Adroddiad thematig |

Atal – pa mor dda y mae ysgolion a gynhelir yn gweithredu eu dyletswyddau o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015

Share this page

Mae’r adroddiad thematig hwn yn gwerthuso pa mor dda y mae ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn cydymffurfio â’u dyletswyddau statudol, a pha mor dda y cânt eu cefnogi â hyn gan awdurdodau lleol. Mae’r adroddiad hefyd yn gwerthuso pa mor dda y mae ysgolion yn defnyddio’r cwricwlwm i feithrin gwydnwch ac ymwybyddiaeth ymhlith disgyblion, sy’n helpu i’w cadw’n ddiogel rhag risgiau radicaleiddio ac eithafiaeth.

Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • A1 Gynnwys risgiau i ddisgyblion o ideolegau radical ac eithafol ym mholisïau’r ysgol, yn enwedig polisïau sy’n cwmpasu TGCh a diogelwch ar-lein
  • A2 Cofnodi ac adrodd am bob achos o iaith hiliol a bwlio hiliol yn briodol, a chynnig cymorth a her addas i ddioddefwyr a chyflawnwyr
  • A3 Cydnabod bod radicaleiddio ac eithafiaeth yn risgiau gwirioneddol i ddisgyblion ym mhob ysgol, a sicrhau bod hyfforddiant staff, polisïau a’r cwricwlwm yn mynd i’r afael â’r risgiau hyn yn briodol
  • A4 Sicrhau bod gan yr holl ddisgyblion lais a’u bod yn gallu rhannu unrhyw bryderon sydd ganddynt gyda’r ysgol am ymddygiadau neu fynegiannau o syniadau radical neu eithafol

Dylai awdurdodau lleol:

  • A5 Fonitro gweithgarwch diogelu ysgolion yn ymwneud â dyletswyddau o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 gan ddefnyddio meini prawf ym mhecynnau offer hunanasesu’r Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru
  • A6 Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod ysgolion yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau gweithredu ôl-gyfeirio er mwyn rhoi’r cymorth gorau i ddisgyblion sy’n destun cymorth Sianel
  • A7 Gweithio gyda chonsortia rhanbarthol i gynorthwyo ysgolion i ddatblygu eu cwricwlwm i gynorthwyo disgyblion i feithrin gwydnwch pan fyddant yn wynebu dylanwadau radical ac eithafol
  • A8 Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod ceisiadau am gyngor cyn cyfeiriadau yn cael eu cofnodi er mwyn darparu gwybodaeth am y materion sy’n wynebu ysgolion
  • A9 Gwella’r arfer o olrhain nifer yr arweinwyr ysgol, y llywodraethwyr a’r athrawon sy’n elwa ar hyfforddiant, a sicrhau bod yr hyfforddiant yn cael ei raeadru’n effeithiol

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A10 Gweithio gydag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i gynorthwyo ysgolion i feithrin gwydnwch disgyblion pan fyddant yn wynebu dylanwadau radical ac eithafol

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol