasu’n briodol ar ôl cymedroli mewnol a chymedroli clwstwr a chyn cyflwyno lefelau terfynol
  • A7 Cyfeirio at ddeunyddiau safonedig wrth asesu, cymedroli a safoni mewn ysgolion ac mewn cyfarfodydd clwstwr

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol